Gweithdy Gwnïo
Mae ein gweithdai gwnïo’n ôl a’r tymor hwn byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar uwchgylchu dillad. Dewch â hen ddillad gyda chi i wneud rhai newydd, neu defnyddiwch rywfaint o'n ffabrig i wneud eich project bach eich hun. Bydd Debra Drake, a gyrhaeddodd rownd derfynol The Great British Sewing Bee, yn arwain y sesiynau gan roi hyfforddiant proffesiynol i chi bob cam o’r ffordd. Mae croeso i ddechreuwyr, a chewch fynd ar eich cyflymder eich hun.