Bygythiadau i fywyd gwyllt yn y gaeaf
Mae Dr Alex Sutton, Darlithydd Sŵoleg, wedi cyhoeddi gwaith newydd ar fygythiadau i fywyd gwyllt yn y gaeaf, fel rhan o weithgor parhaus sy’n ymwneud ag ecoleg y gaeaf sy’n rhychwantu 11 o Brifysgolion ac adrannau llywodraeth o dair gwlad.
Mae'r gaeaf yn aml yn creu delweddau oerllyd, tywyll, eira a rhew, yn enwedig ar ledredau uchel. Mae’r tywydd garw’n gosod amrywiaeth o heriau i unigolion ac ecosystemau, ond ychydig iawn o waith fu’n canolbwyntio ar oblygiadau’r gaeaf i gadwraeth a sut y gallai hynny ryngweithio â’r bygythiadau i fywyd gwyllt.
Defnyddiodd gwaith Alex, fel rhan o weithgor parhaus ar ecoleg y gaeaf, y tacsonomegau sy’n ymwneud â bygythiad a’r gweithredu a gynhyrchwyd gan Bartneriaeth Mesurau Cadwraeth Natur Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur i nodweddu’r bygythiadau sy'n codi yn ystod y gaeaf neu'n deillio ohono.
Buont yn trafod sut y gall nodi’r bygythiadau hynny arwain at ddulliau rheoli pwrpasol i fentrau cadwraeth sy’n digwydd drwy gydol y gaeaf.
Nid yw'n syndod bod yna lu o fygythiadau i organebau yn y gaeaf. Gall cynefinoedd creaduriaid sy’n gaeafu gael eu dinistrio neu eu colli, gall gweithgareddau dynol amharu ar aeafgysgu, neu gall y bywyd gwyllt wrthdaro â gweithgareddau hamdden gaeaf-benodol pobl. Mae'r bygythiadau hynny’n arwyddocaol iawn i fywyd gwyllt oherwydd gallent ryngweithio â'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r gaeaf ar fwyd a chysgod, a’r newid yn yr hinsawdd, yn cymhlethu datblygiad neu weithrediad yr arferion rheoli.
Mae cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd tymor y gaeaf, a rheolaeth bwrpasol ar fywyd gwyllt trwy gydol y gaeaf. Mae nifer cynyddol o fentrau newydd yn awgrymu y gallem fod yn agosáu at drobwynt ar gyfer bioleg gymhwysol y gaeaf. Mae’n hollbwysig ystyried bygythiadau i fywyd gwyllt drwy gydol y gaeaf, a datblygu strategaethau cadwraeth a rheolaeth sy’n ymgorffori strategaethau penodol i’r gaeaf er mwyn sicrhau bod digwyddiadau yn ystod y tymor pwysig hwnnw, a anwybyddir yn aml, yn cael eu hymgorffori mewn penderfyniadau ynghylch cynlluniau rheolaeth.
Os hoffech ddysgu mwy am yr ymchwil, mae'r papur llawn yma: https://academic.oup.com/conphys/article/11/1/coad027/7158675#404888411.