Cerdded i fyny’r Wyddfa!
Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gerdded i fyny mynydd uchaf Cymru a Lloegr. Mae’r Wyddfa wedi’i lleoli ger pentref Llanberis, dim ond taith 30 munud i ffwrdd ar y bws. Byddwch yn cael eich tywys i fyny'r mynydd gan arweinwyr mynydd cymwysedig ac yn cerdded ar gyflymdra cyson. Mae disgwyl i'r daith gerdded gymryd tua 6 awr i fyny ac i lawr. Rhaid i fyfyrwyr ddod â bwyd a dŵr gyda nhw, yn ogystal â gwisgo esgidiau synhwyrol, yn ddelfrydol esgidiau cerdded. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd, felly mae’n rhaid archebu lle ar shop.bangor.ac.uk