Bangor yn 19ain yn y Deyrnas Unedig am gynaliadwyedd yn y ‘Times Higher Education Impact Rankings’
Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Bangor yn un o'r 100 prifysgol orau yn y byd am ei harferion cynaliadwyedd.
Mae’r Brifysgol wedi’i gosod yn gydradd 77 yn fyd-eang ac yn 19ain yn y Deyrnas Unedig yn ôl y ‘Times Higher Education Impact Rankings’ blynyddol.
Dyma’r unig dabl perfformiad byd-eang sy’n asesu prifysgolion yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig gan ddefnyddio tystiolaeth fanwl i asesu sefydliadau ar draws pedwar maes: ymchwil, stiwardiaeth, estyn allan ac addysgu. Eleni gosodwyd 1,963 o brifysgolion yn y gynghrair, cynnydd o bron i 400 ers y llynedd, gyda Phrifysgol Bangor yn cadw ei safle 100 uchaf yn fyd-eang a'i sgôr cyffredinol o dros 90% yn yr adborth.
Meddai’r Dirprwy i’r Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull, sy’n arwain ar gynaliadwyedd yn y Brifysgol, “Hyd yn oed gyda mwy o brifysgolion nag erioed o’r blaen yn y gynghrair rydym wedi dal ein safle fel prifysgol flaenllaw am gynaliadwyedd yn y Deyrnas Unedig, a’r byd.
“Mae’r Times Higher Education Impact Rankings yn un o’r tablau cynghrair gorau un am gynaliadwyedd gan ei fod yn ystyried popeth a wnawn fel prifysgol o’n hymchwil a’n haddysgu i sut rydym yn ailgylchu, a’n polisïau ar gydraddoldeb rhyw.
“Eleni cawsom ein mesur yn erbyn 10 o’r 17 categori Nodau Datblygu Cynaliadwy, tri yn fwy na’r llynedd diolch i ffyrdd newydd o weithio ac ymdrechion Emma Riches ac arweinwyr Colegau’r Brifysgol ar gynaliadwyedd.”
“Rydym yn gwneud cynnydd gwych mewn cymaint o feysydd cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol, ac mae gennym gynlluniau ar sut y gallwn wneud hyd yn oed yn well yn y 12 mis nesaf i gynnal ein safle blaenllaw yn y byd.”
Roedd rhai uchafbwyntiau i safle Prifysgol Bangor yn y Times Higher Education Impact Rankings, yn cynnwys bod yn safle 36 yn y byd am y Nod Datblygu Cynaliadwy yn y categori 'llai o anghydraddoldeb'; safle 14 am 'ddefnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol'; safle 30 am 'weithio mewn partneriaeth i gyflawni’r nodau, a safle 92 am 'fywyd o dan y dŵr. I gael gwybod mwy am gamau gweithredu cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/bangorgynaliadwy