Myfyrwyr yn dod i fyny grisiau, Prif Adeilad

Ieithoedd a Diwylliannau Modern

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern

Pam Astudio Ieithoedd a Diwylliannau Modern?

Ym Mangor fe gewch gymuned ôl-raddedig fywiog sy'n ehangu a byddwch yn rhan o awyrgylch dysgu clos a chefnogol. Byddwch yn:

  • Cael cyfle i gynnal project ymchwil helaeth o'ch dewis dan arweiniad agos ac arbenigol  
  • Ehangu a dyfnhau eich ymwneud beirniadol ag ieithoedd a diwylliannau Ewropeaidd modern a'u cyd-destunau
  • Dod yn rhan o gymuned ymchwil gyfoethog sydd â mynediad at ddatblygiadau diweddaraf yn y maes
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol a dod yn ymchwilydd annibynnol
  • Elwa o astudio mewn prifysgol wirioneddol ddwyieithog.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern

Mae cwblhau PhD neu MPhil yn llwyddiannus yn gwella rhagolygon cyflogaeth ac yn cynnig cyfleoedd mewn amryw o feysydd, gan gynnwys addysg uwch, cyfieithu, polisi a rheolaeth ddiwylliannol, y cyfryngau, newyddiaduraeth, y sector cyhoeddi, busnesau cenedlaethol a rhyngwladol. 

Ein Hymchwil o fewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern

Mae ein proffil rhyngwladol yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys yn unigol ac ar y cyd ag eraill ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig,  Almaenaidd, Sbaenaidd ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieineaidd.  

Mae staff Ieithoedd Modern yn ymchwilio i ystod eang o feysydd, gan gynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, cyfieithu a ffilm. Rydym yn goruchwylio myfyrwyr PhD sy'n ymchwilio i gyfnodau o'r canoloesoedd i'r presennol, ar draws ein saith prif iaith, gyda phrojectau rhyngddisgyblaethol sy'n cynnwys goruchwyliaeth ychwanegol gan adrannau eraill yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes a thu hwnt iddo.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?