Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Awen Edwards

Bu’r cyfleoedd ym Mangor yn fodd i sicrhau rôl imi mewn cwmni rhyngwladol.

Awen Edwards

Awen Edwards

Y Gyfraith gyda Chymraeg (LLB), 2020 
Cyfreithiwr dan hyfforddiant yn DAC Beachcroft LLP

Roedd fy amser ym Mangor yn gwbl hanfodol i gyrraedd y swydd rydw i ynddi heddiw. Rhan enfawr o hyn ydy'r ffaith bod y dosbarthiadau yn rhai bychain. Yn sgil hyn, roedd gan y darlithwyr a'r staff academaidd yr amser a'r ymroddiad i allu helpu bob myfyriwr yn unigol.

Awen Edwards

Pam wnaethoch chi benderfynu astudio ym Mangor?
Mi wnes i benderfynu astudio ym Mangor am fy mod yn awyddus i barhau â fy addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r adran Gymraeg ym Mangor heb ei hail, ac roedd mynychu darlithoedd gan arbennigwyr yn eu maes yn brofiad hynod werthfawr. Yn wahanol i’r Gymraeg, doedd gen i ddim llawer o brofiad cyfreithiol cyn dechrau yn y Brifysgol (ar wahân i fân brofiad gwaith) - ond roedd gen i ddiddordeb mewn datganoli a gwaith y Senedd, ac mae Ysgol y Gyfraith ym Mangor ar flaen y gâd o ran ymchwil ar ddatganoli.
Oherwydd y rhesymau academaidd, a chael cyfle i fyw bywyd cymdeithasol bywiog y gymdeithas Gymraeg ym Mangor - roedd astudio yno yn ddewis amlwg!

Pam wnaethoch chi ddewis eich cwrs penodol?
Y rheswm pennaf i ddewis fy nghwrs gradd, y Gyfraith gyda'r Gymraeg, oedd fy niddordeb mawr mewn llenyddiaeth a’r ddrama Gymraeg. Roedd Cymraeg yn bwnc cyfarwydd i mi, pwnc y gwnes ei fwynhau yn fawr yn yr ysgol, ac felly roedd yn ddewis amlwg. Roedd y Gyfraith, ar y llaw arall, yn gymharol ddiarth. Ond, roedd gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac roeddwn yn mwynhau siarad cyhoeddus. Roeddwn i hefyd yn gwybod y byddwn am weithio gyda phobl yn y dyfodol, ac mae'r Gyfraith yn fyd sy'n troelli o amgylch pobl a'u problemau / cwestiynau. Roedd y Gyfraith yn cynnig cyfle i mi ddysgu am bynciau hollol newydd oedd hefyd yn apelio yn fawr. Felly roedd y cyfuniad o’r Gyfraith a’r Gymraeg yn berffaith.
Ers i mi ddechrau yn y byd gwaith, rydw i'n sylweddoli o'r newydd pa mor werthfawr oedd y cyfuniad o'r Gyfraith gyda'r Gymraeg. Gyda mwyfwy o feysydd yn cael eu datganoli, mae cyfreithwyr sy’n gallu’r Gymraeg yn broffesiynol yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor?
Heb os, uchafbwynt fy amser ym Mangor oedd y ffrindiau oes y gwnes i gyfarfod yno. Rydw i’n dal yn ffrindiau penna’ gyda’r criw y bues i’n ddigon ffodus i’w cyfarfod ar fy niwrnod cyntaf yn Neuadd breswyl John Morris Jones, er i mi symud i ffwrdd i Lundain wedi graddio.
Mae yna fywyd cymdeithasol hynod fywiog ar gael i fyfyrwyr ym Mangor. Rhai uchafbwyntiau personol o'r bywyd cymdeithasol i mi oedd yr Eisteddfodau Rhyng-golegol blynyddol, Eisteddfod yr Urdd, wythnos y glas a'r wythnos olaf.

Sut wnaeth Bangor eich helpu i gael y swydd / gyrfa sydd gennych chi nawr?
Roedd fy amser ym Mangor yn gwbl hanfodol i gyrraedd y swydd rydw i ynddi heddiw. Rhan enfawr o hyn ydy'r ffaith bod y dosbarthiadau yn rhai bychain. Yn sgil hyn, roedd gan y darlithwyr a'r staff academaidd yr amser a'r ymroddiad i allu helpu bob myfyriwr yn unigol.
Yn bersonol, bues yn ddigon ffodus i gael profiadau gwaith gan gynnwys interniaeth haf yn Uwch-lysoedd Iwerddon, gwaith ar yr Infected Blood Inquiry, profiad gyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a chymorth i gael lle ar sawl canolfan asesu, diwrnod agored a chynllun haf cyfreithiol.
Yn benodol, roedd Ysgol y Gyfraith o gymorth enfawr i mi wrth ymgeisio am, a derbyn, fy swydd gyntaf wedi graddio - sef swydd fel Cynorthwyydd Ymchwil yng Nghomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr. Yno, roeddwn yn gweithio ar brosiect yn ymwneud a Thribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru - ac roedd yr addysg cyfraith gyhoeddus y cefais ym Mangor yn rhan greiddiol o lwyddo yn y gwaith yma.
Mae'r broses o dderbyn contract hyfforddi i gymhwyso fel cyfreithiwr mewn cwmni rhyngwladol yn hynod gystadleuol, a does gen i ddim amheuaeth na fuaswn yn gweithio yn fy rôl bresennol pe na bawn i wedi cael yr holl gyfleoedd i adeiladu fy CV ym Mangor.

Pa fath o waith rydych chi’n ei wneud yn eich swydd bresennol?
Fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, rydw i ar "gontract hyfforddi" am ddwy flynedd. Yn ystod y ddwy flynedd, fe fyddaf yn cwblhau chwe mis mewn pedair adran wahanol o fewn fy nghwmni. Ar y funud, rydw i'n gweithio yn yr adran Eiddo, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu preswyl. Mae'r cwmni yn cynrychioli datblygwyr eiddo mwyaf Prydain - sy'n golygu bod rhan helaeth fy ngwaith yn canolbwyntio ar brynu darnau eang o dir. Enghreifftiau o fy ngwaith o ddydd i ddydd ydy craffu ar dir i ganfod unrhyw broblemau arno, drafftio contractau rhwng y datblygwyr a'r adeiladwyr, prynwyr eiddo neu asiantaethau tai fforddiadwy, cofrestru ceisiadau gyda'r Gofrestra Dir, cydlynu taliadau arian rhwng amryw bartion a delio ag elfennau treth wrth brynnu a gwerthu tir.
Gan ei fod yn faes trafodaethol, mae gofyn gallu gweithio'n hyderus fel rhan o dîm, gallu cynnal cyfarfodydd gyda'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r ochr arall, a negodi.

Sut gwnaeth eich profiadau ym Mangor helpu i'ch siapio fel person?
Bues i'n ffodus i gael bod yn gadeirydd ar Aelwyd JMJ, côr Cymraeg y brifysgol, am ddwy flynedd yn ystod fy amser ym Mangor. Roedd y rôl yn cynnig cyfle i mi ddatblygu amryw o sgiliau gan gynnwys arwain, gweithio mewn tîm, bod yn gyfrifol am arian a bod yn drefnus ac ati. Hyd heddiw, mae cyfweliadau am swyddi wedi canolbwyntio cymaint yn fwy ar y sgiliau y megais pan oeddwn yn Gadeirydd Aelwyd JMJ nac ar unrhyw gwestiwn cyfreithiol!
Wrth fynd i'r byd gwaith - fe fydd pawb sy'n ceisio am swydd yn berchen ar radd - ond yr elfennau allgyrsiol ychwanegol hynny sydd yn gwneud i gais sefyll allan. Ym Mangor, cefais y cyfle i ddatblygu llu o sgiliau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, boed trwy glybiau a chymdeithasau, gwirfoddoli gyda'r Undeb, neu gymdeithasu gyda chyfoedion. Y sgiliau hynny sydd wedi fy siapio fel person.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Cerwch amdani! Cefais amser wirioneddol wrth fy modd ym Mangor. Roedd y staff yn wych, y darlithoedd a'r cyfleoedd allgyrsiol o safon, a'r bywyd cymdeithasol heb ei hail. Un o'r pethau gorau fedrwch chi ei wneud yn y brifysgol ydy ymrwymo i cyn gymaint o wahanol gyfleoedd a digwyddiadau ag sy'n bosib. Mae tair blynedd yn hedfan heibio, felly gwnewch yn fawr o Fangor tra rydych chi yno!