Myfyriwr wrth ddesg gyda ffôn yn ysgrifennu

Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Pam Astudio Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth?

Byddwch yn ymuno â chymuned ôl-raddedig fywiog a phrifysgol sydd â phrofiad sylweddol o ddysgu'r diwydiannau creadigol ar lefel ôl-raddedig. Mae ein myfyrwyr ôl-raddedig wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau ac wedi cael swyddi academaidd ac ym myd diwydiant mewn sefydliadau pwysig fel y BBC ac yn y sector meddalwedd adloniant.   

Ymhlith y staff dysgu ceir academyddion uchel eu parch ac ymarferwyr creadigol o fri, gyda chysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol cryf yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae'r staff academaidd yn arbenigo mewn meysydd ymchwil amrywiol fel dawns fertigol, technoleg a disgwrs, y byd ffilm Iddewig, hysbysebu digidol, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a risg, ffuglen ddigidol gemau fideo a bydoedd rhithwir, teledu byw, gwneud ffilmiau dogfen, astudiaethau addasu a chomics.

I gyd-fynd ag arbenigedd ein staff ceir y cyfleusterau diweddaraf posibl. Yn ogystal ag offer teledu a radio o safon ddarlledu, ceir mannau penodol ar gyfer rhai'n astudio gemau, cyfryngau digidol, newyddiaduraeth ac ysgrifennu, a theatr a sinema ddigidol.      

Mae gennym gysylltiadau cryf â chwmnïau lleol e.e. BBC Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, S4C, Cwmni Da, Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy, Menter Môn, Galeri Caernarfon, GeoMôn, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o sgyrsiau a gweithdai a arweinir gan bobl o ddiwydiant i chi fynd iddynt a meithrin cysylltiadau â darpar gyflogwyr yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol.  

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Gall astudio pynciau cyfryngau ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â'r diwydiant hysbysebu, asiantaethau marchnata, cwmnïau technoleg, rheoleiddwyr, gwneuthurwyr polisi, cwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu. 

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn y llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.

Ein Hymchwil o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Mae'r ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol.   Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil (REF 2014), roedd holl ymchwil yr Ysgol naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd. 

Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidoly cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).

Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau ar ein gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmnïau a'r sefydliadau y buom yn cydweithio â hwy'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar.  ⁠Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol.  Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?