Fy ngwlad:
Llun agos o sgrin cyfrifiadur yn dangos cod

Graddau Gwyddor Data Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Mae data yn sail i bopeth, yn ddatblygiadau meddygol ac yn atebion newid yn yr hinsawdd ac mae'n allweddol i'n dealltwriaeth o'r materion enfawr sy'n ein hwynebu heddiw.

Ar y dudalen yma
Ein cyrsiau Gwyddor Data

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Gwyddor Data i chi

Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial - BSc (Anrh)
Sbardunwch ddatrysiadau deallus gyda data. Archwiliwch ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, a dadansoddwch ddata a chreu modelau rhagfynegol. Datblygwch eich hun i gael gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad.
Cod UCAS
H118
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwyddor Data a Delweddu - BSc (Anrh)
Cyfunwch hanfodion cyfrifiadureg, rhaglennu, dadansoddi data, rhesymu beirniadol a delweddu a byddwch yn barod am yrfa gyffrous.
Cod UCAS
H114
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Cyfleusterau Rhagorol 

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gwneud defnydd o’n cyfleusterau ardderchog sy’n cynnwys:

  • Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf. 
  • Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
  • Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron. 

Cipolwg ar ein cyfleusterau

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cyfrifiadureg. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cyfrifiadureg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cyfrifiadureg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Gwyddor Data

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, darganfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi mynediad uniongyrchol i fyfyrwyr i'r ymchwil cyfrifiadureg diweddaraf. Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y mwyaf o gyfleoedd i gydweithio ac adnoddau Ffotoneg a ChyfathrebuYnni, Amgylcheddol a Bio-synhwyro (EEBG)Delweddu, Data, Modelu a Graffeg (VDMG).

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.