Ar gyfer PhD/MPhils: yn y flwyddyn gyntaf argymell a yw’r ymchwil ôl-radd yn symud ymlaen i PhD neu MPhil (fel y bo'n berthnasol); yn y blynyddoedd dilynol argymell a yw'r ymchwil ôl-radd yn parhau neu'n trosglwyddo i raglen amgen.
Ar gyfer MScRes: asesu a ydynt ar y trywydd iawn i gwblhau eu gradd o fewn 12-15 mis i gofrestru yn unol â’r disgwyl.
RHAGOR O WYBODAETH YNGLŶN Â RHEOLIADAU, CODAU YMARFER A DULLIAU GWEITHREDU’R BRIFYSGOL
- Nid rhyw fater o ffurf yw adolygiadau y bydd myfyrwyr ôl-radd ymchwil yn llwyddo ynddynt yn ddiofyn. Dylai myfyrwyr ôl-radd ymchwil baratoi ar eu cyfer yn drylwyr a disgwyl cwestiynau treiddgar – mae’n baratoad da ar gyfer y viva!
- Mae adolygiadau yn fecanwaith pwysig ar gyfer sicrhau ansawdd ein graddau ymchwil o ran yr hyfforddiant a'r profiad a gaiff y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r traethawd ymchwil/papurau dilynol fel ei gilydd.
- Mae gan y pwyllgor gyfrifoldeb i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil, i'r ysgol, ac i'r brifysgol i sicrhau bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cwblhau ei radd yn llwyddiannus ac ar amser: dylid mynd i'r afael ag unrhyw faterion yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
- Os na fydd y cynnydd yn foddhaol, bydd y pwyllgor yn gwneud argymhellion ac yn gofyn am gyfarfod arall (fel arfer o fewn tri mis). Caiff adolygiad newydd ei greu ar y system ar gyfer yr adolygiad hwnnw, a bydd set newydd o ffurflenni'n cael eu cwblhau (dylid cwblhau’r adolygiad cyntaf ac nid ei adael ar agor tan yr ail gyfarfod). Ni ddylai pwyllgorau osgoi'r opsiwn hwn, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu'n wael ar y myfyriwr ôl-radd ymchwil a allai fod wedi wynebu rhwystrau oedd y tu hwnt i'w reolaeth. Sylwer: nid yw problemau ac anawsterau’n ddigon o reswm i osgoi cynnal adolygiad erbyn y dyddiad cau, neu i beri bod myfyriwr ôl-radd ymchwil yn llwyddo heb ail gyfarfod.
- Nid asesu'r myfyriwr ôl-radd ymchwil yw unig ddiben y cyfarfod adolygu. Dylai'r pwyllgor hefyd ystyried anghenion y myfyriwr ôl-radd ymchwil (o ran hyfforddiant, cefnogaeth, offer ac ati) a phenderfynu a yw'r anghenion hynny’n cael eu diwallu'n ddigonol. Bydd pwyllgorau’n gwneud argymhellion i oruchwylwyr neu i’r ysgol (drwy’r Arweinwyr Ymchwil Ôl-radd) os oes angen cefnogaeth ychwanegol – gwnewch yn siŵr bod Arweinwyr Ymchwil Ôl-radd yn ymwybodol o unrhyw broblemau.
- Ni ddylid trin yr adolygiadau fel ymarfer biwrocrataidd o dicio blychau: dylech gynnal trafodaethau trylwyr a diddorol am y wyddoniaeth.
- Mae'r adolygiad blynyddol yn gyfle i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil gael mewnbwn gan arbenigwr pwnc arall sydd wedi darllen eu gwaith yn drylwyr, yn ogystal â'u goruchwylwyr.
- Bydd y pwyllgor yn gwneud sylwadau ynghylch a yw’r myfyriwr ôl-radd ymchwil ar y trywydd iawn i gynhyrchu gwaith y gellir ei gyhoeddi: mae angen i draethawd PhD gynnwys gwaith o ansawdd y gellir ei gyhoeddi a disgwylir i draethodau ymchwil MScRes ac MPhils hefyd fod yn waith y gellir ei gyhoeddi.
- Bydd y myfyriwr ôl-radd ymchwil yn darparu eu cynlluniau ar gyfer cyhoeddi eu hymchwil. Mae'r profiad o gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid yn rhan annatod o hyfforddiant ymchwil a disgwyliad y coleg yw y bydd pob myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cyhoeddi o leiaf un papur a adolygir gan gymheiriaid fel rhan o'u gradd ymchwil.
- Bydd myfyrwyr ôl-radd ymchwil sydd wedi bod trwy gyfarfodydd adolygu blynyddol cadarn yn llawer mwy parod ar gyfer eu viva.
- Dylai pwyllgorau drin yr adolygiadau fel viva bychan (yn enwedig yn y flwyddyn olaf), a dylai myfyrwyr ôl-radd ymchwil baratoi fel pe bai hynny’n wir. Yn union fel viva, byddant yn cynnwys digon o gwestiynau treiddgar a thrafodaeth fanwl, mewn amgylchedd cadarnhaol ac adeiladol. Ni ddylai goruchwylwyr ateb ar ran y myfyriwr ôl-radd ymchwil: yn gyffredinol, dylid “eu gweld ond peidio â’u clywed” er y gall y pwyllgor gyfeirio cwestiynau penodol at y goruchwylwyr.
DS: ni fydd pob MScRes yn cael viva
- MScRes: Chwefror-Mawrth (yn achos y sawl a gofrestrodd ym mis Medi/Hydref). 4-5 mis ar ôl cofrestru yn achos myfyrwyr eraill, h.y. erbyn diwedd mis Mai os dechreuwyd ym mis Ionawr. Bydd adolygiadau hefyd yn cael eu cynnal ar gyfer unrhyw MScRes sy'n mynd i mewn i ail flwyddyn 'gras', fel arfer yn ystod Chwefror-Mawrth ni waeth pryd y gwnaethant ddechrau'n wreiddiol.
- PhD ac MPhil: dim hwyrach na 9 mis ar ôl cofrestru (a 21, 33 mis ayyb ar ôl cofrestru yn y blynyddoedd dilynol). H.y. yn achos myfyrwyr ôl-radd ymchwil a ddechreuodd ym mis Hydref dylid cynnal yr adolygiadau cyn diwedd mis Mehefin bob blwyddyn.
- Dylid cynnal ail-adolygiadau, os oes eu hangen, fel arfer o fewn 3 mis i'r adolygiad cyntaf.
- Os yw myfyriwr ôl-radd ymchwil wedi gohirio ei astudiaethau am gyfnod (e.e. absenoldeb mamolaeth) gellir gohirio dyddiad yr adolygiad nes i’r myfyriwr ddychwelyd i’w waith ond dylid ei gynnal o fewn ychydig fisoedd i ddychwelyd. Wrth gwrs, dylai'r pwyllgor ystyried y cyfnod o absenoldeb wrth ystyried cynnydd, ond mae'n bwysig bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cael adolygiad i sicrhau ei fod yn cael cefnogaeth ddigonol.
- Os cafodd adolygiad y flwyddyn flaenorol ei ohirio (e.e. oherwydd gohirio astudiaethau) gellir cynnal adolygiad y flwyddyn nesaf hyd at 9 mis ar ôl adolygiad y flwyddyn flaenorol, gan wneud lwfans priodol wrth farnu cynnydd.
- Dylid adolygu myfyrwyr rhan amser bob blwyddyn, gan wneud lwfans priodol ar gyfer eu statws rhan amser o ran y cynnydd a ddisgwylir. Felly: NID yw statws rhan amser yn rheswm i ohirio adolygiad.
- Nid oes angen adolygiad ar fyfyrwyr ôl-radd ymchwil sydd wedi cyflwyno eu thesis oni bai bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil neu'r goruchwyliwr yn meddwl y byddai hynny'n ddefnyddiol (e.e. fel paratoad ar gyfer viva).
- Ni fyddwn yn canslo/gohirio adolygiadau myfyrwyr sydd “ar fin cyflwyno”. Mae profiad yn dangos bod hyn yn aml yn cymryd mwy o amser nag a gafodd ei gynllunio! Yn lle hynny, mae'n well eu cynnal cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt fod mor ddefnyddiol â phosibl. Os yw myfyriwr ôl-radd ymchwil ar fin cyflwyno, bydd ganddynt ddrafft o'u traethawd ymchwil sydd bron yn gyflawn a dylai paratoi'r ffurflenni ar gyfer y cyfarfod adolygu fod yn dasg hawdd iawn!
- Ym mhob achos, anfonwch e-bost at pgr.studentadmin@bangor.ac.uk ac at yr arweinydd ymchwil ôl-radd perthnasol os credwch fod angen newid y dyddiad neu os nad oes angen adolygiad.
- Gellir cynnal cyfarfodydd adolygu dros Teams neu wyneb yn wyneb.
Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil
- Dylai myfyrwyr ôl-radd ymchwil gysylltu â'u goruchwylwyr cyn gynted ag y caiff yr adolygiadau eu creu i drafod pryd a sut y caiff y cyfarfod ei drefnu - gall rhai goruchwylwyr ddirprwyo hyn i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil, ar y llaw arall efallai y byddai'n well gan eraill wneud y trefniadau eu hunain.
- Dylid neilltuo o leiaf 1 awr ar gyfer cyfarfod adolygu MScRes, ac 1.5 awr ar gyfer PhD/MPhil.
- Cwblhewch y ffurflen a’r arolwg ôl-radd ymchwil ar y system adolygu https://apps.bangor.ac.uk/postgrad_review/ o leiaf bythefnos cyn eich cyfarfod adolygu.
- Gwyliwch rhag i’r sesiwn gyfrifiadurol ddod i ben! Mae'r system newydd yn llawer gwell, ond rydym yn dal i argymell eich bod yn cadw eich cynnydd yn rheolaidd, neu ddrafftio darnau hir o destun yn Word ac yna eu gludo i mewn.
- Efallai y bydd arnoch hefyd eisiau e-bostio unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu huwchlwytho at y pwyllgor, rhag ofn y bydd problemau technegol, ac fel eu bod yn gwybod eich bod wedi llenwi'r ffurflenni.
- Os ydych yn uwchlwytho mwy nag un bennod/papur, dylai'r myfyriwr ôl-radd ymchwil roi gwybod i'w Arholwr Mewnol pa un sydd bwysicaf i'w ddarllen yn fanwl.
- Ar ôl y cyfarfod, byddwch yn cael e-bost awtomataidd yn gofyn i chi “Gytuno” â chanlyniadau’r cyfarfod – dylech fewngofnodi i’r system a naill ai cytuno neu ymgynghori â’ch cadeirydd os oes gennych bryderon (peidiwch ag “anghytuno” nes i chi fod wedi ymgynghori â'r cadeirydd yn gyntaf).
-
Goruchwylwyr
- Cysylltwch â'r myfyriwr ôl-radd ymchwil cyn gynted ag y bydd yr adolygiadau wedi'u creu, i drafod trefnu'r cyfarfod, a thrafod beth sydd angen i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil ei wneud i baratoi.
- Helpwch y myfyriwr ôl-radd ymchwil i osod dyddiad ar gyfer y cyfarfod
- Unwaith y bydd dyddiad ac amser wedi'u cytuno gall y goruchwyliwr roi nodyn ar yr adolygiad yn y system ar-lein, ond nid yw hyn yn hanfodol. Fodd bynnag, os cynhelir yr adolygiad ar ôl y dyddiad cau am ryw reswm na ellir ei osgoi, byddai hyn yn syniad da fel bod y Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-radd yn gwybod ei fod yn yr arfaeth (ni fydd gwneud hynny yn atal nodiadau atgoffa awtomataidd rhag cael eu hanfon).
- Helpwch y myfyriwr ôl-radd ymchwil i baratoi at yr adolygiad – rhowch adborth amserol e.e. ar eu hadolygiad llenyddiaeth ac ati.
- Cyflwynwch ffurflen y goruchwyliwr mewn da bryd.
- Fel arfer mae croeso i oruchwylwyr fynychu’r cyfarfodydd, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, fel arfer dylent gael “eu gweld ond nid eu clywed” a dylent ymatal rhag ateb cwestiynau ar ran y myfyriwr ôl-radd ymchwil.
- Ar ôl y cyfarfod, bydd eich goruchwyliwr yn cael e-bost awtomataidd yn gofyn i chi “Gytuno” â chanlyniadau’r cyfarfod – dylech fewngofnodi i’r system a naill ai cytuno neu ymgynghori â’ch cadeirydd os oes gennych bryderon (peidiwch ag “anghytuno” nes i chi fod wedi ymgynghori â'r cadeirydd yn gyntaf).
-
Cadeiryddion - Er mai’r goruchwyliwr/myfyriwr ôl-radd ymchwil ddylai arwain y gwaith o drefnu’r cyfarfod, y cadeirydd yn y pen draw sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn digwydd a bod yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn y dyddiad cau. Felly, os nad ydych wedi clywed unrhyw beth yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf bydd angen i chi fynd ar drywydd y mater.
- Darllenwch y ffurflenni cyn y cyfarfod (nid oes angen i'r cadeirydd ddarllen y dogfennau sydd wedi'u huwchlwytho megis penodau neu adolygiadau llenyddiaeth). Os cyflwynir ffurflenni'r myfyriwr ôl-radd ymchwil yn rhy hwyr i ganiatáu craffu yn briodol arnynt, dylai'r cadeirydd ystyried dychwelyd dyfarniad anfoddhaol a threfnu adolygiad newydd.
- Dylech gadeirio’r cyfarfod a gofyn cwestiynau, gan sicrhau bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cael ei drin yn deg, ac yn cael y cyfle i siarad am y berthynas oruchwylio yn gyfrinachol (heb i’r goruchwyliwr fod yn bresennol). Sylwch: dylai'r cadeirydd wneud hyn bob amser hyd yn oed os yw popeth yn ymddangos yn iawn. Ni ddylent ofyn i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil a oes arnynt eisiau’r cyfle hwnnw.
- Sicrhewch nad yw’r goruchwylwyr, os ydynt yn bresennol, yn cymryd yr awenau yn ystod y drafodaeth.
- Gwnewch yn siŵr bod y ffurflenni'n cael eu llenwi'n brydlon ar ôl y cyfarfod (mewn ymgynghoriad â'r arholwr mewnol) a sicrhau bod y goruchwyliwr a'r myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cytuno â'r canlyniadau. Fel arfer y ffordd orau yw bod yr arholwr mewnol a'r cadeirydd yn aros am ychydig funudau ar ôl y cyfarfod i gwblhau'r holl ffurflenni yn y fan a'r lle.
- DS: Mae gan yr arholwr mewnol a'r cadeirydd fynediad cyfartal at yr holl ddogfennau a’r holl swyddogaethau yn y system adolygu.
-
Arholwyr Mewnol
- Dylai arholwyr mewnol ddarllen o leiaf un ddogfen sylweddol (drafft o bennod neu adolygiad llenyddiaeth) yn llawn ar gyfer pob adolygiad blynyddol, yn ogystal â chynllun y traethawd ymchwil a dogfennau byrrach eraill, a darparu adborth arnynt.
- Yn ystod y cyfarfod, yr arholwr mewnol fydd fel arfer yn gofyn y rhan fwyaf o’r cwestiynau i’r myfyriwr ôl-radd ymchwil.
Y cadeirydd: uwch academydd: sy’n weithgar mewn ymchwil ac yn brofiadol wrth oruchwylio ac arholi myfyrwyr doethurol, nid o reidrwydd yn arbenigwr pwnc. Nhw sy’n cadeirio'r cyfarfod, yn sicrhau proses briodol, ac yn cynghori ar y cynnydd a ddisgwylir ym mhob cam. Nhw fydd hefyd fel arfer yn cadeirio viva'r myfyriwr ôl-radd ymchwil. Yn ddiofyn, nhw sy’n gweithredu fel tiwtor personol i’r myfyriwr ôl-radd ymchwil, a gall y myfyriwr ôl-radd ymchwil drafod unrhyw beth gyda’i diwtor personol nad yw am ei drafod gyda'i oruchwyliwr. Er mai’r goruchwylwyr ddylai fod y pwynt cyswllt cyntaf i fyfyriwr ôl-radd ymchwil bob amser, os oes materion nad ydynt yn dymuno eu trafod gyda'r goruchwylwyr, cânt eu hannog i'w trafod gyda'u cadeirydd/tiwtor personol ar unrhyw adeg yn ystod eu gradd. Penodir cadeiryddion gan yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd/Gweinyddwr Ymchwil Ôl-radd yn fuan ar ôl i’r myfyriwr ôl-radd ymchwil gofrestru, a bydd myfyriwr ôl-radd ymchwil a’r goruchwylwyr yn derbyn e-bost yn eu hysbysu o hyn.
Arholwr Mewnol: arbenigwr pwnc, sy’n gymwysedig i werthuso'r ymchwil a darparu cyngor pwnc-benodol. Fel arfer byddant yn gweithredu fel yr arholwr mewnol yn y viva, ond dylid adolygu hyn wrth i'r viva agosáu. Pan fydd myfyriwr ôl-radd ymchwil yn dechrau, bydd y goruchwyliwr yn nodi arholwr mewnol addas ac, ar ôl cael eu cydsyniad, bydd yn rhoi gwybod i'r Arweinydd Ymchwil Ôl-radd ac i’r Gweinyddwr Ymchwil Ôl-radd, a rhoddir gwybod i’r myfyriwr ôl-radd ymchwil.
Gall myfyrwyr ôl-radd ymchwil a staff wirio pwy yw'r pwyllgor trwy edrych ar y system adolygu neu ar FyMangor.
Goruchwyliwr(wyr). Yn wahanol i'r viva, gall goruchwylwyr fynychu cyfarfodydd adolygu. Bydd hyn yn arbennig o werthfawr yn y flwyddyn gyntaf a'r ail. Fodd bynnag, y myfyrwyr ôl-radd ymchwil ddylai siarad a dim ond ar gais y pwyllgor y dylai'r goruchwyliwr gyfrannu.
Goruchwylwyr allanol. Mae gan lawer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg oruchwylwyr allanol o sefydliadau eraill. Er na fyddant yn gallu cyrchu'r system ar-lein yn uniongyrchol (oni bai bod ganddynt fanylion mewngofnodi Bangor) fe'u hanogir i gyfrannu at ffurflen dystiolaeth y goruchwyliwr ac i fynychu'r cyfarfod adolygu. Ar ôl y cyfarfod adolygu, dylid rhannu ffurflen a chamau gweithredu'r cadeirydd gyda’r goruchwylwyr allanol (gellir ei lawrlwytho a'i chadw fel PDF).
Ffurflen myfyriwr ôl-radd ymchwil
- Gellir cadw ffurflenni anghyflawn heb eu cyflwyno, ond rwyf yn argymell drafftio'r testun ar gyfer y ffurflen yn Word ac yna gludo’r testun i'r system ar-lein a/neu gadw'r ffurflen yn aml i osgoi colli testun rhag i’r amser ddod i ben.
- Cwblheir y ffurflen hon gan y myfyriwr ôl-radd ymchwil cyn y cyfarfod. Dim ond y pwyllgor (yr arholwr mewnol a'r cadeirydd) sy'n ei gweld ac nid y goruchwyliwr/goruchwylwyr.
- Fodd bynnag, gall myfyrwyr ôl-radd ymchwil ofyn i'w goruchwylwyr am gyngor ar unrhyw ran o'r ffurflen. e.e. Byddai myfyrwyr ôl-radd ymchwil fel arfer yn trafod eu cynllun penodau a dogfennau eraill gyda'u goruchwylwyr cyn eu cyflwyno.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi enwau clir a hunanesboniadol i'ch holl ddogfennau.
- Cofiwch y gallwch hefyd drafod materion yn gyfrinachol gyda'ch cadeirydd/tiwtor personol unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau. Os oes gennych fater pwysig/sensitif i'w drafod gyda nhw efallai y byddwch am drefnu i'w gweld cyn y cyfarfod adolygu blynyddol.
Arolwg cyfrinachol myfyrwyr ôl-radd ymchwil
Yn ogystal â'r ffurflen uchod, bydd myfyrwyr ôl-radd ymchwil yn cwblhau arolwg (a fydd eto ddim ond yn cael ei weld gan y cadeirydd a'r arholwr mewnol yn unig). Yn wahanol i ffurflenni myfyrwyr ôl-radd ymchwil a ffurflenni staff, mae'r arolwg hwn wedi'i safoni ar draws y brifysgol gyfan.
Ffurflen dystiolaeth y goruchwyliwr
- Gellir cadw ffurflenni anghyflawn heb eu cyflwyno, ond rwyf yn argymell drafftio'r testun ar gyfer y ffurflen yn Word ac yna gludo’r testun i'r system ar-lein.
- Cwblheir y ffurflen hon gan y goruchwyliwr(wyr) cyn y cyfarfod (mae gan gyd-oruchwylwyr sy'n staff prifysgol fynediad cyfartal i'r system).
- Fel arfer bydd y prif oruchwyliwr yn llenwi'r ffurflen mewn trafodaeth â chyd-oruchwylwyr, ond gall unrhyw gyd-oruchwyliwr o Brifysgol Bangor lenwi'r ffurflen (cyn belled â'u bod wedi'u rhestru ar Banner fel cyd-oruchwyliwr). Mae croeso i oruchwylwyr rannu/trafod drafftiau o'r ffurflen gyda chyd-oruchwylwyr y tu allan i Brifysgol Bangor (e.e. CEH, partner KESS).
- DS: Dim ond y pwyllgor sy'n gweld ffurflen y goruchwyliwr, ond bydd ffurflen y cadeirydd i'w gweld gan bawb.
Adroddiad y Cadeirydd/Arholwr Mewnol
- Nid yw’r adroddiad hwn bellach wedi'i gyfyngu i fod yn union yr un fath â ffurflen y goruchwyliwr. Fe'i gwblheir gan y pwyllgor (yr arholwr mewnol a’r cadeirydd) yn ystod/ar ôl y cyfarfod, yn seiliedig ar ffurflen y goruchwyliwr, ffurflen ac arolwg y myfyriwr ôl-radd ymchwil, a'r cyfarfod ei hun.
- Mae gan y cadeirydd a'r arholwr mewnol yr un mynediad at y ffurflen.
- Rhaid i’r Cadeirydd a’r Arholwr Mewnol hefyd nodi rhai camau i'w cymryd gan y myfyriwr ôl-radd ymchwil, y goruchwyliwr, neu bartïon eraill (e.e. Yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd). Byddant hefyd yn dewis “canlyniad”.
- Unwaith y bydd y ffurflen wedi'i chwblhau ac unwaith bod o leiaf un cam gweithredu wedi'i ychwanegu, caiff y ffurflen ei hanfon yn awtomatig at y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr er mwyn iddynt gytuno. Os nad ydynt yn cytuno, byddant yn gallu ychwanegu sylw yn egluro pam nad ydynt yn cytuno, a gall y Cadeirydd a’r Arholwr Mewnol ddewis naill ai i addasu'r adroddiad/camau gweithredu/canlyniad neu eu diystyru.
Cynllun Marcio Cynnydd
Ar y ffurflenni staff, mae “cynllun marcio cynnydd” sef graddfa ac arni’r opsiynau canlynol:
- Wedi bodloni neu ragori ar yr holl ofynion penodedig.
- Wedi bodloni'r gofynion i raddau helaeth, angen gwelliant wedi'i dargedu mewn rhai meysydd.
- Wedi methu â bodloni’r gofynion mewn rhai meysydd. Mae angen gwelliant sylweddol.
- •Wedi methu cwrdd â gofynion y rhaglen.
Nid oes angen rhoi'r canlyniad uchaf ym mhob adran i fyfyriwr ôl-radd ymchwil er mwyn cael canlyniad “symud ymlaen”. Yn wir, mae’n gyffredin i bwyllgor benderfynu fod ar sawl maes angen gwelliant sylweddol wedi’u targedu, ond gan argymell “cynnydd/parhau”. Yna dylid rhoi camau penodol i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil a/neu i’r goruchwylwyr eu cwblhau cyn yr adolygiad blynyddol nesaf.
Canlyniadau
Gall y pwyllgor argymell y canlyniadau canlynol:
- Cynnydd/Parhau (os felly cynhelir adolygiad arall ymhen 1 flwyddyn)
- Anfoddhaol: Ail-adolygu o fewn tri mis
- Trosglwyddo i raglen amgen (e.e. yn achos PhD trosglwyddo i MPhil neu MSc trwy Ymchwil).
- Tynnu’n ôl o'u hastudiaethau
Dylid trafod y ddau achos olaf gyda'r Arweinydd Ymchwil Ôl-radd a chânt eu cyfeirio at y Deon Astudiaethau Graddedig, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Ni ddylid eu defnyddio fel arfer y tro cyntaf i fyfyriwr ôl-radd ymchwil gael ei adolygu, ond yn hytrach mewn ail-adolygiad ar ôl canlyniad anfoddhaol blaenorol.