Llyfr agored ar fwrdd mewn llyfrgell

Llenyddiaeth Saesneg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Pam Astudio Llenyddiaeth Saesneg?

Mae ôl-raddedigion yn gweithio’n agos â staff academaidd mewn cymuned ymchwil sy’n cymell cyfnewid a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol. Ym Mangor byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil glos a bywiog.

Gellir gwneud gwaith ymchwil ym mhrif feysydd llenyddiaeth Saesneg yn dilyn 1300; llenyddiaeth Arthuraidd. Mae meysydd arbenigedd ymchwil aelodau staff yn cynnwys: Llenyddiaeth Arthuraidd; Chaucer a'i gyfoeswyr; ysgrifennu canoloesol a modern cynnar gan fenywod; drama ganoloesol a modern cynnar; hunangofiannau modern cynnar; Shakespeare; George Herbert; drama'r Adferiad; Milton; llenyddiaeth Rhyfeloedd Cartref Lloegr; Rhamantiaeth (yn enwedig Hazlitt a'i gyfoeswyr); llenyddiaeth Fictoraidd (yn enwedig Dickens ac Oscar Wilde); llên Saesneg Cymru (yn arbennig R.S. Thomas); llên Cymry Llundain ar droad yr ugeinfed ganrif; Moderniaeth; Edward Thomas; barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf; Saesneg Modern a Drama Americanaidd; David Mamet; hanes ffilm a sgriptio; hanes darllen; ysgrifennu arbrofol; barddoniaeth gyfoes; llenyddiaethau byd-eang; llenyddiaeth gymharol ac ôl-wladychiaeth.

Celfyddydau a Diwylliant: Bydd y cysylltiadau agos sydd gennym â theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr yn golygu bod digon o bethau i fynd â'ch bryd.

Mae academyddion sy'n ymweld yn ymddangos yn rheolaidd yn ein seminarau ymchwil. Rydym yn trefnu nifer o ddarlleniadau gan awduron bob blwyddyn.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae astudio llenyddiaeth yn agor byd llawn ysbrydoliaeth, yn meithrin gwybodaeth a hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer yr amgylchedd byd-eang sydd ohoni. Bydd PhD/MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch, yn ogystal ag ym maes cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, ymchwil y cyfryngau, ac amrywiaeth o yrfaoedd cysylltiedig.

Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae cydnabyddiaeth dda i ansawdd ein hymchwil, sydd gyda'r orau yn y byd, ac rydym wedi ein rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau yn y wlad am ddwyster ymchwil ym maes llenyddiaeth Saesneg, gyda dwy ran o dair o'n hymchwil yn y categorïau 'gyda'r orau yn y byd' a 'rhagorol yn rhyngwladol'. 

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014 roedd Bangor ymhlith y deg prifysgol uchaf ym maes llenyddiaeth Saesneg yn y Deyrnas Unedig yn y categori dwysedd ymchwil. Roedd cryfderau ymchwil yr ysgol yn troi o amgylch cyfnodau a meysydd astudio penodol: llenyddiaeth ganoloesol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys golygu testunau; hanes y llyfr a chyhoeddi; llên Saesneg Cymru; llenyddiaeth rhamant a modern; ac ysgrifennu creadigol, gyda dulliau penodol wedi'u llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a chelfyddyd, a llenyddiaeth a chrefydd.  Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.

Mae'r canolfannau a'r sefydliadau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, neu y mae gennym bartneriaeth â nhw, yn cynnwys: Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, sef sefydliad ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth; Canolfan R.S. ThomasCanolfan Astudiaethau Arthuraidd, sef canolfan ar gyfer ymchwil a chyfnewid rhyngwladol ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n tynnu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol yn y maes; Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr,  sydd wedi'i leoli o fewn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ac sydd yn ganolbwynt i astudiaeth o'r llyfr fel gwrthrych materol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?