Yoga
Ymlaciwch a bwrw'ch blinder yn y sesiwn ioga hon sy’n awr o hyd. Dan arweiniad hyfforddwyr proffesiynol yn Acapela, sef ein hen gapel tawel a chroesawgar. Mae’r sesiwn yn addas i bawb, o ddechreuwyr i lefel uwch, felly dewch i roi cynnig arni. Darperir matiau yoga ond mae croeso i chi ddod ag un eich hun.