Caryl Bryn
Roedd y darlithoedd yn hudolus - roedd yr angerdd yn tanio rhywbeth ym mhawb.
Caryl Bryn
Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol (BA), 2017
Ysgrifennu Creadigol (MA), 2020
Gohebydd ar Heno a Prynhawn Da, S4C
Mae'r cyfleoedd dw i wedi ac yn eu cael yn Tinopolis yn ddibendraw - un diwrnod dw i'n ymchwilydd, yn ohebydd, yn sgriptiwr comedi, yn actor. Dw i wedi cael fy mendithio'n llwyr - nes i 'rioed ddychmygu y baswn i'n cael gweithio yn rhywle fel Tinopolis.
Pam wnaethoch chi benderfynu astudio ym Mangor?
Yn wreiddiol o Borth Amlwch ym Môn ac yn unigolyn yn fy arddegau oedd, coeliwch neu beidio, yn eithaf shei - doeddwn i ddim am fentro'n rhy bell o adra... o'dd hynny cyn imi ddod i wybod am Neuadd JMJ. Roedd gen i ambell ffrind oedd yn mynd i JMJ felly wnaeth yr unigolyn shei argyhoeddi ei hun ei bod hi am roi cyfle i JMJ a bywyd ‘stiwdant’, gyda'r cysur o wybod nad oedd adra'n rhy bell. Dw i'm yn meddwl 'mod i wedi bod adra mwy na deg gwaith dros y cyfnod o bron i bedair blynedd fues i yn y Brifysgol - nes i wirioni'n llwyr efo'r ‘bybyl’ Cymraeg o'n i'n rhan ohono; y bobl, y cwrs, yr hud. Dim ots os ydi Bangor dafliad carreg o 'adra', mae'r lle'n llecyn hudolus mae rhywun yn ymgolli'n llwyr ynddo tra maen nhw yno ac mae'r hiraeth am yr hen le yn brifo ond mae’r atgofion a'r diolch sydd gen i yn trechu.
Pam wnaethoch chi ddewis eich cwrs penodol?
O'n i'n rhy brysur yn siarad a chwerthin efo fy ffrind gora' yn yr ysgol i fagu diddordeb yn unrhyw bwnc... heblaw y Gymraeg. Oedd 'na rywbeth yn fy nhynnu i at y geiria' ac isho'u rhoi nhw at ei gilydd i greu rwbath odd yn ‘gneud sens’ ac yn teimlo'n braf i'w ddarllen. Oedd gas gen i'r ochr hanesyddol o'r pwnc - dw i’n rhy thic i ddeall ryw betha’ felly ond odd sŵn y geiria'n gafael ynof fi.
Er nad oeddwn i, mewn gwirionedd, isho astudio beirdd y canoloesoedd - mi o'n i'n fwy na pharod i roi cyfle arall i mi fy hun o ystyried 'mod i'n mynd i fod yn derbyn yr addysg yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y darlithoedd wnes i fynychu gan Athrawon y Brifysgol yn wirioneddol hudolus - roedd yr angerdd yn cael ei drosglwyddo i bawb yn bresennol ac yn tanio rhywbeth ym mhawb. Mi fydda i'n fythol ddiolchgar am y gweithdai creadigol yng nghwmni'r Athro Gerwyn Wiliams a'r Athro Angharad Price - bu'r gweithdai a'r adborth yn sail imi ddatblygu fy ngallu'n bellach a dyna fynd ymlaen i astudio MA Ysgrifennu Creadigol. Mi wnes i astudio'r MA dan ofal yr Athro Angharad Price ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mi wnes i ddechrau rhoi cyfrol o farddoniaeth at ei gilydd i'w chyhoeddi dan faner Y Stamp dan ofal Iestyn Tyne-Hughes a Grug Muse - roedd y cyfnod yma yn un o'r cyfnodau mwyaf cynhyrchiol dw i wedi ei gael erioed ac mi fydda i'n fythol ddiolchgar amdano.
Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor?
Y teimlad hudol o fynd i mewn i'r Brifysgol ac i mewn i'r Adran Gymraeg. Cael cefnogaeth a chyfeillgarwch darlithwyr yr Adran Gymraeg. Yr adborth ar waith creadigol - trysor wrth ddatblygu gwaith. Y Glôb. JMJ. Aelwyd JMJ. Cymdeithas y Ddrama Gymraeg (sydd bellach yn Gymdeithas John Gwilym Jones). Yr ysbrydoliaeth i ddatblygu gyrfa yn y maes a gwneud hynny gyda hyder llwyr a'r hyder hwnnw'n cael ei danio gan Adran y Gymraeg.
Sut wnaeth Bangor eich helpu i gael y swydd sydd gennych chi nawr?
Doedd gen i ddim syniad yn y byd pa fath o swydd yr oeddwn i am ei chael ar ôl gadael y Brifysgol - doeddwn i heb feddwl am y peth oherwydd oeddwn i isho bod yn sdiwdant am byth. Serch hynny, roeddwn i'n gwybod beth nad oeddwn i eisiau ‘neud. - ella bod faint o weithia' glywes i "Be nei di ar ôl y Brifysgol? Cyfieithu? Dysgu?" yn rhywbeth i 'neud efo hynny. O'n i'n gwybod mod i isho chwara' - fel plentyn; isho creu, bod yn wirion a chwerthin ond pwy, yn ei iawn bwyll, fasa yn fy nghyflogi i 'neud hynny, yn de?
Wel, coeliwch neu beidio, ma' 'na fwy o opsiynau nac athrawes neu gyfieithydd... llawer, llawer mwy. Fy swydd gynta' ar ôl gadael y Brifysgol oedd Cynhyrchydd Cynnwys Digidol i Hansh, S4C. Ges i dreulio sawl diwrnod yng nghwmni’r cynhyrchwyr Iwan Pitts a Rhys Gwynfor, yn sgriptio, yn cynhyrchu, cyfarwyddo a datblygu sgiliau ym maes cyfryngau, gyda fy addysg ym Mhrifysgol Bangor yn sail i bopeth. Roeddwn yn sgriptio comedi ac yn cyfarwyddo am bron i ddwy flynedd a ges i brofiad arbennig yno 'naeth fy arwain at le 'dw i heddiw.
Pa fath o waith rydych chi’n ei wneud yn eich swydd bresennol?
Mae'r cyfleoedd dw i wedi ac yn eu cael yn Tinopolis yn ddibendraw - un diwrnod dw i'n ymchwilydd, yn ohebydd, yn sgriptiwr comedi, yn actor. Dw i wedi cael fy mendithio'n llwyr - nes i 'rioed ddychmygu y baswn i'n cael gweithio yn rhywle fel Tinopolis.
Yn y gwaith ymchwilio a gohebu, rydw i'n cael y cyfle i siarad efo pobl a rhannu eu stori nhw drwy fy ngeiriau i ar sgrin - dyma lle mae geiriau yn hollbwysig a lle mae'r sgiliau nes i eu meithrin yn y Brifysgol yn gymorth. Dw i, erbyn hyn, yn dal i dderbyn hyfforddiant gan rai o bileri Tinopolis heddiw - mae Delyth, sydd yn un o gynhyrchwyr Sgwrs Dan y Lloer yn fy hyfforddi ac yn fy nghefnogi o ddydd i ddydd ac mae Elin Fflur, sydd yn hen law ar y swydd, yn fy nghefnogi ac yn fy ysbrydoli a dim pawb fedar ddeud hynny - dw i'n un o'r unigolion mwya' lwcus yn y byd.
Dw i'n datblygu cyfres gomedi o'r enw 'Iawn Mêt?' efo Iwan Pitts, Rhys Gwynfor ac Alun Parrington hefyd. 'Naethon ni sgriptio a chynhyrchu peilot ar gyfer Hansh, S4C, ddechrau'r flwyddyn ac yn gobeithio ei throi hi'n gyfres erbyn flwyddyn nesa'.
Y peth brafia’ am weithio yn Tinopolis ydi mod i'n cael bod yn un byd un diwrnod efo'r gohebu, ac mewn byd hollol wahanol y nesaf efo'r comedi, a'r un bobl o hyd yn tanio'r angerdd ym mhob maes.
Ella 'mod i'n teimlo fy mod i wedi gadael byd y barddoni ar ôl ryw fymryn. Ar ôl imi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2020, nes i wirioni'n llwyr ac ella mod i wedi cyrraedd fy mhinacl bryd hynny ac wedi gadael i'r barddoni fynd yn angof, ond dw i'n gweithio efo Iestyn Tyne-Hughes a Grug Muse eto i ryddhau fy ail gyfrol ryw ben flwyddyn yma, neu nesa' - yn dibynnu ar bryd ga i gyfle i'w gorffen hi, rhwng bob dim.
Sut wnaeth eich profiadau ym Mangor (academaidd a chymdeithasol) helpu i'ch siapio fel person?
Does gen i ddim owns o amheuaeth na faswn i lle dw i heddiw, o ran gyrfa ac yn bersonol, heb y cyfnod anhygoel ges i ym Mangor yn astudio yn y Brifysgol. Mi nes i gyrraedd y Brifysgol yn unigolyn shei ac ofnus heb syniad yn y byd pwy oeddwn i.
Nes i adael y Brifysgol yn unigolyn yn llawn hyder, empathi a brwdfrydedd, a hynny'n ddiolch i'r bobl nes i eu cyfarfod, y profiadau gefais i a'r addysg unigryw nes i ei derbyn.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Dos amdani - dw i'n gaddo na chei di dy siomi. Tria beidio ofni ac os daw ofn i dy lethu - bydd rhywun ym Mangor yn barod i dy gefnogi a dy helpu di i ddod dros yr ofn hwnnw. Os wyt ti ofn gadael adra, cym gysur yn y ffaith bod 'na adra arall yn disgwyl amdanat ti ym Mangor ac y byddi di, ar ddiwedd dy daith, yn unigolyn bodlon a hapus yn gallu wynebu unrhyw beth a ddaw i dy ran yn dy yrfa gyda'r arf ora' un - addysg ym Mhrifysgol Bangor.