Archebwch eich lle ar Ddiwrnod i Ymgeiswyr trwy lenwi’r ffurflen isod.
Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.
Diwrnodau i Ymgeiswyr 2025
- Dydd Sadwrn, 22 Chwefror
- Dydd Sadwrn, 22 Mawrth
- Dydd Sul, 13 Ebrill
Yn ystod y diwrnod byddwch yn gallu:
- Mynychu sesiwn blasu pwnc i gael profiad o astudio yma
- Gweld unrhyw adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- Cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- Cael mwy o fanylion am eich pwnc ac am fywyd myfyriwr ym Mangor
- Gweld y llety i fyfyrwyrView the student accommodation
- Mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- Ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld - gobeithio y byddem yn gallu eich helpu i wneud eich penderfyniad terfynol
Archebu eich lle ar Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Defnyddiwch y ffurflen isod i archebu eich lle ac mi fyddem mewn cysylltiad â chi yn fuan.