Llun o Brif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor yn y cefndir

Dathlu'r 140

Dathlu 140 mlynedd o ragoriaeth academaidd ac effaith fyd-eang Bangor

140th Anniversary logo

Dathlu 140 mlynedd o ragoriaeth academaidd ac effaith fyd-eang Bangor

Yn 2024, bydd Prifysgol Bangor yn nodi 140 mlynedd ers ei sefydlu, gan ddathlu cant a deugain o flynyddoedd o ragoriaeth academaidd, ymchwil arloesol a phrofiadau gwych i fyfyrwyr.

Ymunwch â ni wrth i ni ailedrych ar yr etifeddiaeth a ddechreuodd ym 1884, a cadwch lygad ar y dudalen hon gan mai yma byddwn yn rhannu newyddion am ddigwyddiadau difyr, a straeon calonogol wrth i ni ddathlu'r garreg filltir fawr hon.

Y Dechreuadau

Ar ddechrau'r 1880au gorymdeithiodd torf o dair mil o ffermwyr, chwarelwyr a'u teuluoedd i lawr Stryd Fawr Bangor i fynnu addysg uwch.  Codwyd £1,200 ganddynt i drawsnewid hen dafarn y goets fawr, y Penrhyn Arms, i fod yn Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, fel yr adwaenid y sefydliad bryd hynny.

Agorodd y Brifysgol ei drysau ar 18 Hydref 1884 i 58 o fyfyrwyr, gyda deg aelod o staff. Cyflwynwyd graddau i fyfyrwyr i ddechrau gan Brifysgol Llundain tan 1893, pan ddaeth Bangor yn un o dri choleg cyfansoddol gwreiddiol Prifysgol Cymru.

Merch oedd y cyntaf i gofrestru.  Roedd Mary Ellen Williams yn ferch gyffredin, nid o gefndir cyfoethog a dylanwad fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.  Merch leol oedd hi, merch i groser. Roedd myfyrwyr benywaidd yn draean o’r myfyrwyr yn y blynyddoedd cynnar - a oedd yn anarferol yn y cyfnod.  

Un o'r merched cyntaf yn y Brifysgol oedd Margaret Verney o Blas Rhianfa ar Ynys Mon.  Byddai merched yn gwneud cyfraniad mawr at dwf addysg prifysgol yng Nghymru. 

Ym 1903, rhoddodd cyngor dinas Bangor lain 10 erw o dir yn edrych dros y ddinas ar gyfer adeiladu adeilad prifysgol newydd, mwy.   Lewis D Jones (Llew Tegid), prifathro lleol, a arweiniodd yr ymdrechion codi arian ar draws Gwynedd a Môn i helpu ariannu’r adeilad newydd.  Cyfrannodd miloedd o ffermwyr, chwarelwyr a phobl leol at y nod o godi £120,000.  

Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1907, a phedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1911, agorwyd y prif adeilad trwy ymweliad Brenhinol.

Hanes Prifysgol Bangor ar Ffilm

Trwy gydol y flwyddyn hon o ddathliadau, bydd y brifysgol yn lansio cyfres o 6 ffilm sy’n adrodd hanes difyr Bangor.  Ymunwch â Gari Wynn, yr hanesydd a’r gŵr busnes lleol, wrth iddo fynd â ni ar daith o amgylch y campws a dinas Bangor, a chael gweld arddangosiad o rai o gasgliadau arbennig Adran Archifau Prifysgol Bangor.

00:00:01
Dyma Brifysgol Bangor. Prifysgol â thros 10,000 o fyfyrwyr, nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd.

 

00:00:04
Ymunwch â ni yn y ffilm fer hon i glywed sut y daeth y brifysgol i fod. Mae stori dechreuad Prifysgol Bangor yn hudolus. Lowri ydw i, a dwi’n astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yma ym Mhrifysgol Bangor. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o chwe

00:00:34
ffilm sy'n archwilio hanes Prifysgol Bangor.  Yma i fynd â ni ar daith hynod ddiddorol mae Gari Wyn, hanesydd lleol, dyn busnes ac un a raddiodd o Ysgol Hanes Prifysgol Bangor. Helo Gari, felly be ydi'r stori heddiw i mynd ymlaen hefo ni. Wel,‘da ni’n dechrau yn y dechrau. Sefydlu’r coleg cyntaf yn 1884 a gwireddu’r freuddwyd yma yn lle ‘da ni’n sefyll rŵan yn y cwad yn 1911.

00:00:59
Uwch ben y twr draw acw mae gennym ni ffigyrau pwysig yn hanes Cymru. O'r ochor yma. O’r ochr yma ‘da ni ddim ond yn gweld Llywelyn ap Gruffudd ac yna Dewi Sant. Ond ar yr ochor arall mae Owain Glyn Dwr a mae Owain Gwynedd

00:01:11
dau dywysog cyntaf Cymru ac Owain Glyndŵr ydi’r dyn greodd y freuddwyd yma achos holl syniad Owain Glyndŵr oedd Dyma chi ddechreuad cenedlaetholdeb Cymreig,

00:01:24
eglwys ddatgysylltiedig a hefyd Senedd annibynnol ac efallai, efallai yn fwy perthnasol i ni yn sefyll yma yn cwad y Brifysgol newydd, Prifysgol

00:01:36
annibynnol. Felly byddaihynny wedi cymryd pedwar can mlynedd i gael ei hun yn barod? Yn union, pedwar can mlynedd cyn i’r holl beth ddigwydd ac wedyn pobl ym Mangor, pobl busnes lleol, pobl hefo gweledigaeth yn sicrhau cael y gwesty gan y teulu Penrhyn ac

00:01:51
wedyn newid y gwesty i fod yn goleg annibynnol hefo adrannau gwahanol ac un hefo llyfrgell. Wedyn cam wrth gam, yn mynd o 1884, a (David) Lloyd George yn dod i mewn i’r stori yn 1890 a sawl person unigol arall ym Mangor yn

00:02:08 helpu i greu'r adeilad gwych yma a godwyd rhwng 1907 ac 1911, a hynny wedi ei fodelu ar golegau Lloegr Balliol a Choleg Yr Iesu yn fwy arbennig. Bysa ni’n gallu dweud bod hwn yn enghraifft gyntaf o ariannu torfol o’r adeg yna...Mae hynny’n berffaith wir Lowri.

00:02:29
Y gwir amdani ydi oedd yna drawstoriad o gymdeithas. Oedd gennych chi’r chwarelwyr tlawd, yr amaethwyr tlawd, unigolion amlwg iawn – pob math o bobl i gyd hefo un nod sef gwireddu’r freuddwyd o greu’r brifysgol gyntaf oedd gynna ni yng Ngogledd Cymru a a gwneud hynny yn y pen draw a gwneud hynny yn y pen draw ar ôl wythnosau a

00:02:49
misoedd o gasglu arian. Dechrau hefo 1200 o chwarelwyr tlawd oedd wedi cyfrannu tuag at yr holl broses a wedyn erbyn -amser agor y gwesty mawr yma a’i droi o’n brifysgol fodern, a hynny ym mis Hydref 1884, rydym yn ffeindio

00:03:08
eu bod wedi casglu £35,000! Wedyn, ar hyd stryd fawr Bangor, sef y stryd hiraf yng Ngogledd Cymru, y stryd fawr hiraf yng Nghymru i gyd. dwy filltir bron iawn o un pen i’r llall, roedd prosesiwn enfawr o bobl. Tair mil o bobl yr ardal yn dod ac yn clodfori'r digwyddiad mawr yma a hynny wrth gwrs yn

00:03:29
tanio’r freuddwyd fawr o ddechreuad y brifysgol ti’n rhan ohoni heddiw. A faint o fyfyrwyr oedd yn y brifysgol ar. Yr adeg yna? Wel y cofrestru cyntaf yn y flwyddyn gyntaf, 58 o fyfyrwyr, ond beth sy’n hynod o arloesol

00:03:44
ydi bod 19 o rheini yn ferched ac roedd hynny’n hollol ddieithr yn hanes prifysgolion Cymru felly roedd Bangor ar flaen y gad o safbwynt addysg merched hefyd. Felly Gari, ydynni’n gwybod rhywbeth am y merched cyntaf a raddiodd yma ym Mhrifysgol Bangor?

00:04:00
Mae gennym ni lot o wybodaeth amdanyn nhw Lowri. Roedd sawl un yn gymeriadau difyr iawn ond efallai’r pwysicaf ohonynt i gyd yw dynes o’r enw Margaret Mary Verney, hi’n aelod

00:04:11
amlwg o deulu Plas Rhianfa ar Ynys Môn a’r ferch gyntaf i raddio ymysg merched cyntaf Bangor. Hefyd wedyn yn dod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ac efallai’n bwysicach na dim, yn cyfrannu tuag at addysg merched trwy Brydain, rhywbeth doedd merched ddim yn gwneud yn ystod y cyfnod yna

00:04:32
a dod yn aelod o’r pwyllgor oedd yn datblygu Prifysgol Cymru.  Felly mae cyfraniad Margaret Verneyyn gyfraniad allweddol pwysig yn hanes addysg yng Nghymru a hyd yn oed

00:04:42
yn hanes addysg ym Mhrydain hefyd. Felly Shan, allwch chi ddweud rhywbeth am brifathro cyntaf a’r athrawon cyntaf yma ym Mhrifysgol Bangor? Pwy oedd y cyntaf i ddysgu yma? Harry Reichel oedd y prifathro cyntaf. Gwyddel o dras

00:04:57
Almaeneg chwaraeodd ran allweddol yn datblygu’r brifysgol am bron i hanner canrif ac fe ddysgodd Cymraeg yn rhugl.   Mi ddechreuodd o adrannau hollol chwyldroadol yn y byd addysg ar y pryd – adran

00:05:14
coedwigaeth, adran clasuron, ac efallai yn fwy arbennig na dim, yr adran amaethyddiaeth - y cyntaf un ym Mhrydain yma ar gyrion Bangor.

00:05:24
Doedd o erioed wedi digwydd mewn Prifysgol o’r blaen ac roedd o hefyd yn ddyn oedd yn tynnu pobl alluog o’i
gwmpas o. Yn enwedig yr athrawon newydd

00:05:35
Syr Henry Jones, un o athronwyr mwyaf yn hanes athroniaeth y brifysgol ac yna nes ymlaen roedd Syr John Morris Jones.  Heb Syr John Morris Jones ddaeth yn athro yma ychydig o flynyddoedd wedyn, o dan arweiniad Reichel,

00:05:53
fysa gennym ni ddim gramadeg Cymraeg heddiw yma. Fysa na ddim patrwm o orgraff a sylfaen i addysgu'r Gymraeg mewn prifysgolion ddim wedi cael ei gosod oni bai am Harry Reichel. Felly oedd popeth yn tyfu,

00:06:07
ond o ble oedd y cyllid a’r arian yn dod? Unwaith eto oedd y gymdeithas yn dod at ei gilydd, ychydig iawn o’r arian oedd yn dod o’r tu allan. Mi roedd pobl fel William Rathbone o Lerpwl yn hel pobl at ei gilydd ac roedd

00:06:21
adeiladwyr o Lerpwl fel y teulu Clwyd a’r teulu Roberts i gyd yn rhoi arian tuag at ddyfodol y coleg ac i feithrin adrannau newydd. Mewn dim o amser

00:06:31
roedd pobl yn cael parch newydd tuag at y ddinas oherwydd yr holl waith oedd Bangor yn wneud ir byd addysg. ac mi ddaru’r Caernarfon and Denbigh gyfeirio at Fangor yn y cyfnod yma fel: ‘The Athens of Wales!” Diolch Gari, ffordd wych i orffen y bennod gyntaf.

00:06:49
Dilynwch ran nesaf y stori hynod ddiddorol hon drwy ymuno â ni yn rhan dau – Gweledigaeth 1884 – Twf y brifysgol a’i hadeiladau. Gweledigaeth 1884 – Twf y Brifysgol a’i hadeiladau.

Rhan Dau - Gweledigaeth 1884

00:00:01,600 --> 00:00:10,330
Dyma Prifysgol Bangor. Un o'r prifysgolion gyntaf i'w adeiladu yn Nghymru a bellach yn y pump uchaf yn y Deyrnas Unedig.


00:00:10,720 --> 00:00:15,400
Lowri ydw i a dwi'n astudio a symud a plentyndod ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor.


00:00:15,730 --> 00:00:20,080
Dyma'r ail allan o Chwech ffilm sydd yn edrych i fewn i hanes Prifysgol Bangor.


00:00:20,410 --> 00:00:26,979
Felly Gary dywedwch i ni'r cam nesaf o'r stori hyn. Wel ar ôl i'r coleg sefydlu ei hun draw yn fan acw


00:00:26,980 --> 00:00:31,840
drosodd milltir i'r dwyrain yn Porth Penrhyn yn y Gwesty Penrhyn,


00:00:32,080 --> 00:00:37,209
mi roedd dechrau galw am fwy o addysg i bobl y cylch ac angen prifysgol newydd


00:00:37,210 --> 00:00:40,810
i Ogledd Cymru. Wedyn mae Lloyd George yn dod i mewn i'r stori achos yn 1890


00:00:40,810 --> 00:00:49,510
mae Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog yr Amgueddfa Genedlaethol yn cael ei adeiladu ac yn anelu at godi'r adeilad gwych yma yn y flwyddyn


00:00:49,510 --> 00:00:56,379
1911 ac i wneud hynny oedd angen cant a hanner o filoedd rhywbeth tebyg i dri chan miliwn heddiw ma


00:00:56,380 --> 00:01:05,190
Fyswn i'n ddweud Lowri. Felly Gari lle gafon nhw'r arian i adeiladu'r prifysgol newydd?


00:01:05,190 --> 00:01:11,909
Wel mi aeth pobl fatha Lloyd George a William Rathbone ati i sefydlu Pwyllgor Codi Arian a phenodi dyn o'r enw


00:01:11,910 --> 00:01:19,080
Llew Tegid oedd yn brifathro lleol yn Ysgol y Garth a'i swydd newydd o oedd y casglu'r


00:01:19,080 --> 00:01:26,069
arian ag perswadio bobl i gyfrannu tuag at godi yr adeilad gwych yma oedd yn mynd i fod yn hollol


00:01:26,070 --> 00:01:32,370
wahanol adeilad i'r hen goleg a dechrau ar y gwaith hwnnw yn 1907 a'r garreg yma,


00:01:32,370 --> 00:01:41,040
sef y garreg sylfaen gwreiddiol yn cael ei dadlennu gan y Brenin Edward y Seithfed y cwmni lleol yr enw Cwmni Watkin Jones yn gwmni enwog y Mangor.


00:01:41,040 --> 00:01:44,879
yn gyfrifol am wneud y gwaith cynnar a hefyd o dan y garreg,


00:01:44,880 --> 00:01:52,560
welwch chi garreg i goffhau Henry Hare sef y pensaer arbennig unigryw hwnnw oedd mor enwog yn Lloegar am i adeiladau


00:01:52,560 --> 00:01:59,310
yn Rhydychen a Chaergrawnt a llefydd felly a mae ei garreg o yn fama hefyd yn atgoffa ni am y diwrnod yna yn 1907


00:01:59,310 --> 00:02:06,510
ac ym mhen pedair blynedd oedd yr adeilad ysblennydd yma wedi agor. Felly Gari da ni yn llyfrgell Shankland


00:02:06,510 --> 00:02:14,819
rwan. Lle yn union gafodd y Brifysgol yr holl arian a defnyddiau i allu gwneud yr adeilad yma? Wel mae'r stori yma'n hollol unigryw.


00:02:14,820 --> 00:02:22,139
Y dyn gafodd ei benodi i greu y llyfrgell, cyntaf un o gasgliad enfawr o lyfrau mwy a gwerthfawr


00:02:22,140 --> 00:02:28,950
a prin oedd gan Cymru yn ei bodolaeth oedd Thomas Shankland ac oedd angen adeilad oedd yn


00:02:28,950 --> 00:02:36,090
cyd fynd yn urddasol hefo'r holl hanes yna ag wedyn mi ddaru na ddyn or enw Owen Owens,


00:02:36,390 --> 00:02:46,230
perchennog siop fawr yn Llundain ac yn Lerpwl a ty haf ganddo yn Penmaenmawr yn wreiddiol o Machynlleth a fo dalodd am y paneli derw gwych.


00:02:46,230 --> 00:02:56,460
yma sydd wedi dod o Awstria yr adeilad ei hun y strwythur, wedi cael ei adeiladu ar arian cymdeithas y brethynwyr,


00:02:56,790 --> 00:03:04,439
sef y Royal Drapers' Society, does yna ddim adeilad tebyg iddo yn y coleg yma


00:03:04,440 --> 00:03:07,980
a dros am adeilad tebyg iddo fo yng Ngogledd Cymru os fyswn i'n bod yn fanwl gywir.


00:03:11,280 --> 00:03:16,710
Oce ta Gari da ni rwan yn y neuadd dwi'n siwr bod ganddo chi lot o hanes am yr ystafell yma.


00:03:17,340 --> 00:03:20,960
Beth ydi'r prif hanes yn fan hyn? Wel, mae rhaid i ni gofio


00:03:20,970 --> 00:03:26,280
Mae John Pritchard Jones o boced ei hun. Mab ffarm o ardal lle ti'n dod ohoni


00:03:26,280 --> 00:03:32,129
hi yn wreiddiol Lowri wedi talu bron i bymtheg mil o bunnoedd a hynny oherwydd bod Lloyd George wedi gofyn iddo


00:03:32,130 --> 00:03:40,530
wneud hynny oherwydd roedd nhw'n teimlo bod rhaid cael neuadd wych urddasol enfawr fel hyn a


00:03:40,530 --> 00:03:44,730
roedd hi'n arloesol yn ei chyfnod oherwydd nid yn unig oedd hi'n dal 1500 o bobl,


00:03:45,030 --> 00:03:54,240
ond hefyd wyt ti'n mae yna bob math o nodweddion cynnar, newydd, modern yma yn arbennig felly y goleuadau ma achos mae'r goleuadau yma


00:03:54,480 --> 00:04:03,180
yn cael eu galw yn Electroliers a be ydi hynny yn y pen draw ydi'r canhwyllyr cyntaf ym Mhrydain yn gweithio hefo trydan a fel ti'n gweld


00:04:03,180 --> 00:04:11,489
mae yna urddas arbennig y paneli y paneli derw yma wedi dod, y rhan fwyaf o Awstria a ffenestri arbennig a'r bleindiau arbennig.

00:04:11,490 --> 00:04:18,540
Mae bob dim wedi cael i'w bwyso a mesur gan y pensaer Henry Hare.


00:04:19,030 --> 00:04:25,500
Dwi'n ym meddwl fod yna neuadd fawr mwy urddasol na hon ym Mhrydain i gyd. Da ni'n lwcus iawn yma ym Mangor felly! Gwir!


00:04:26,500 --> 00:04:30,219
Diolch yn fawr iawn Gari mae'n rhoi persbectif gwahanol ar yr adeiladau


00:04:30,220 --> 00:04:36,670
mae myfyrwyr yn cerdded drwyddyn nhw bob un dydd bob un dydd. Ymunwch a ni eto nesa i ddarganfod mwy am hanes Prifysgol Bangor.

Rhan Tri: Y Bobl Alweddol

00:00:02,340 --> 00:00:06,150
Lowri ydw i, ac ymunwch â ni heddiw am hanes Prifysgol Bangor,


00:00:06,450 --> 00:00:13,260
ac hefyd i ddysgu am yr holl bobl bwysig oedd yn rhan or daith. Felly Gari, 'da ni yn mynwent Glanadda.


00:00:13,860 --> 00:00:19,169
Pan 'da ni'n fan hyn heddiw? 'Da ni reit yng nghanol yr hen fynwent ac yn canol yr ynys yma o feddau.


00:00:19,170 --> 00:00:23,760
Mae na amryw o bobl allweddol iawn yn hanes sefydlu y Brifysgol.


00:00:23,760 --> 00:00:26,790
Mae gennych chi Henry Lewis, Maer Bangor.


00:00:26,790 --> 00:00:30,359
Mae gennych chi Llew Tegid, oedd yn trefnu'r arian ond yn fama


00:00:30,360 --> 00:00:34,380
mae na un o rai pwysica un, sef William Cadwaladr Davies


00:00:35,310 --> 00:00:39,600
oedd wedi priodi cantores enwog yn Llundain


00:00:39,810 --> 00:00:46,710
sef Mary Davies, ond mae o'n bwysig i ni yma ym Mangor oherwydd fo oedd yr ysgrifennydd cyntaf a hefyd fo


00:00:46,980 --> 00:00:54,450
oedd y cofrestrydd cyntaf Bangor ac am y blynyddoedd yna mi fuodd o'n allweddol iawn


00:00:54,450 --> 00:01:00,299
yn hanes datblygu corff Prifysgol Cymru a mae rhai o'i gyd weithwyr o a bobl oedd


00:01:00,300 --> 00:01:04,710
yn allweddol yn y stori yma i gyd yn gorwedd yn y cylch yma yng nghanol Glanadda.


00:01:05,040 --> 00:01:13,660
Felly Gari 'da ni'n y fan yma rwan wrth ymyl bedd Syr Isambard Owen pam 'da ni'n fan hyn? Mae hwn eto yn ddyn allweddol bwysig oedd yn cydweithio hefo'r


00:01:13,830 --> 00:01:20,250
pensaer Syr Henry Hare ac yn un o'r bobl oedd yn gwneud y penderfyniadau mawr wrth ddatblygu'r coleg ar y bryn.


00:01:20,500 --> 00:01:25,889
Roedd o hefyd wedi cael ei enw gan Isambard Kingdom Brunel oherwydd oedd ei


00:01:25,890 --> 00:01:32,640
dad o yn beiriannydd ar lein y GWR ac mi roedd yn allweddol hefyd


00:01:32,640 --> 00:01:37,200
mewn hanes prifysgolion Prydain hefyd hyd yn oed ym Mharis yn Durham,


00:01:37,200 --> 00:01:44,160
Llundain a Paris ac yn Gymro amlwg iawn iawn yn Llundain ac yn feddyg o fri oedd yn un o ddynion pwysica yn hanes Cymru.


00:01:44,400 --> 00:01:47,880
Ond dydi o ddim wedi cael gymaint o sylw a mae o'n ei haeddu mewn gwirionedd.


00:01:50,060 --> 00:01:53,300
Felly Gari 'da ni tu allan i Neuadd Reichel.


00:01:53,630 --> 00:01:58,220
Ydw i yn iawn i ddweud oedd o wedi cael ei enwi ar ôl prifathro cyntaf Prifysgol Bangor?


00:01:58,220 --> 00:02:03,500
Ydi mae hynny'n berffaith wir ac roedd Syr Harry Reichel yn ddyn mor bwysig yn hanes addysg yng Nghymru,


00:02:04,010 --> 00:02:12,049
ac wedi ychydig flynyddoedd ar ôl iddo farw, codi yr adeilad yma sydd yn union yr un patrwm a Neuadd Gymraeg yn Pantycelyn yn Aberystwyth


00:02:12,050 --> 00:02:19,130
ac yr union nyr un pensaer yn ôl pob tebyg. Oedd Harry Reichel yn ddyn wnaeth adael gymaint o ddylanwad ar addysg yng Nghymru.


00:02:19,430 --> 00:02:21,319
Nid yn unig fel prifathro coleg,


00:02:21,320 --> 00:02:28,790
ond ei ran o ym Mhrifysgol Cymru ac yn natblygiad y corff hwnnw ac yn gwneud yn siŵr trwy amser bod yna bobl dda o i gwmpas o.


00:02:29,060 --> 00:02:35,810
A rheiny rhan fwyaf o'r amser yn Gymry hefyd yn y cyfnod yma. Pobl fel Syr Henry Jones a Syr John Morris


00:02:35,810 --> 00:02:42,440
Jones yn cydweithio hefo pobl fel Isambard Owen a hyn a llall ac yn dysgu Cymraeg


00:02:42,440 --> 00:02:50,089
ei hun ac yn gadael ei stamp ar Fangor cyn i'r brifysgol dyfu i fod yn fwy eang dros Prydain a dros


00:02:50,090 --> 00:02:55,879
Ewrop i gyd. Yn ystod yr un cyfnod aeth Syr John Edward Lloyd yn gofrestrydd ar y coleg.


00:02:55,880 --> 00:03:00,890
Mi gyhoeddodd o ymchwil a chyfrolau nodedig am hanes Cymru a hyd heddiw


00:03:00,890 --> 00:03:07,880
mae ei waith o ar yr Oesoedd Canol ac ar hanes Owain Glyndŵr yn benodol yn cael ei gyfri fel y prif ffynhonnell


00:03:08,180 --> 00:03:14,809
ar hanes Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Oedd yna wraig amlwg arall yn hanes y coleg hefyd yn y cyfnod yma,


00:03:14,810 --> 00:03:22,670
sef Mary Rathbone. Roedd hi yn aelod o deulu enwog y Rathbones o Lerpwl ac mi gafodd hi ei magu yn


00:03:22,670 --> 00:03:27,620
Llandegfan. Oedd hi yn perthyn i William Rathbone a helpodd sefydlu'r Brifysgol?


00:03:27,860 --> 00:03:35,390
Nathon ni siarad amdano fo mewn ffilm gynharach yn do? Do wyt ti yn hollol iawn. Roedd hi yn aelod o'r teulu dylanwadol yma,


00:03:35,660 --> 00:03:44,059
ac mi roedd Mary yn aelod o Gyngor y Brifysgol ac yn noddwr hael i bob achos oedd yn ymwneud efo addysg merched ond efallai


00:03:44,060 --> 00:03:47,840
roedd hi yn cael ei chofio yma ym Mangor yn fwy na ddim byd oherwydd y ffaith ei bod hi wedi


00:03:47,840 --> 00:03:53,660
sefyll mor amlwg dros yr hawl i ferched gael neuaddau preswyl oedd yn annibynnol.


00:03:54,230 --> 00:03:56,000
Felly oedd yna neuadd i ferched?


00:03:56,270 --> 00:04:04,040
Wel, fe roedd yna neuadd i ferched reit yn y dechrau, ond fe oedd yna dipyn o helynt ynghylch y peth; rhieni y myfyrwyr ifanc, rhai o'r merched yma yn


00:04:04,040 --> 00:04:09,020
dod i'r coleg yn un deg chwech oed cofiwch oedd ganddo chi drawstoriad o ferched rhwng un deg chwech a dau ddeg chwech oed,


00:04:09,860 --> 00:04:19,069
ond yn y diwedd yn 1893 mi gafwyd neuadd hollol swyddogol newydd o dan arweiniad y prifathro Harry Reichel


00:04:19,070 --> 00:04:28,100
a hynny yn yr adeilad sydd heddiw yn Rathbone, fuodd cynt yn Neuadd John Morris Jones, oedd ar yr adeg honno yn cael ei alw yn 'University Hall'


00:04:28,100 --> 00:04:37,010
a hon oedd un or neuaddau merched swyddogol cyntaf yng Nghymru ac er yr holl helynt fuodd a'r ffraeo ynghylch y peth,


00:04:37,280 --> 00:04:46,189
yn raddol mi sefydlwyd hynny a mi sefydlwydd mwy a mwy o hunan barch i addysg Merched. Waw, dwi'n siwr fysa pawb yn cytuno pa mor


00:04:46,190 --> 00:04:53,570
bell 'da ni wedi dod a pa mor bell yda ni rwan fel Prifysgol Bangor i feddwl bod gennym ni neuaddau cymysg yn y Brifysgol rwan.


00:04:54,650 --> 00:05:03,170
Ymunwch â ni y tro nesaf. Byddwn yn troi at hanes mwy diweddar ac yn darganfod sut y gwnaed y Brifysgol gofleidio dwyieithrwydd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?