Mae Athena Swan yn cynnig nifer o fanteision i’r Ysgol a’i chymuned. Mae'n dangos ein hymrwymiad i symud ymlaen ag agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail rhyw ac yn gwreiddio egwyddorion Athena Swan yn llawn yn niwylliant Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio tuag at wobr efydd Athena Swan wedi amlygu ein cryfderau gan gynnwys y ffaith bod staff benywaidd Ysgol Busnes Bangor yn llwyddo i gael dyrchafiadau mewnol. Mae hefyd wedi ein helpu i osod targedau newydd ar gyfer gwella cynwysoldeb e.e. rydym yn anelu at gael gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau yn holl agweddau ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yr Ysgol. Mae’r Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhyw mewn ymchwil ac addysg uwch.
Enillodd Ysgol Busnes Bangor y wobr efydd Athena Swan ym mis Tachwedd 2019.
Gwybodaeth am Athena Swan
Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005 ac mae'n seiliedig ar ddeg egwyddor allweddol yn ymwneud â'r agenda cydraddoldeb. Sefydlwyd y siarter yn wreiddiol er mwyn annog a chydnabod yr ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ond mae bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhyw yn ehangach.
Dyfernir y wobr Athena Swan gan Uned Her Cydraddoldeb Advance HE, ac mae'r wobr yn ddilys am bum mlynedd. Cafodd y cais am y wobr ei baratoi a’i gyflwyno gan Dîm Hunanasesu Athena Swan yr Ysgol.
Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.
Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.