Mae Prifysgol Bangor yn gartref i adnoddau a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysg anatomeg ddynol. Mae ein harbenigwyr yn defnyddio archwiliadau anatomegol wrth addysgu myfyrwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol meddygol a pherthynol i iechyd, am strwythur a swyddogaeth y corff dynol. Lleolir y ganolfan yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd ac mae’n cefnogi addysg anatomegol ar draws Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon. Yma hefyd mae cartref ysgol haf Visceral Mind sy’n adnabyddus ledled y byd am ddarparu cwrs preswyl wythnos o hyd mewn niwroanatomeg swyddogaethol.
Er bod llawer o sefydliadau eraill yn symud i ffwrdd o'r dull hwn, rydym ni yn cynnig dulliau dysgu traddodiadol yn defnyddio deunydd celaneddol, gan ein bod yn credu ei fod yn ddull hanfodol o ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi topograffig, yn ogystal â gwerthfawrogiad o amrywiadau anatomegol.
Yn ogystal, mae gennym lyfrgell helaeth o fodelau a phroraniadau corfforol 3D o ansawdd uchel ac rydym yn rhoi mynediad i'n myfyrwyr at adnodd dysgu anatomeg 3D blaengar y gellir ei ddefnyddio i rith-ddyrannu, yn ogystal ag amgylcheddau ac offer addysgu a dysgu rhithrealiti / realiti estynedig. Mae'r coleg hefyd yn gartref i uned delweddu cyseiniant magnetig 3T sy’n benodol ar gyfer addysgu ac ymchwil lle mae ymchwilwyr yn mapio anatomeg swyddogaethol in vivo.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn cychwyn ar daith gyffrous o ddarganfod, gan ddatgloi cymhlethdodau manwl anatomeg a'i dirgelion, gan gyfoethogi eu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cyrsiau a’n hadnoddau, a chychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol gyda Chanolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru.
ADDYSG ANATOMEGOL: GRYMUSO GWEITHWYR PROFFESIYNOL Y DYFODOL
CYFLEUSTERAU
Mae ein haddysgu yn cynnwys tiwtorialau rhyngweithiol gyda deunyddiau celaneddol, modelau ffisegol 3D o ansawdd uchel, a thechnoleg fodern, gan gynnwys y bwrdd dyrannu electronig Anatomage, dyfeisiau rhith-realiti/realiti estynedig, sgriniau fideo 3D di-wydr ac apiau symudol. Felly mae myfyrwyr gwyddoniaeth a meddygaeth yn cael profiad ymarferol cynhwysfawr o gymhlethdodau anatomi dynol.
Mae’r ymchwil a wneir yn ein coleg yn cynnwys archwilio anatomi swyddogaethol, in vivo, gan ddefnyddio delweddu cyseiniant magnetig o'r radd flaenaf a thechnolegau anfewnwthiol i ysgogi'r ymennydd. Dysgwch fwy am Uned Ddelweddu Bangor.
Adeilad Brigantia, Bangor LL57 2AS
Cysylltu
Canolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru
Adeilad Brigantia
Ffordd Penrallt
Prifysgol Bangor LL57 2AS
anatomycentre@bangor.ac.uk
Cyd-gyfarwyddwyr
Dr. Richard J. Binney
Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon
Dr Leah Jones
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Uwch Dechnegydd
Caroline Parkinson