Fy ngwlad:
Edrych ar athrawes mewn dosbarth

Addysgu

Mae astudio Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor yn golygu y byddwch yn graddio gyda Statws Athro Cymwysedig neu SAC. Trwy gydol eich gradd byddwn yn eich paratoi i fod yr athro gorau posibl trwy gymysgu theori ag ymarfer a gweithio gyda rhwydwaith o ysgolion.

Ar y dudalen hon:
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Addysgu
Lois Elan Jones gyda'i thystysgrif graddio

Stori Lois Elan Jones Ar daith i Batagonia...

Cefais dair mlynedd gwerthfawr ym Mangor, gyda atgofion melys iawn o'r cyfnod. Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel athrawes lanw ar draws ysgolion Gwynedd, ac yna yn teithio i Batagonia mis Mawrth i weithio fel athrawes yn Y Gaiman am 9 mis. Mae'r cysylltiadau proffesiynol rwyf wedi eu creu ar y cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i gael gwaith llanw yn y sir, ac mae'r holl wybodaeth a strategaethau dysgais ar y cwrs yn dod yn ddefnyddiol pob dydd...

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu

Mae'r radd BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei chydnabod ledled Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu.  Mae'n eich paratoi'n llawn ar gyfer gofynion addysgu yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â swyddogaethau eraill sy'n cefnogi plant (cyn-ysgol) a swyddi'n ymwneud â chwricwlwm (cynllunio cwricwlwm).

Mae yna opsiynau eraill ar gael i chi hefyd yn dilyn eich gradd, gan gynnwys ymchwil addysgol neu fynd ymlaen i feysydd addysgol mwy arbenigol.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Addysgu. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Addysgu llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Addysgu ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Addysgu ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Ymchwil o fewn Addysgu

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.

Mae'r tîm hyfforddi athrawon ym Mangor yn ymwneud ag ystod eang o ymchwil sy'n cyfrannu at fodiwlau ar y cwrs, gan gynnwys ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.