Gall gwyddorau cymdeithas fod yn rhan o ddatrys unrhyw broblem.
Jake Sallaway-Costello
Cyd-gyfarwyddwr The Real Junk Food Project Central
Astudiodd: BSc Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd, 2015
Roedd cynnwys y cwrs ym Mangor yn amrywiol o ran pynciau ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio meysydd seicoleg nad oeddwn wedi ymdrin â nhw wrth wneud Lefel A.
"Wnes i arbenigo mewn seicoleg iechyd, ac ar ôl hynny wnes i ganolbwyntio fwy ar seicoleg maethol, gan weithio i Food Dudes Health yn rhan amser yn ystod fy mlwyddyn olaf.
"Ar ôl graddio, gweithiais i'r Ganolfan Ymchwil Bwyta a Gweithgaredd, a arweiniodd at symud i Birmingham i wneud PhD mewn iechyd cyhoeddus.
“Pan oeddwn ym Mangor, cymerais ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a manteisio’n helaeth ar yr holl gefnogaeth a gweithgareddau a gynigiwyd gan y tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd, a oedd yn hynod galonogol.
“Hefyd, cefais wersi Cymraeg wythnosol yng Ngholeg Menai a mwynheais gymryd rhan yn y gweithgareddau i 'ddysgwyr' a gynhaliwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Nottingham, lle rwy’n gweithio yn yr Is-adran Bwyd, Maeth a Deieteg fel arweinydd y cwricwlwm ar gyfer maeth cymdeithasol ac ymddygiadol. Fel yr unig seicolegydd yn fy nhîm, rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr - biocemegwyr maethol, dietegwyr a gwyddonwyr bwyd yn bennaf - i gysylltu fy addysgu gyda "pham" mewn perthynas ag ymddygiad bwyta, a "beth" o ran maetholion a'r system fwyd.
“Hefyd, sefydlais fenter gymdeithasol o’r enw ‘The Real Junk Food Project Central’ yn 2017, gan roi canfyddiadau fy astudiaethau ar waith yn y byd go iawn, ac mae’n dal i redeg yn llwyddiannus ac yn cynhyrchu dros 150,000 o brydau bwyd y flwyddyn ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
“Cefais ddarlithwyr gwych yn yr Ysgol Seicoleg a ddylanwadodd yn uniongyrchol ar sut rwy’n dysgu a chefnogi fy myfyrwyr heddiw. Mae gan yr ysgol gymuned frwd o ysgolheigion sy'n gweld y potensial enfawr mewn seicoleg, ac rwy'n credu mai dyma pam fy mod bellach yn 'gweld seicoleg ym mhopeth', ac yn gwerthfawrogi posibiliadau swyddogaeth gwyddorau cymdeithas yn datrys unrhyw broblem."