Noson Ffilm Masnach Deg gyda Hufen Iâ Masnach Deg!
Bydd y noson ffilm arbennig hon yn canolbwyntio ar bopeth Masnach Deg. Byddwn yn arddangos amrywiaeth o ffilmiau byr ar wahanol bynciau o wahanol wledydd. Bydd myfyrwyr yn gallu mwynhau hufen iâ Masnach Deg Ben a Jerry’s ar ein bagiau ffa cyfforddus wrth wylio’r ffilmiau! Bydd y digwyddiad hwn yn para tua awr.