Fy ngwlad:
Logo 1884 ar gefndir gwyn

Menter Môn

Cydweithio â diwydiant

Harneisio ynni’r llanw

Disgwylir y ceir sêl bendith i gynlluniau ar gyfer safle ynni llanw mwyaf y byd oddi ar arfordir Gogledd Cymru, a fydd yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru 180,000 o aelwydydd. Bu cydweithio ag Ysgol Busnes Bangor yn allweddol wrth ddatblygu’r project hwn. 

Asesodd yr Ysgol Busnes effaith y cynllun ar ddiwydiant lleol, a thrwy sefydlu strategaeth i sicrhau bod buddion economaidd lleol yn cael eu huchafu, sicrhaodd y prosiect sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol Ynys Môn, Menter Môn, gefnogaeth y cymunedau a’r rhanddeiliaid.

The £35m Morlais scheme will benefit local communities, the economy, and help tackle climate change - using renewable energy to generate clean, low carbon electricity.    

Bydd y cynllun Morlais gwerth £35m o fudd i gymunedau lleol, yr economi, ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd - gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan glân, carbon isel. 

Oherwydd ei daearyddiaeth, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod yn ganolbwynt ynni ar gyfer arloesi a datblygu technolegau amgylcheddol.  Trwy brojectau fel Morlais, bydd gennym ni’r technolegau i helpu’r byd i gyflawni ei ddyhead sero net. 

Trwy’r cydweithio hwn, llwyddais i ddod ag astudiaeth achos o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth i edrych ar sut y gall projectau sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd gael effaith economaidd gadarnhaol.

Dr Edward Thomas Jones,  Ysgol Busnes Bangor

Trwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel Prifysgol Bangor, ein nod yw datblygu’r sgiliau a’r cyfleoedd hyfforddi a chefnogi’r gadwyn gyflenwi leol i ddatblygu ac arallgyfeirio i ddiwallu anghenion y diwydiant llif llanw. Trwy’r project Morlais mae gennym y cyfle i greu clwstwr arloesi yn y diwydiant ynni llif llanw sy’n ymegino gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad o ran datblygu diwydiant yn y tymor hir. 

 Dafydd Gruffydd,  Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn