Helo! Satsuki ydw i ond galwch fi’n Suki ac ar hyn o bryd rwy'n astudio gradd Meistr mewn cwnsela ym Mangor.
Rwy’n mwynhau cael fy amgylchynu gan natur wrth fforio yn chwilio am blanhigion, anifeiliaid a phryfed cŵl. Yn ystod y gaeaf mae'n debyg y cewch hyd i mi rywle yn y goedwig ac yn yr haf cewch hyd i mi yn y dŵr. Mae croeso bob amser i chi ddod ar antur gyda mi!
O sôn am anturiaethau, mae gan Campws Byw lwyth o ddigwyddiadau hwyliog ac anturus yn aros amdanoch chi. Rydw i'n edrych ymlaen at eich cyfarfod i gyd. Dewch i ni fwynhau ein campws byw!