Fy ngwlad:
Tiwtorial bydwreigiaeth

Bydwreigiaeth

MAES PWNC ISRADDEDIG

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Bydwreigiaeth
Myfyrwyr bydwreigiaeth yn hyfforddi ar ddymi

Pam Astudio Bydwreigiaeth?

Mae ein gwaith partneriaeth agos gyda phartneriaid ymarfer yn sicrhau bod ein rhaglen Baglor Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn eich paratoi i fod yn fydwraig sy'n gallu darparu gofal bydwreigiaeth rhagorol. Cewch eich dysgu mewn sefydliad addysg uwch sydd wedi ennill gwobr aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan addysgwyr bydwreigiaeth arbenigol a chan ymarferwyr profiadol yn ein sefydliadau partner dysgu ymarfer.

360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd

Fideo - Astudio Bydwreigiaeth

Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Bydwreigiaeth sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Proffil Myfyriwr Beca Dafydd

Bydwreigiaeth

"Dwi'n teimlo mod i'n mynd allan i'r gymuned yn hyderus gan ein bod yn derbyn gwybodaeth o safon uchel iawn yn ystod yr wythnosau theori."

Myfyrwyr nyrsio dan hyfforddiant

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bydwreigiaeth

Mae bydwragedd yn aml yn disgrifio eu gwaith fel swydd 'freintiedig'. Mae eu swyddogaeth yn paratoi merched i esgor bywyd newydd yn eu gwneud yn bresenoldeb hanfodol yn ystod pob cam o'r beichiogrwydd, yr esgor a'r cyfnod ôl-enedigol cynnar. Ar ôl cofrestru, gall bydwragedd ddefnyddio eu cymhwyster i weithio mewn lleoliadau gofal iechyd eraill fel unedau gofal babanod arbennig. Mae rhai bydwragedd yn datblygu i fod yn arbenigwyr mewn meysydd fel diabetes neu iechyd y cyhoedd ac iechyd meddwl amenedigol. Mae cyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil ac addysg.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Bydwreigiaeth. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Bydwreigiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Bydwreigiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Bydwreigiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Bydwreigiaeth

Mae ein tîm yn goruchwylio graddau ôl-radd gan gynnwys myfyrwyr meistr, ac mae dau o'n tîm yn goruchwylio myfyrwyr PhD.  Mae ein meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar gynnig genedigaethau gartref, cyfraniad tadau yn ystod esgor, y gofal gorau posibl i oroeswyr trais rhywiol, profiadau merched o gymell esgor, yr hyn sy'n gweithio i gefnogi myfyrwyr bydwreigiaeth yn yr amgylchedd dysgu, defnyddio dull a gynhyrchir ar y cyd i wella profiadau rhoi genedigaeth, sgrinio serfigol, datblygu pecyn arolygu ffetws ar gyfer bydwragedd yn Lesotho ac effaith defnyddio'r Gymraeg ar brofiadau o roi genedigaeth. 

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.