Parc Cenedlaethol Eryri

Gwyddor yr Amgylchedd

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Gwyddor yr Amgylchedd

Pam Astudio Gwyddor yr Amgylchedd?

  • Y 30 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Addysg Gwyddorau'r Amgylchedd (Times/Sunday Times Good University Guide 2018)
  • Gwobr Aur am Ansawdd Addysgu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu diweddaraf
  • Gorsaf ymchwil 252 hectar
  • Gardd fotaneg 18 hectar.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Gwyddor yr Amgylchedd

Mae Gwyddorau'r Amgylchedd yn cynnig hyblygrwydd llwyr yn eich dewis o lwybr gyrfa. Gallwch ddisgwyl dod o hyd i waith mewn sefydliadau diwydiannol, asiantaethau cynghori, llywodraeth leol ac ym maes ymchwil a datblygu, yn Ewrop a thu hwnt. Mae hefyd yn rhoi sylfaen dda ar gyfer addysgu a gwaith yn y cyfryngau.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddor yr Amgylchedd

⁠Ymchwil gyda'r orau yn y byd

Mae Prifysgol Bangor wedi bod ar y blaen ym maes ymchwil yng ngwyddorau'r amgylchedd ers degawdau. Mae amrywiaeth diddordebau ac arbenigedd staff yn golygu bod ein hymchwil yn helpu i ddarparu atebion i broblemau damcaniaethol a chymhwysol sylfaenol yng ngwyddorau'r amgylchedd, yn ogystal â chyfarwyddo ein haddysgu. Ymhlith eraill, mae astudiaethau parhaus yn canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, rheoli a defnyddio gwastraff, cylchu maetholion, allyriadau nwyon tŷ gwydr o systemau amaethyddol, asesiadau cylch bywyd ac ôl traed carbon, microbioleg amgylcheddol (e.e. ymwrthedd i wrthfiotigau a phathogenau), diogelu'r cyflenwad bwyd (e.e. dwysáu cynaliadwy), a sawl agwedd ar wyddor pridd. Mae pwyslais rhyngwladol iawn i'n hymchwil. Mae nifer o'r tîm yn arbenigwyr gwadd ar bwyllgorau'r llywodraeth, ac rydym yn arbennig o weithgar wrth ymgysylltu â'r cyhoedd i roi cyhoeddusrwydd i'n gwaith. Mae ein staff yn weithgar yn y meysydd ymchwil canlynol.

Cyfleusterau rhagorol

Mae gennym gyfleusterau <https://www.bangor.ac.uk/natural-sciences/research/environment-natural-resources-and-geography/facilities/index.php.en> ardderchog ar gyfer ymchwil, gan gynnwys ein gorsaf ymchwil 252 hectar (Gorsaf Ymchwil Henfaes <https://www.bangor.ac.uk/natural-sciences/research/environment-natural-resources-and-geography/facilities/henfaes.php.en>), lle mae llawer o brojectau wedi'u lleoli, tai gwydr, labordai, a rhizotron <https://www.bangor.ac.uk/natural-sciences/research/environment-natural-resources-and-geography/facilities/treborth.php.ên>, a Chanolfan yr Amgylchedd Cymru <https://www.bangor.ac.uk/natural-sciences/research/environment-natural-resources-and-geography/facilities/environment_centre.php.en>.

Cydweithio rhyngwladol

Rydym yn cydweithio â phobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys arbenigwyr academaidd a diwydiant. Mae nifer o'r tîm yn arbenigwyr gwadd ar bwyllgorau'r llywodraeth, ac rydym yn arbennig o weithgar wrth ymgysylltu â'r cyhoedd i roi cyhoeddusrwydd i'n gwaith. Gyda'i gilydd, mae hyn yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn ddefnyddiol ac yn berthnasol yn y byd go iawn. Mae pwyslais rhyngwladol iawn i'n hymchwil, gyda phrojectau wedi'u lleoli ym mhob cyfandir yn y byd, o'r Arctig i'r Antarctig.

Rhoi sylw i faterion cyfredol

Ymhlith eraill, mae astudiaethau parhaus yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, rheoli a defnyddio gwastraff, cylchu maetholion a gwneud y gorau o'u defnydd, allyriadau nwyon tŷ gwydr o systemau amaethyddol, asesiadau cylch bywyd ac olion traed carbon, microbioleg amgylcheddol (e.e. ymwrthedd i wrthfiotigau a phathogenau), diogelu'r cyflenwad bwyd (e.e. dwysáu cynaliadwy), a sawl agwedd ar wyddor pridd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?