Helo,
Fy enw i yw Kieren. Rwy’n astudio’r Gwyddorau Biofeddygol, ymunais fel myfyriwr aeddfed ac rwyf wedi mwynhau fy amser yma’n fawr.
Rwy’n mwynhau’r awyr agored, cefais fy nenu i'r ardal yn naturiol ddigon, ac rwyf wedi mwynhau gweithgareddau fel dringo, heicio a syrffio. Yn fy mlwyddyn gyntaf, darganfyddais harddwch Gogledd Cymru, a dod o hyd i lawer o lwybrau a oedd yn amrywio o sgramblo ar y mynydd i’r traethau.
Yn ystod gweddill fy amser yn y brifysgol, rwy'n bwriadu crwydro'r ardal a darganfod golygfeydd a hobïau newydd.
Rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn rhannu fy mrwdfrydedd dros ddigwyddiadau Campws Byw eleni.