Er mwyn eich sbarduno ar eich antur newydd yn y brifysgol, rydym wedi gofyn i'n cyn-fyfyrwyr pa gyngor y byddent yn ei roi i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau ar eu cyfnod ym Mangor. Ac, heblaw bod y rhan fwyaf ohonynt yn dweud faint byddent yn hoffi cael gwneud y cyfan eto, dyma rai o’r cynghorion a gynhigiwyd gan ein cyn-fyfyrwyr:
Awgrymiadau am yr Wythnos Groeso gan Raddedigion Bangor
“Prynwch bâr o sgidiau cyfforddus, byddwch yn cerdded i fyny'r allt yn aml! Hefyd, penderfynwch ar gyllideb i’w gwario bob mis neu byddwch yn gorfod bwyta llawer gormod o basta!” Frankie O'Dowd (Troseddeg, 2002)
“Prynwch gôt law. Dim côt law denau, ond côt wrth-ddŵr iawn sy'n gorchuddio eich pen ôl a thopiau eich cluniau. Nid yw eistedd trwy ddarlithoedd yn wlyb socian yn beth braf!” Amy Slater-Bell (Hanes Canoloesol a Modern Cynnar, 2007)
“Ewch i’r gweithgareddau a’r seminarau allgyrsiol yn eich adran” Amanda Robinson (Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes, 2006)
Darllenwch fwy am eich ysgol academaidd yma
“Peidiwch â bod ofn ymuno â chymdeithasau. Mae rhywbeth at ddant pawb ac efallai y byddwch yn dod o hyd i rywbeth newydd byddwch yn ei hoffi, a byddwch yn gwneud ffrindiau ar yr un pryd.” Liam Simmons (Ffrangeg a Sbaeneg, 2019)
Darllenwch fwy am chlybiau a chymdeithasau yma
“Mae'r Fenai ac Eryri yn fawreddog yn eu harddwch. Credwch fi, byddwch yn colli eu gweld yn y dyfodol. Gwnewch yn fawr o’r cyfle i fod yn agos atynt.” Marty Drury (Saesneg Gydag Astudiaethau Theatr, 2003)
“Mewn gwirionedd? Manteisiwch yn llawn ar unrhyw gyrsiau Cymraeg rhad ac am ddim sydd ar gael. Ar ôl graddio efallai y byddwch yn gweithio yng Nghymru yn y pen draw ac mae gallu siarad Cymraeg yn fantais FAWR.” Sam Edwards
Darllenwch fwy am y gymuned ddwyieithog ym Mangor
“Caniatewch amser ychwanegol er mwyn cyrraedd eich darlith mewn pryd bob amser. Hyd yn oed os mai dim ond 10 munud yw hi o’ch ystafell i’r ddarlithfa, caniatewch hanner awr, os byddwch wedi gwneud ffrindiau (ac mi fyddwch wedi gwneud), byddwch yn siŵr o daro ar rai ohonynt ar y ffordd. Sgwrsio am ychydig funudau, ailddechrau ar eich taith, cwrdd â rhywun arall, sgwrsio am rai munudau a chyn i chi sylweddoli, bydd y daith 10 munud wedi mynd yn daith 25 munud ac nid oes unrhyw ddarlithydd yn hoffi unrhyw un yn dod i mewn yn hwyr!" John Frederick Moore (Ffrangeg, 1984)
“Os byddwch yn methu â dod i ben gyda'ch gwaith cwrs, gofynnwch am help. Mae cymdeithasau a chlybiau yn wych ond peidiwch â’u defnyddio i guddio oddi wrth eich gwaith cwrs.” Sarah Lloyd
“Cadwch feddwl agored a byddwch yn garedig wrth bawb” Elizabeth Bearman (Ieithyddiaeth Gymhwysol, 1983)
“Cofiwch ymuno â chymdeithasau/clybiau, dyna ble bydd llawer o’ch datblygiad personol a’ch sgiliau cyflogadwyedd yn digwydd.” Joe Butler (myfyriwr ac yna aelod staff, 2005-2017)
Darganfod mwy am sgiliau a chyflogadwyedd yma
“Prynwch wok a dysgwch sut i goginio pryd wedi ei dro-ffrïo. Yn eich grŵp ffrindiau/neuadd, coginiwch i'ch gilydd yn eich tro os yw pobl yn fodlon gwneud hynny (mae'n rhatach na phawb yn coginio'n unigol!)” Aljo Gibbs Jones (Diwinyddiaeth, 2003)
O dîm Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y brifysgol ydym ni, ac rydym yn gweithio i gadw mewn cysylltiad â'n cyn-fyfyrwyr ar ôl iddynt raddio.
Byddwch yn clywed gennym o bryd i'w gilydd yn ystod eich astudiaethau wrth i ni gynnwys cyn-fyfyrwyr y brifysgol yn eich profiad myfyriwr trwy sgyrsiau gyrfa, darlithoedd pwnc-benodol a digwyddiadau eraill. Ar hyd y ffordd, byddwn yn eich helpu i wneud cysylltiadau gwych yn ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr i roi hwb i chi ar ôl i chi ennill eich gradd.
Rydym yn siŵr eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau ar yr antur newydd hon. Bydd Prifysgol Bangor yn eich siapio - byddwch yn dysgu llawer amdanoch chi eich hun ac yn gwneud ffrindiau am oes. Gwnewch yn fawr o bob dydd!
Darganfod mwy am swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma