Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Claire Woolgrove

Gwnaeth modiwlau dewisol helpu i ddatblygu fy niddordebau.

Claire Woolgrove

Claire Woolgrove 

Pennaeth Cyfryngau Cymdeithasol yn Entrepreneurs Circle
Astudiodd: BA Economeg Busnes, 2013; MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr, 2014

Roedd fy mhenderfyniad i fynd i Brifysgol Bangor yn seiliedig ar argymhelliad gan ffrind, ac ar ôl llawer o ymchwilio fy hun, gwelais mai Bangor oedd y brifysgol ddelfrydol i mi.

Claire Woolgrove

"Mae gan Bangor rai o elfennau tref gyda manteision dinas ac mae mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Os yw twristiaid yn tyrru i fynd yno, pam na fyddech chi eisiau byw a dysgu yno?

“Wnes i fwynhau gwneud Busnes lefel A yn fawr iawn, yn enwedig yr ochr economeg, felly roedd Economeg Busnes yn ymddangos fel y cwrs delfrydol i mi. Wrth i mi astudio ar gyfer fy ngradd israddedig, dechreuodd fy niddordebau ddatblygu, diolch i'r modiwlau dewisol. Roedd Economeg yn ddiddorol, ond roeddwn wrth fy modd gyda Marchnata ac Ymddygiad Defnyddwyr.  Gwnaeth hyn lywio fy newis i wneud gradd Ôl-radd mewn Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr. 

“Rwy’n gweithio i gwmni sy’n angerddol am helpu busnesau bach i dyfu. Nhw yw asgwrn cefn yr economi, ac maent yn gyfrifol am gyflogi tua 60% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Fe'u gadewir i ddatrys pethau allan bron yn gyfan gwbl ar eu pennau eu hunain. Fy swydd yw cynnig cyngor strategol ar gyfer marchnata digidol i'n haelodau, yn ogystal â bod yn gyfrifol am y cyfryngau cymdeithasol.  Boed hynny ar sail un i un, yn ystod clinigau cefnogi wythnosol, neu mewn digwyddiadau cenedlaethol. 

"Wnes i gyfarfod â chymaint o bobl ym Mangor a fydd wir yn ffrindiau gydol oes; byddem i ffwrdd y rhan fwyaf o benwythnosau yn heicio a dringo. Yn bendant, wnes i dyfu i fod yn fwy o bwy ydw i ym Mhrifysgol Bangor. Wnes i gyfarfod â fy ngŵr yno hefyd, felly mae wedi cael effaith barhaol ar fy mywyd.”