Fy ngwlad:
Tonnau môr gyda thyrbinau gwynt yn y cefndir

Graddau Ffiseg Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Ffiseg

Pam Astudio Ffiseg?

Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i'r hinsawdd sy'n cynhesu. Mae hefyd yn bwysig os ydym am ddefnyddio'n effeithlon botensial enfawr ynni adnewyddadwy o'r llanw sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmosffer a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor. 

Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.  Byddwn yn dysgu sgiliau gwerthfawr i chi fel amcangyfrif ac adeiladu modelau mathemategol o systemau electronig.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ffiseg

Mae galw mawr am raddedigion mewn ffiseg eigion / eigioneg ffisegol.  Rydym wedi bod yn dysgu Ffiseg Eigion ers dros 50 mlynedd ac mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn enillwyr Gwobrau Nobel, cyfarwyddwyr prif labordai Eigioneg y Deyrnas Unedig a rheolwyr gyfarwyddwyr cwmnïau eigioneg masnachol mawr. Mae gan lawer ohonynt swyddi yn y diwydiannau môr, yn arbennig mewn cwmnïau ymgynghori sy'n darparu gwasanaethau mewn eigioneg i'r diwydiannau adnewyddadwy môr, amddiffyn ac olew, yn ogystal â gwaith peirianneg ar y môr. Mae cyfleoedd pellach yn labordai ac asiantaethau'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am reoli a rhagfynegi dyfroedd aberol ac arfordirol, fel  CEFAS a'r Swyddfa Dywydd. Mae llawer o'n graddedigion hefyd wedi symud ymlaen i raddau uwch a gyrfa academaidd.  Dechreuodd llawer o wyddonwyr hinsawdd blaenllaw'r Deyrnas Unedig eu gyrfaoedd fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae graddedigion mewn Peirianneg Electronig yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn pob math o feysydd, o ynni carbon isel i gynhyrchion defnyddwyr, amddiffyn, roboteg a pheirianneg modurol a chludiant, lle mae technoleg electronig yn lleihau allyriadau o geir petrol a diesel ac yn allweddol i reoli pŵer trydanol yn y genhedlaeth nesaf o geir trydan allyriadau sero.

Ein Hymchwil o fewn Ffiseg

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio â chydrannau eraill o System y Ddaear. Yn benodol, mae ein hymchwil wedi arwain at newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o foroedd ysgafell gyfandirol a'u swyddogaeth yn System y Ddaear. Mae hyn yn cynnwys adnabod y ffactorau sy'n rheoli rhaniad y moroedd hyn, a nodi mecanweithiau allweddol sy'n rheoleiddio gwasgariad dŵr croyw mewn aberoedd a moroedd arfordirol.

Nod ymchwil gyfredol yw gwella rhagfynegiadau'r hinsawdd a'r tywydd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar swyddogaeth y llanw a'u hesblygiad yn ystod Hanes y Ddaear. Rydym wedi nodi "uwch gylch llanw" sy'n gysylltiedig â thectoneg platiau a swyddogaeth bosibl y llanw ar y Gwener gynnar wrth greu planed sy'n medru cynnal bywyd.

Mae ymchwil gyfredol hefyd yn canolbwyntio ar echdynnu ynni adnewyddadwy o'r cefnfor, yn gysylltiedig â'r llanw yn arbennig, ac effeithiau posibl echdynnu ynni.

Mae ein hymchwil yn seiliedig ar ddatblygu a chymhwyso technegau arsylwi a modelu rhifiadol o'r radd flaenaf. Yn benodol rydym wedi chwarae rhan flaenllaw ers dros ddau ddegawd wrth ddatblygu dulliau ar gyfer mesur tyrfedd yn amgylchedd y môr.

Mae ein hymchwilwyr yn chwarae rhan allweddol yn y genhedlaeth nesaf o systemau cyfathrebu, gan gynnwys y prosesu signal digidol sy'n ofynnol ar gyfer technoleg symudol “5G” a thu hwnt. Mae eraill yn dylunio paneli solar gwell, yn gwneud cynhyrchion electronig hyblyg o ddeunyddiau cynaliadwy ac yn defnyddio electroneg microdon i drin canser.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.