Canolfan Astudiaethau Arthuraidd: Dathlu 5 mlynedd, a chodi arian ar gyfer Cymrodoriaeth newydd
Ar 8 Chwefror eleni, daw’r Athro P.J.C. Fieldyn ôl i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan.
A Tribute to Dr. Roger Simpson by Linda Gowans
Independent scholar and Fellow of the Centre for Arthurian Studies, Linda Gowans, contributes to the memory of Dr. Roger Simpson in her own words.
Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ym Mangor er sefydlu’r Brifysgol: mae nifer o weithiau safonol sy’n ganolog i waith yn y maes wedi eu cyhoeddi gan ysgolheigion fu – ac sydd – yn darlithio yma. Wele isod ychydig o wybodaeth am rai o brif ffigyrau’r hanes hwn.
Canolfan Astudiaethau Arthuraidd: Dathlu 5 mlynedd, a chodi arian ar gyfer Cymrodoriaeth newydd
Mae Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor yn gyfnewidfa ymchwil ryngwladol. Ein nod yw caniatáu i ysgolheigion academaidd ac ymchwilwyr lleyg ddod ynghyd i rannu arbenigeddau ar y chwedlau Arthuraidd, o gyfryngau print, llawysgrifol a gweledol o bob cyfnod, drwy amrywiaeth o ddulliau damcaniaethol. O'r herwydd mae'n sianelu degawdau o ymchwil Arthuraidd o'r radd flaenaf ym Mangor yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fe’i lansiwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2017 ac ers hynny mae llu o weithgareddau, gan gynnwys ymchwil, effaith a digwyddiadau ymgysylltu, wedi’u cynnal. Amlygir rhai o'r rhain yn ein cylchlythyr diweddaraf, sydd ynghlwm wrth y gwahoddiad hwn.
Ar gyfer ein digwyddiad ‘yn y cnawd’ cyntaf ar ôl pandemig COVID-19, ac i nodi 5 mlynedd er sefydlu’r Ganolfan, rydym yn eich gwahodd i ail-lansiad y Ganolfan, mewn digwyddiad sy’n dathlu gwaith ein staff a’n myfyrwyr presennol, ond hefyd yn canolbwyntio ar waith un o ysgolheigion Arthuraidd mwyaf blaenllaw Prifysgol Bangor, yr Athro Emeritws P.J.C. Field. O 1964 hyd ei ymddeoliad yn 2004, bu’r Athro Field yn darlithio yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ac yncyfarwyddo’r MA Llenyddiaeth Arthuraiddunigryw. Arweiniodd ei 50 mlynedd o ysgolheictod ar Syr Thomas Malory, yr awdur rhamantauo’r bymthegfed ganrif,at gyhoeddi’r argraffiad llawn cyntaf o Le Morte Darthurgan Malory yn 2013. Gwasanaethodd yr Athro Field hefyd fel Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002-2005), ac mae wedi gwneud ymchwil yn ddiweddar i ganfod gwir leoliad Camelot.
Ar 8 Chwefror eleni, daw’r Athro P.J.C. Fieldyn ôl i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan.
Yn y digwyddiad hwn byddwn hefyd yn lansioCymrodoriaeth P.J.C. Field: dyma gronfa a sefydlwyd i gefnogi ymchwilwyr gwadd sy’n dymuno cydweithio â’n hymchwilwyr, a defnyddio adnoddau digyffelyb y Ganolfan a’i chasgliadau.
Ar y noson bydd cyfle i weld detholiad o lyfrau prin o’n casgliadau Arthuraidd, mewn arddangosfa arbennig wedi curadu ar gyfer y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan. Bydd hefyd bosteri ymchwil a chyflwyniadau gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig.
Dyddiad ac amser: Dydd Mercher 8 Chwefror 2023, 5-6:30pm
Ble: Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
Cofrestrwch erbyn 2 Chwefror: Cofrestru
A Tribute to Dr. Roger Simpson by Linda Gowans
Mae ysgrif goffa am Roger a baratowyd gan Alan a Barbara Lupack a Kevin Harty o Gangen Gogledd America eisoes wedi ei hanfon at aelodau. Un o’r enghreifftiau hynny o ddysgu llawer mwy am rywun mewn ysgrif goffa nag yr oeddech yn ei wybod amdanynt pan oeddent yn fyw, er gwaethaf bod mewn cysylltiad ers degawdau. Aeth gyrfa Roger ag ef i Uganda, dwyrain Pakistan, Bahrain a Japan, a buodd yn gweithio ym Mhrifysgol East Anglia nes iddo ymddeol.
Hoffwn bwysleisio cymaint o wybodaeth ryfeddol oedd ganddo am ddeunyddiau Arthuraidd mewn cyfnod sy’n llawer iawn llai cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom ni na’r Oesoedd Canol neu’r oes Fictoriaidd. Mae ei lyfr Camelot Regained, sy’n ymdrin â’r blynyddoedd rhwng 1800 a 1849, yn ôl pob tebyg yn cynnwys mwy sy'n newydd i bob un ohonom ni nag unrhyw gyhoeddiad Arthuraidd unigol arall.
Yn ogystal â’i lyfrau, ysgrifennodd Roger lawer o erthyglau am bynciau Arthuraidd eithaf di-sôn amdanynt, ac roedd ei wybodaeth a’i bositifrwydd i’w gweld yn ei adolygiadau o lyfrau, yr oedd ef yn ddewis amlwg ar eu cyfer. Cyhoeddwyd ei waith yn aml yn Arthuriana sef cyfnodolyn Cangen Gogledd America.
Yr oedd ganddo hefyd lygad dda am gyfeiriadau Arthuraidd anarferol o’r ugeinfed ganrif. Efallai y bydd rhai pobl hŷn (fel fi) yn cofio’r cyhoeddiad hynod anodd hwnnw, The Children's Newspaper, y gwnes ymdrech i’w osgoi yn yr ysgol yn y 1950au. Fodd bynnag, daeth Roger o hyd i gopi o 1940 dan y pennawd 'King Arthur's Knights are Back Again', gyda llun ar y clawr o ddynion ifanc yn yr RAF: ‘The Knights of the Speeding Plane’.
Mae ei lyfr Radio Camelot yn golygu llawer i mi am ddau reswm: hwn oedd yr anrheg Nadolig olaf a gefais gan fy niweddar bartner Jim, ac mae hefyd yn arbennig iawn gan i mi fod yn gwrando ar y BBC Home Service ers i mi fod yn ifanc. Rydw i’n cofio Roger yn traddodi papur ac yn sôn am bennod Arthuraidd o Round the Horne: roedd wrth ei fodd pan ddwedais wrtho yn y drafodaeth a ddilynodd fod y sgript wedi’i chyhoeddi. Roedd hyn yn y dyddiau pan oedd y rhan fwyaf o’r Gangen Brydeinig yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y cyfnod canoloesol, ac roedd yn amlwg o’r olwg ar wyneb un person nad oedd yn cymeradwyo o gwbl. Mae'n debyg y gallwch chi ddyfalu pwy.
Mae’n anodd meddwl nad yw Roger, a’i gwrteisi tawel a’i ddiddordeb, yma bellach i ateb cwestiynau: Tro diwethaf i mi siarad ag efo oedd i drafod fy mhapur ar gyfer y gynhadledd hon. Cydymdeimlwn â’i wraig, Paddy, a’u mab St John, gyda mawr ddiolch a gwerthfawrogiad am yr holl flynyddoedd y cawsom y pleser o adnabod Roger.
Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig
Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig, a hynny’n dilyn gohiriad. Mae’r ddelweddaeth apocalyptaidd yn sgil rhyfel, y naws chwedlonol a delweddau syfrdanol yn dwyn rhybuddion cyfoes am berygl difodiant a dinistr ecolegol i’r meddwl, tra bo’r modd dirgel y cyflwynir Gawain a’r Marchog Gwyrdd yn herio cynulleidfaoedd modern i ystyried eu naïfrwydd posibl eu hunain ynghylch y peryglon sydd wedi codi trwy oruchafiaeth dyn dros fyd natur dros ganrifoedd o ddiwydianeiddio.
Mae'r ffilm wedi’i seilio ar gerdd gyflythrennol Sir Gawain and the Green Knight o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, sy’n berl o lenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac yn cyfuno pryderon ynglŷn â pherfformio sifalri ac ymlynu ar yr un pryd wrth werthoedd moesol Cristnogol, a hynny yn erbyn cefndir o fyfyrdodau am dreigl amser (asgwrn cefn y gerdd yw’r flwyddyn galendr), heneiddio a drychfeddwl, yn gyferbyniad â’r gorchestion sifalrig adnabyddus sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd modern yng nghyswllt llenyddiaeth Arthuraidd. Mae'r testun, a gyfansoddwyd yn ôl pob tebyg yn Swydd Gaer, ar gyfer llys lleol, yn trafod gwrthdaro rhwng y canol (llys ifanc Arthur) a'r ffin (parth y Marchog Gwyrdd), a drosglwyddir trwy gyfoeth o ddisgrifiadau o ddiwylliant materol, a’r gwahanol foesau a gyflwynir yn y ddau. Mae’r gerdd a’r ffilm yn ymhyfrydu mewn manylder, ac mae’n braf gweld bod craidd y dehongliad yn y pwyslais ar y synhwyrau: tra bo’r testun ysgrifenedig yn rhoi profiad synhwyraidd llawn i’r darllenydd, gyda chyfoeth o weadau, blas, arogl a chyffyrddiad (gyda chyfeiriadau at gyfnewid ag Ewrop a’r Dwyrain pell) yn ei demtio ef/hi o fyfyrio ysbrydol, mae’r ffilm yn denu’r gynulleidfa fodern i fwynhau oedau rhywiol Gawain a themtasiynau pryfoclyd gwraig Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd mewn gwirionedd).
Dewisiadau diddorol yn y ffilm yw gweld y prif gymeriadau’n heneiddio ynghyd â’r portread o’r Marchog Gwyrdd. Tra bo cerdd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn portreadu Arthur fel dyn ifanc, penboeth, bachgennaidd (‘childgered’), fel ei holl farchogion eraill, ac mewn angen o ddysg gan y Marchog Gwyrdd aeddfed, mae’r ffilm yn dangos pendraw sifalri, yn gyfrwng i ddinistr yn hytrach na chyflawni delfrydau, gydag Arthur a Gwenhwyfar yn heneiddio, ymhell dros oed gwrhydri ar faes y gad nac yn yr ystafell wely, â golygfeydd o ddinistr enfawr - dyn a natur ill dau wedi'u goresgyn gan alar a thwyll. Mae llawer o'r testun gwreiddiol a'r ffilm yn canolbwyntio ar chwant dynol a'i ôl-effeithiau, ac er nad yw'r gerdd wreiddiol yn amlygu gwrthdaro dyn â natur yn yr un ffordd ag y bydd cynulleidfaoedd modern yn ei weld, uchelgais a breuddwydion dynol am fawredd a choncwest yw’r union bethau sy'n dymchwel sifalri Arthuraidd, a chymdeithas fodern hithau. Mae Gawain yn cael ei demtio’n rhywiol yn y ddau fersiwn, ond eto yn y ffilm mae’r ffaith nad yw’n farchog eto, ac yn amlwg ddim yn barod i fod yn un ychwaith, yn cyfoethogi moesoldeb ei gwest, yn gwylio’n ddiymadferth wrth i’r byd mytholegol (a chewri chwedloniaeth) a buchedd y seintiau (elfen nofel yn y ffilm) bylu’n gyflym ac wrth i’w demtasiynau personol amlygu ei fregusrwydd. Mae’r Marchog Gwyrdd ei hun yn codi nifer o faterion problematig yn y ddau destun; yn y testun gwreiddiol mae'n ddynol, o gorffolaeth anferth, wedi'i wisgo'n hynod o anghyffredin mewn dillad cymhleth a ffasiynol sy'n gweddu i farchog o statws cymdeithasol uchel, ond eto'n droednoeth ac yn dal cangen o gelyn a bwyell, wrth iddo darfu ar olygfa ymddangosiadol heddychlon y llys. Yn y ffilm, mae ei statws yn llai pwysig na'i ffurf sy’n ymdebygu i goeden, addasiad lled Tolkienaidd, sy’n awgrymu coedwigoedd hynafol yn cael eu dinistrio ar gyfer anheddau dynol ac i wasanaethu rhyfeloedd, tra bod ei her hyd yn oed yn fwy cynnil - ei wraig sy’n profi nad yw Gawain yn barod eto i amgyffred ei genhadaeth yn y byd.
Mae’r portread o Gawain yng nghanol dau fyd yn hynod o broblematig ynddo’i hun, a dyma lle mae’r ffilm yn cyfleu pwysigrwydd mewnddrychedd ac ystyriaethau athronyddol ym meddylfryd yr oesoedd canol. Nid yw natur a dynoliaeth mewn gwrthdaro fel y cyfryw, gallai rhywun feddwl, ddim yn agored, o leiaf, yn nealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg nac yn y gerdd wreiddiol. Serch hynny, mae’r cyfarfyddiad â byd natur yn crybwyll yr angen i feistroli’r helbul mewnol, ac mae gan lys Gawain/Arthur lawer i’w ddysgu gan y sialensiwr o’r tu allan, y Marchog Gwyrdd a’i arglwyddes. Mae’r gerdd yn amlygu’r diffygion mewn sifalri Arthuraidd, ei gydnabyddiaeth arwynebol o ddefodau Cristnogaeth, a pheryglon hunandybus balchder bydol. Nid yw taith Gawain trwy anialdir diffaith, yn ceisio dod o hyd i'r Capel Gwyrdd, cartref honedig y Marchog Gwyrdd, yn ddim ond rhagarweiniad at demtasiynau coeth llys Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd, fel y datgelir yn ddiweddarach) a'i arglwyddes. Yn yr un modd fwy neu lai, mae'r ffilm yn gosod yr olygfa’n gyfareddol fel bod rhagwelediad hunllefus Gawain o’r gogoniant sydd o’i flaen yn cyfuno dinistr ac enwogrwydd dibwrpas mewn nifer o fflach-ddelweddau byr a grymus. Mae’r nodweddion hyn oll yn amlygu nid yn unig sut mae’r gerdd ganoloesol a’r ffilm fodern ill dau yn cymell ystyriaeth o’r cyferbyniad rhwng natur a gwareiddiad, ond hefyd y perygl parhaus o wag-rodres yn y byd hwn, sydd wedi dallu llys Arthur, a’r ddynoliaeth fodern hithau hefyd, i gredu eu bod yn anorchfygol, ac wedi arwain at ddinistr helaeth o fyd natur.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2022
ARBENIGWRAIG YN CYFRANNU AT LANSIO STAMPIAU CHWEDLAU ARTHUR GAN Y POST BRENHINOL
Mae cymeriadau chwedlau Arthur yn amlwg mor boblogaidd ag erioed wrth i’r Post Brenhinol gyhoeddi casgliad newydd o stampiau heddiw (16.3.21).
Comisiynwyd y dyluniadau newydd gan yr artist Jaime Jones, ac mae’r testun sy’n cyd-fynd â nhw wedi ei lunio gan yr Athro Raluca Radulescu, o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigo yn chwedlau Arthur.
Mae comisiynu cyfres newydd o stampiau i’w casglu yn gyfle i archwilio apêl Ewropeaidd chwedlau Arthur yn y Canol Oesoedd yn ôl yr Athro Radulescu.
O wreiddiau Cymraeg chwedlau’r Arthur Celtaidd i ddehongliadau cyfoes, megis cyfres Cursed a ymddangosodd ar Netflix y llynedd, neu’r ffilm Sir Gawain and the Green Knight, sydd eto i’w rhyddhau, ac yn serennu Dev Patel, mae’r chwedlau’n parhau i ysbrydoli awduron ledled y byd.
Gwenhwyfar, Myrddin, Marchogion y Ford Gron, Syr Lawnslot yn gorchfygu’r ddraig a Syr Galâth yn canfod y Greal Sanctaidd sydd i’w gweld ar y stampiau.
Meddai’r Athro Raluca Radulescu o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor:
“Prin fod blwyddyn yn mynd heibio heb ail-weithiad o’r chwedlau Arthuraidd, boed yn gyfres teledu neu ffilm newydd.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cyfrannu at lunio cyflwyniad i’r gyfres yma o stampiau, a’r erthygl sy’n cyd-fynd â nhw ym Mlwyddlyfr y Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno’r cyhoedd i straeon canoloesol amlieithog, aml-hil, a’u pwysigrwydd i wleidyddiaeth a diwylliant ar draws y canol oesoedd a thu hwnt.”
A hithau’n arbenigwraig o fri rhyngwladol ar lenyddiaeth Arthuraidd, yr Athro Raluca Radulescu sy’n arwain yr unig gwrs MA mewn Astudiaethau Arthuraidd sy’n bodoli’n unman.
Yr Athro Raluca Radulescu, ein cyfarwyddwr, yn rhoi ei gweithdy ar y llyfrau Arthuraidd prin yn ein casgliadau ar 25 Mawrth
Bydd Yr Athro Raluca Radulescu, ein cyfarwyddwr, yn rhoi ei gweithdy ar y llyfrau Arthuraidd prin yn ein casgliadau ar 25 Mawrth. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r cydweithio a gychwynnwyd gan Yr Athro Radulescu gydag Elen Simpson, Archifydd, fel rhan o'r gyfres 'Wythnos Eich Archif' a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2019. Archebwch ei lle yn fuan rhag cael eich siomi.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2020
Cymdeithas ôl-raddedig Rhyngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei lansio gan Brifysgol Bangor
Am y tro cyntaf ers dechrau cynnal y gynhadledd hon 16 mlynedd ôl bu’r rhaid newid lleoliad cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol o’r 'Coleg ar y Bryn' i leoliad rhithiol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Dros ddau ddiwrnod (18-19 Medi 2020), croesawodd y Ganolfan dros 150 o siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r byd i gyfnewid syniadau am 'Symud trwy Chwedlau Arthuraidd'. Edrychodd y gynhadledd ar sut y caiff testunau eu hail-ddyfeisio dros amser, pa rôl y mae testunau'n ei chwarae yn eu moment hanesyddol a thu hwnt i hynny, a sut mae testunau'n ymdrin â symudiad o ran cyfnod, diwylliant a lleoedd. Rhai o’r uchafbwyntiau oedd: panel yn trafod 'Symud Materol', yn edrych ar anifeiliaid Arthuraidd yn symud yn ogystal â rôl cartograffeg mewn testunau Cymraeg Canoloesol; panel ar symudiad iaith drwy destunau canoloesol; panel yn edrych ar y Brenin Arthur Cymreig; a phaneli amrywiol ar addasiadau’r Cyfnod Modern Cynnar a’r Cyfnod Modern o’r chwedl Arthuraidd. Prif uchafbwynt y gynhadledd, wrth gwrs, oedd ein prif siaradwr, Dr Aisling Byrne sy'n Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol ym Mhrifysgol Reading, a roddodd bapur yn dwyn y teitl 'Medieval Arthurian Texts in Motion'. Er i'r gynhadledd orfod addasu i fformat ar-lein oherwydd cymhlethdodau’r pandemig, golygodd hynny i nifer o ysgolheigion o bob cwr o'r byd gael eu denu i’r digwyddiad. Roedd cyflwynwyr o lefydd mor bell i ffwrdd â Gogledd America (Prifysgol Yale, Prifysgol Memorial, a Phrifysgol Western i enwi dim ond rhai) ac mor agos â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Caeredin (eto i enwi dim ond rhai) wedi llwyddo i ddod at ei gilydd i fwynhau trafodaethau Arthuraidd. Yn ogystal, o gynnal y gynhadledd ar-lein llwyddwyd i groesawu cynulleidfa ganoloesol eclectig, gan gynnwys nifer o ysgolheigion Arthuraidd hynod nodedig yn ogystal â rhai o gyn-fyfyrwyr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. ninnau’n wynebu pandemig byd-eang, rhoddodd y gynhadledd ar-lein hon anogaeth gadarnhaol i bobl ifanc sy’n ymddiddori yn yr oesoedd canol a bod yn gyfrwng i bobl gael gwneud cyswllt â’i gilydd, sy’n rhywbeth y mae mawr ei angen yn y cyfnod cythryblus sydd ohoni. Oherwydd i’r gynhadledd gael ei chynnal ar-lein, llwyddodd i chwalu rhywfaint ar y rhwystrau fu’n gwahanu’r byd academaidd a'r gymuned ehangach gan alluogi mwy o bobl i ymwneud â’r maes. Yn gyffredinol, roedd cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol eleni’n llwyddiant ac mae'r trefnwyr yn edrych ymlaen at groesawu cyflwynwyr a mynychwyr yn ôl yn 2021.
Dros yr wythnosau nesaf, fel dilyniant i'r gynhadledd, byddwn yn gwahodd cyflwynwyr i gyhoeddi eu crynodebau ar wefan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Bydd hyn yn ffurfio crynodeb terfynol o'r syniadau a ddatblygodd yn ystod dau ddiwrnod y digwyddiad i'r rhai a fethodd ymuno yn y digwyddiad ac i'r rhai sy'n dymuno ailymweld â rhai o'r papurau a gyflwynwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020
Fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Mae fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael bellach gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Mae digideiddio'r adnodd pwysig hwn yn hynod bwysig i fyfyrwyr ymchwil (MA a PhD) ym Mhrifysgol Bangor yn ogystal ag i ysgolheigion llenyddiaeth Arthuraidd ledled y byd. Cyhoeddwyd y Bwletin cyntaf ym 1949 ac, oherwydd ei fod ar ffurf copi caled, hyd yma bu'n anodd cael gafael ar y cyfrolau cynharach. Mae'r casgliad bellach yn ddigidol a gall ysgolheigion gyrchu'r deunydd yn gyflym, heb rwystr, ac o bob cwr o'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2020
The Romance of Sir Degrevant
Argraffwyd ‘The Romance of Sir Degrevant’ gan William Morris yn Kelmscott Press, Hammersmith, 1896. Mae hwn yn un o ddim ond 350 o gopïau gwreiddiol a wnaed ar bapur gydag 8 copi ar felwm. Dyluniwyd y wynebddarlun gan Edward Burne-Jones a'i hysgythru gan W. H. Hooper. Y teip argraffu yw Chaucer Type wedi'i argraffu ar bapur a wnaed â llaw sy'n cynnwys yr ail fersiwn o'r dyfrnod Primrose.
Ysbrydolwyd llawer o ysgrifennu William Morris, ei bynciau a'i arddull gan ei gariad at lenyddiaeth ganoloesol. Roedd y rhain i'w gweld yn llawysgrifau darluniadol a chyfrolau printiedig o Ewrop Modern Cynnar. Nid yw'n syndod felly iddo ddewis cyhoeddi'r chwedl hon. Mae Sire Degrevauntyn rhamant ganoloesol a gyfansoddwyd tua 1440. Mae wedi goroesi mewn dau fersiwn ar ffurf llawysgrif; MS 91 yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Lincoln (casgliad o destunau a gasglwyd gan Robert Thornton) a Ff.i.6 yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt (blodeugerdd a gasglwyd gan deulu Findern o Swydd Derby a'u ffrindiau)
Mae'r rhamant Saesneg Canoloesol hon a edmygir yn fawr am ei realaeth a'i chynllun wedi'i hysgrifennu ar ffurf penillion gydag odl a mesur gwahanol yn y llinell olaf. Mae’n stori garu sy'n dilyn ymdrechion marchog ifanc o'r enw Degrevant, i brofi ei fod yn deilwng i briodi ei annwyl Melidor, merch Iarll cyfagos, y mae wedi ffraeo ag ef oherwydd anghydfod ynglŷn ag hela. Mae'r forwyn ddifater yn gwrthod ymdrechion cyntaf y marchog ifanc ac mae'n rhaid i Degrevant ofyn am gymorth ei morwyn sydd â syniadau rhamantus am y sgweier. Fodd bynnag, yn y cyfamser mae'r Iarll wedi addo y caiff ei ferch briodi Dug Gerle sy'n trefnu twrnamaint er anrhydedd Melidor lle mae'n bwriadu lladd ei wrthwynebydd. Yn anffodus i Ddug Gerle, mae Degrevant yn ei daro oddi ar ei geffyl ddwywaith, er mawr hwyl i Melidor ac mae ei gwatwar yn gwneud i'r Dug adael mewn cywilydd. Mae Degrevant yn defnyddio mynedfa gyfrinachol, a ddangoswyd iddo yn flaenorol gan y forwyn, i gael mynediad i ystafell Melidor lle mae'n cyfaddef ei bod yn ei charu ac maent yn cytuno i briodi ond mae hi'n gwrthod cyflawni eu perthynas tan ar ôl iddynt briodi.
Am naw mis mae'r marchog ifanc yn cynnal carwriaeth â'i gariad trwy ymweld â'i siambr bob nos hyd nes y darganfyddir eu bod yn cadw oed. Mae hyn yn arwain at frwydr waedlyd gyda bywydau'n cael eu colli ar y ddwy ochr. Yn y pen draw, caiff yr Iarll ei berswadio gan ei wraig yr Iarlles i ganiatáu'r briodas sy'n arwain at y Marchog a'r Iarll yn cymodi a diweddglo hapus i'r ddau gariad.
Cynhyrchwyd y llyfr hwn, a grëwyd â llaw fel gwaith artistig yn hytrach nag ymdrech fasnachol, gan William Morris yn Kelmscott Press mewn niferoedd bach gan ei wneud yn eitem boblogaidd iawn i gasglwyr. Gwasg Kelmscotte oedd y wasg enwocaf a mwyaf poblogaidd o'r gweisg preifat. Defnyddir y term "gwasg breifat" yn aml i gyfeirio at fudiad cynhyrchu llyfrau a ffynnodd tua throad yr 20fed ganrif dan ddylanwad yr ysgolheigion-grefftwyr William Morris, Syr Emery Walker a'u dilynwyr. Yn aml, ystyrir bod y mudiad wedi cychwyn gyda sefydlu Gwasg Kelmscott gan William Morris ym 1890, yn dilyn darlith ar argraffu a roddwyd gan Walker yn y Gymdeithas Arddangosfa Celf a Chrefft ym mis Tachwedd 1888. Roedd prif gynheiliad y mudiad yn ymwneud â dychwelyd i greu llyfrau trwy ddulliau argraffu a rhwymo traddodiadol, gyda phwyslais ar y llyfr fel gwaith celf a'r sgiliau llaw yn gysylltiedig â'u cynhyrchu. Roedd hyn yn ymadael â'r llyfrau rhad a fasgynhyrchwyd adeg y chwyldro diwydiannol. Cafodd Morris ei ddylanwadu'n fawr gan lyfrau printiedig canoloesol a chafodd yr 'arddull Kelmscott' ddylanwad ar weisg preifat yn ddiweddarach. Gwnaed y llyfrau gyda deunyddiau o ansawdd uchel (papur wedi'i wneud â llaw, inciau traddodiadol ac, mewn rhai achosion, teipiau wedi'u dylunio'n arbennig), ac yn aml roeddent wedi eu rhwymo â llaw.
Mae'r copi hwn yn rhan o Gasgliad Flintshir Harries a welir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn y Brif Lyfrgell.
Gan Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2020
Cyn-fyfyrwyr PhD Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr newydd
Y Ceffyl yn Niwylliant Ewrop yr Oes Gynfodern: pam mae hanes y ceffyl yn bwysig i ysgolheigion Arthuraidd
Yn 2014, euthum i'r Gyngres Ganoloesol Ryngwladol yn Leeds, gyda phapur am fân gymeriad benywaidd yn un o'r rhamantau Arthuraidd, gwraig y Brenin Solomon yn y Queste del Saint Graal. Deilliodd hynny o un o benodau'r traethawd doethuriaeth yr oeddwn newydd gwblhau'n a'r papur cyntaf roeddwn i'n mynd i'w gyflwyno fel doethur. Doedd gen i ddim syniad beth fyddwn i'n ei wneud nesaf. Roedd gen i swydd â chyflog da y tu allan i'r byd academaidd, a fawr ddim syniad beth i'w wneud nesaf o ran ymchwil - yn wir a fyddwn yn gallu gwneud unrhyw ymchwil o gwbl yn y dyfodol.
Wyddwn i ddim bryd hynny, ond byddai cwrdd â Timothy Dawson yn un o dderbyniadau IMC yn drobwynt yn fy ngyrfa. Ysgolhaig Arthuraidd a Bysantydd - beth allem ni siarad amdano? Roedd gennym un diddordeb yn gyffredin: hanes y ceffyl. Cytunwyd bod gwybod am hanes ceffylau'n hanfodol i ganoloeswyr, oherwydd bod ceffylau'n rhan annatod o fywyd y canoloesoedd, ac eto prin oedd yr astudiaethau diweddar yn y maes ac ychydig iawn o ddiddordeb oedd yn hanes marchogaeth y canoloesoedd bryd hynny. Roedd llyfrau Ann Hyland wedi dyddio a chaent eu beirniadu oherwydd nad oedd ganddi gefndir academaidd. Ac eto, doedd dim byd i gymryd lle ei hastudiaethau cynhwysfawr o'r ceffyl canoloesol i ganoloeswyr a oedd am gael cyflwyniad cyffredinol i'r maes.
Penderfynon ni ateb yr her trwy gynnig sesiwn ar hanes y ceffyl yn y nesaf. A dweud y gwir, gyda’r ymatebion a gawsom i’n galwad am bapurau, gallem drefnu tair sesiwn ryngddisgyblaethol ar farchogaeth ganoloesol yn 2015 a phedair sesiwn yn 2016. Hefyd, pan euthum i Kalamazoo yn 2016, cyfarfûm â Dr Simon Forde, cyfarwyddwr Gwasg Arc Humanities, a awgrymodd gyhoeddi llyfr am y ceffyl yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Nid oeddwn yn teimlo'n ddigon cymwys na phrofiadol i ysgrifennu monograff am geffylau'r canoloesoedd ar y pryd, ac felly cynigiais gyfrol olygedig yn seiliedig yn bennaf ar gyfraniadau'r IMC.
Cymerodd bron i bedair blynedd i mi a Timothy gwblhau’r llyfr, a chredaf mai amserol yw hynny, o ystyried bod y fenter yn un arloesol yn ysgolheictod canoloesol Lloegr a’r ffaith bod y cyfraniadau’n rhychwantu amrywiaeth o gyfnodau amser, rhanbarthau a disgyblaethau.
Roedd gennym awduron anhygoel, yn eu plith Elina Cotterill, a fu'n astudio llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, fel y gwnes innau ac a gawsai'r Athro Raluca Radulescu yn oruchwylydd iddi. Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniodd Elina fy ngwahoddiad i gyflwyno papur yn yr IMC a chynigiais siarad am draethodau hipiatreg, mater pwysig ond cymhleth yn hanes marchogaeth y canoloesoedd. Esboniodd Elina wrthyf fod ei diddordeb mewn meddyginiaethau hipiatreg yn deillio o ddyddiau cynnar ei MPhil ym Mangor, pan ddechreuodd edrych ar gyd-destun marchogaeth y canoloesoedd a Morte D'arthur a darganfod nifer o draethodau hipiatreg. Ni allai archwilio'r rheiny'n fanwl am rai blynyddoedd ar ôl graddio. A hithau bellach yn Rhydychen, mae ganddi hi'r holl adnoddau angenrheidiol i gwblhau astudiaeth o'r fath, ac mae ei herthygl yn wybodus, yn hawdd ei darllen ac yn hynod ddiddorol i ysgolheigion llenyddiaeth ac i'r rhai sydd â'r diddordeb pennaf yn hanes y ceffyl.
Wrth weithio ar y llyfr, buom yn ddigon ffodus i gwrdd ag ysgolheigion o gefndiroedd amrywiol, rhai ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac eraill yn fwy profiadol. Ni allwn gredu inni dderbyn papur gan John Clark, golygydd The Medieval Horse and Its Equipment c. 1150-1450, sef y llyfr allweddol ar hanes marchogaeth yn y canoloesol ers ei gyhoeddi ym 1995. Roedd ein llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan rai nad oedd Saesneg yn famiaith iddynt a rhai heb fawr ddim profiad o ysgrifennu i gyhoeddiadau academaidd, a bu sawl awdur yn ddigon hael â'u hamser i adolygu papurau awduron eraill. Roedd John Clark ac Elina Cotterill ymhlith y gwirfoddolwyr, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y sylwadau ynghylch yr iaith a’r cynnwys y mae ein hawduron-adolygwyr wedi’u cynnig.
Gobeithiaf y bydd ein cyfrol yn ddefnyddiol i amryw o ysgolheigion, gan gynnwys y rhai sydd a'u bryd ar ganlyn Arthur, oherwydd mae gwybod am geffylau canoloesol yn bwysig i'r sawl sydd eisiau deall lle’r ceffyl yn y rhamantau canoloesol. Hefyd, mae dwy erthygl yn y gyfrol yn cyfeirio at destun Arthuraidd. Mae erthygl Miriam Bibby yn olrhain hanes ceffylau'r Alban gan ddechrau gyda rhamant Guillaume le Clerc o Fregus, sy'n cyflwyno ceffyl yr arwr megis cynrychiolydd rhagorol o'i fath. Yn fy erthygl innau am bris a gwerth ceffyl rhyfel canoloesol, rwy’n trafod enghreifftiau o sawl rhamant Arthuraidd, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, La Queste del Saint Graal a Le Mort Darthur Thomas Malory. Mae erthygl Miriam a fy erthygl innau yn cael eu llywio gan y gred nid yn unig y gall astudio hanes marchogaeth wella ein dealltwriaeth o ramantau Arthuraidd, gall darllen gwybodus o benodau sy'n ymwneud â cheffylau mewn rhamantau Arthuraidd gyfrannu hefyd at ein dealltwriaeth o hanes ceffylau.
Am y llyfr: Mae'r gyfrol hon yn cynnwys ymagweddau at astudiaethau ceffylau o ddisgyblaethau amrywiol megis archeoleg, hanes cyfreithiol, economaidd a milwrol, hanes trefol a gwledig, celfyddyd a llenyddiaeth. Mae'r gyfrol hon yn archwilio rôl hollbresennol - a rôl sy'n aml yn amwys - sef rôl y ceffyl yn niwylliant y canoloesoedd, a hwnnw'n anifail i'w drysori yn ogystal ag yn ddull o gludo, yn beiriant milwrol ac yn gydymaith ffyddlon. Mae'r cyfranwyr, llawer ohonynt yn meddu ar wybodaeth ymarferol am geffylau, yn ysgolheigion o fri ac yn gyw ysgolheigion sy'n gweithio yn eu meysydd arbenigol.
Ynglŷn ag un o'r awduron: Mae gan Anastasija Ropa PhD o Brifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig. Hi yw awdur Practical Horsemanship in Medieval Arthurian Romance (Trivent, 2019) a golygydd Rewriting Equestrian History a gyhoeddwyd gan Trivent. Ar hyn o bryd, mae hi'n ddarlithydd yn Adran Rheolaeth a Gwyddor Cyfathrebu, Academi Addysg Chwaraeon Latfia.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Cronfa newydd P.J.C.Field yn cael ei sefydlu
Yn dilyn cyfarfod blynyddol bwrdd allanol y Ganolfan, mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd cronfa newydd P.J.C.Field yn cael ei sefydlu, i ddarparu cefnogaeth i gymrodyr ymchwil ar ymweliad â'r Ganolfan. Cyhoeddir mwy o fanylion yma yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019
Bydd grant hael gan Gronfa Bangor yn ein galluogi i drefnu hyfforddiant ymchwil
Bydd grant hael gan Gronfa Bangor yn ein galluogi i drefnu hyfforddiant ymchwil ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig MA a PhD gyda'n partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell John Rylands, Manceinion. Bydd rhagor o wybodaeth i'w chael yma cyn hir.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019
Ymgais 2019
Ar 5 Gorffennaf 2019, bydd y Ganolfan yn cynnal gweithdy ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiad newydd hwn, sy'n agored i athrawon ar draws Gogledd Cymru, yn adeiladu ar lwyddiant project llythrennedd “Quest” / “Ymchwil” y llynedd ac yn caniatáu i athrawon ddod i'r Ganolfan i weld ein casgliad gwych o lyfrau a llawysgrifau prin, ac i glywed sgyrsiau gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Gillian Brownson, awdur a storïwraig, ar ddefnyddio'r mythau a'r chwedlau a gynrychiolir yn ein casgliad yn yr ystafell ddosbarth.
Trefnodd tîm rhagorol y Ganolfan, sef Raluca Radulescu a Gillian Brownson, y project llythrennedd Quest/Ymchwil hynod lwyddiannus y llynedd ac maent wedi bod yn awyddus i ddatblygu'r egwyddorion y tu ôl iddo i fod yn adnodd nad yw'n gyfyngedig i fyfyrwyr un ysgol, ond yn un y gellir ei ddefnyddio gan bawb yn ysgolion Gogledd Cymru. Mae eu brwdfrydedd dros chwedlau Arthuraidd a'u hymgyrch i agor y Ganolfan i gymaint o bobl â phosibl wedi arwain at a weithdy Datblygiad Proffesiynol Parhaus am ddim sydd wedi'i anelu at athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Ei deitl yw Quest For Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom.
Bydd y gweithdy’n cynnwys:
• Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
• Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
• Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran
Cynhelir y digwyddiad ar 5 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor, mewn dwy sesiwn:
10:30 - 12:30 ar gyfer athrawon ysgolion cynradd
1:30-3:30 ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd
Cynhelir y digwyddiad DPP hwn yn Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019
Dathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd 'Arthur in the Celtic Languages'
Roedd Ystafell y Cyngor Prifysgol Bangor dan ei sang ar 28 Chwefror 2019 i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd Arthur in the Celtic Languages. The Arthurian Legend in Celtic Literature and Traditions (Gwasg Prifysgol Cymru), a gyd-olygwyd gan y Dr Ceridwen Lloyd-Morgan FLSW, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ac aelod o’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, a’r Athro Erich Poppe, a ymddeolodd yn ddiweddar o Gadair Astudiaethau Celtaidd Philipps-Universität, Marburg. Cynhaliwyd y digwyddiad tra llwyddiannus hwn dan nawdd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, trwy wahoddiad caredig y Cyfarwyddwr, yr Athro Raluca L. Radulescu FLSW. Amlygodd hyn draddodiad hir a pharhaus Bangor ym maes astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd ers sefydlu’r Brifysgol a’i llyfrgell yn 1884; fe’n hatgoffwyd gan lansiad heddiw o’r symposiwm pwysig ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu hwnt’ a gynhaliwyd yma fis Mehefin 2018, ac dyma gyfle hefyd i edrych ymlaen tua’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, a ddaw i Fangor 22-26 Gorffennaf eleni.
Wedi gair o groeso yn Saesneg ac yn Gymraeg gan yr Athro Radulescu a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, y Dr Aled Llion Jones, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan y ddau siaradwr gwadd. Torrodd yr Athro Poppe dir newydd wrth drafod emosiwn yn chwedl Cymraeg Canol Owain a thestunau cyfatebol yn Ffrangeg, Saesneg ac ieithoedd Llychlyn, a chynigiodd yr Athro Sioned M. Davies FLSW, o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddehongliad newydd o destun Cymraeg Canol arall, Breuddwyd Rhonabwy, gan dynnu ar ymchwil empiraidd ysgolhaig nodedig o Fangor, y diweddar Ddr Constance Bullock-Davies.
A chyfranwyr o Gymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, yr Almaen, Llydaw ac UDA yn trafod testunau a thraddodiadau yn yr holl ieithoedd Celtaidd o’r Oesoedd Canol hyd yr 20fed ganrif, dengys Arthur in the Celtic Languages yn glir fod ysgolheictod yn ei hanfod yn gydwladol, amlieithog a chydweithredol. Pwysleisiwyd hyn ymhellach gan nifer yr ieithoedd a siaredid wrth i bawb rwydweithio tra’n mwynhau’r lluniaeth. Bu aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ogystal â nifer o Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig, a rhai ohonynt o ddisgyblaethau eraill, gan gynnwys yr Athro Alan Shore FLSW, Athro Peiranneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas. Mawr yw’n diolch iddynt hwy ac i’r Gymdeithas am eu cefnogaeth i’r digwyddiad hwn.
Darlledwydd y darlithoedd ar-lein i gynulleidfa bydeang trwy eu ffrydio’n fyw, ac mae’r recordiadau ar gael erbyn hyn ar wefan y Ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2019
Ymgais 2019
Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).
Mae'r digwyddiad newydd hwn yn rhannu prif gamau gweithredu'r project llythrennedd “Ymgais”/“Quest” a gynhaliwyd y llynedd. Bu'r Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan yn gweithio gyda'r awdur, y storiwraig a'r Ymarferydd Theatr Gymunedol, Gillian Brownson, a Kate Stuart, sy'n fyfyrwraig PhD mewn astudiaethau'r cyfryngau, i ysbrydoli plant ysgol lleol trwy wneud nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthur.
Dysgodd y disgyblion fod rhai o themâu llenyddiaeth Arthuraidd i'w gweld yn y cyfryngau poblogaidd heddiw. Cawsant gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdai ysgrifennu a dyddiaduron fideo.
Bydd yr Athro Raluca Radulescu a Gillian Brownson yn siarad am sut y gellir defnyddio'r chwedlau sydd yng nghasgliad y Brifysgol yn yr ystafell ddosbarth.
Esboniodd yr Athro Radulescu: “Bu'n freuddwyd gennym i ddatblygu'r egwyddorion sy'n greiddiol i'n project yn adnodd y gellir ei ddefnyddio ym mhob ysgol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Mae'r diddordeb yn y digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal i ysgolion ac yn sut mae ein hymchwil wedi cael effaith ar gymdeithas wedi denu sylw newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni dogfen o Japan i'r Unol Daleithiau ac, yn fwy diweddar, yn Rwsia. Ein nod yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw denu ymchwilwyr rhyngwladol i rannu ein hadnoddau a hyrwyddo cyfnewidiadau ymchwil yn y maes astudio hwn, a sicrhau hefyd bod y Ganolfan yn agored i gynifer o bobl â phosibl yn y gymuned leol.”
Mae'r gweithdy Quest for Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom yn cynnwys:
• Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
• Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
• Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran
Mae gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd fynediad at gasgliad heb ei ail o gyhoeddiadau, gan gynnwys cyfrolau prin am faes astudiaethau Arthuraidd; ychwanegwyd at y casgliadau trwy roddion preifat, y dechreuwyd eu gwneud hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac mae'r casgliadau wedi parhau i dyfu oherwydd ymroddiad ysgolheigion a llyfrgellwyr Prifysgol Bangor yn gofalu am y stoc.
Ariannwyd y project Ymgais gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://arthur.bangor.ac.uk/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur
Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoli’n gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Cyhoeddir Arthur in the Celtic Languages, The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, gan Wasg Prifysgol Cymru ac fe’i golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnwys arolwg awdurdodol cynhwysfawr o lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn ieithoedd Celtaidd, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg.
Mae’r lansiad yn cymryd lle yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd, sy’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil rhyngwladol mewn astudiaethau Arthuraidd, ac mae’n dilyn symposiwm ar yr un pwnc a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor y llynedd.
Meddai ‘r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
“Bydd y llyfr hwn yn newid meddyliau ar y pwnc am genhedlaeth. Does yr un gyfrol wedi ymdrin â’r holl ailddweud chwedlau Arthur o’r canol oesoedd i’r cyfoes yn yr holl ieithoedd Celtaidd. Mae’r penodau yn ymdrin â thrafodaethau ysgolheigaidd mwyaf diweddar ar y pwnc ac yn agor cwysi newydd o ymchwil mewn astudiaethau’r Arthur Celtaidd.
“Dyna pam ein bod yn hynod falch o gael groesawu lansiad y gyfrol o bwys hon.”
“Bydd y gyfrol yn adnodd hanfodol ar gyfer unrhyw fyfyriwr straeon yr Arthur Celtaidd. Mae’n darparu mewnwelediadau newydd ar sut esblygodd ffigwr Arthur o arweinydd llwyth rhyfelgar (warband) yng Ngogledd Prydain y Canol oesoedd cynnar, i fod yn Frenin gyda llys a oedd man cychwyn anturiaethau marchogol. Mae hefyd yn cwmpasu sut y mae cymeriadau a straeon wedi eu hail-ddychmygu, eu hail gyflunio a’u hail-ddehongli dros y canrifoedd hyd at heddiw.”
Meddai Dr Aled Llion Jones, o Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Bangor:
“Mae’r llyfr newydd yma yn rhoi cyfle unigryw i ni weld sut y mae’r chwedlau Cymraeg cynnar wedi datblygu fel thema gyffredin i’r holl ieithoedd Celtaidd.”
Mae gan Prifysgol Bangor cyswllt hirhoedlog ag astudiaethau Celtaidd, ac mae’r Brifysgol yn cynnig cyfle prin i astudio llenyddiaeth Arthuraidd byd-eang ar lefel ôl radd. Mae gan y Brifysgol adnoddau heb eu hail, gan gynnwys llawer o lyfrau a llawysgrifau prin, ac mae’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd wedi croesawu dros 200 o ymweliadau ymchwil gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr o Brydain a thramor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections)
Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections) yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, ar bwnc effaith ymchwil a gweithgareddau ennyn diddordeb yn ymwneud â'r casgliadau Arthuraidd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig a'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor. Daeth 40 o bobl i'r achlysur, yn archifyddion, curaduron a llyfrgellwyr, yn ogystal ag academyddion, o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019
Llyfrgelloedd yn yr eira: tair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Ym mis Chwefror a Mawrth 2018, treuliais dair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres gan Charles Bertram (1757), gwaith sy'n cynnwys argraffiadau o Gildas a Nennius, a ffugiad gan Bertram o hanes taith gan Richard o Cirencester. Dyma'r stori am hynny.
View from Centre for Arthurian Studies
Yn wreiddiol, roedd gen i gynllun cyfrwys: Byddwn yn gadael Sweden ar ddiwedd tywydd y gaeaf, ac yn mynd i Gymru, fel y gallwn fwynhau'r gwanwyn cynnar a'r cennin pedr rhwng darllen ac ysgrifennu. Gweithiodd hyn yn dda i ddechrau: Cefais groeso cynnes gan fy nghydweithwyr ym Mangor, ac roeddwn wedi setlo i mewn yn hapus iawn i drefn a fyddai'n arwain at gynhyrchu mwy o destun mewn tair wythnos nag ydw i erioed wedi gallu ei ysgrifennu mewn cyfnod mor fyr.
Bob bore, byddwn yn cyrraedd ar y bws - gan fy mod wedi dewis aros y tu allan i'r dref - a mynd i'r ystafell lawysgrifau i dreulio'r bore yn gweithio ar destun Lladin Bertram. Mae darllen a thrawsgrifio Lladin, yn fy marn i, yn waith sy'n gofyn am feddwl ffres, nid un swrth ar ôl cinio. Yr anhawster gyda thestun Bertram yw cael mynediad at y map a greodd. Er mawr lawenydd i mi, ar ôl talu tâl gweinyddol bychan cefais ddiwrnod cyfan yn tynnu lluniau ohono o bob ongl posibl. Gan fod y map, sydd wedi'i blygu yn y llyfr, yn fregus iawn, roedd yn well gennyf ei agor unwaith yn unig yn hytrach na gweithio'n uniongyrchol ohono bob dydd. Cafodd y map ddylanwad pwysig ar syniadau am hanes Rhufeinig Prydain yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n anhepgor ar gyfer unrhyw astudiaeth o ddifri o waith Bertram.
Yn y prynhawn, byddwn yn mynd i fyny i'r Ganolfan yn uchel yn y tŵr, agor y ffenestr i weld yr olygfa ysblennydd dros ddinas Bangor, a chwilota drwy'r silffoedd am ychydig cyn mynd ati i weithio. Er bod Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn demtasiwn i gymryd egwyl yn awr ac yn y man, byddwn yn gosod cordyn fy ngliniadur dros y cleddyf yn y postyn carreg, ac yna'n mynd ati i ysgrifennu.
College Park, Bangor University
Yn ogystal â meddu ar gopi o Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres, mae gan y llyfrgell ddarpariaeth i fynd at gylchgronau digidol o'r 18fed a'r 19eg ganrif fel The Gentleman's Magazine, The Antiquary, a'r British Critic, a oedd yn fy ngalluogi i ddilyn hynt y drafodaeth gyfan ar destun Bertram yn ystod y can mlynedd gyntaf ar ôl ei gyhoeddi. Cefais fynediad i dros hanner cant o destunau, yn cynnwys trafodaethau hir am rinweddau a chywirdeb y testun a llythyrau byr at y golygydd. Oherwydd hyn llwyddais i orffen fy mhennod ar y derbyniad a gafodd gwaith Bertram. Yn ystod yr wythnosau yn y Ganolfan llwyddais i ysgrifennu 20,000 o eiriau. Dechreuais ysgrifennu papur hefyd ar ddau argraffiad o Nennius gan Bertram, a ddarllenais yn symposiwm y Ganolfan, 'Chwedlau Arthuraidd yng Nghymru a Thu Hwnt', ym mis Mehefin. Rhwng pyliau o ysgrifennu, cefais gyfleoedd i drafod fy ngwaith gyda chydweithwyr gwybodus dros baned. Drwodd a thro, fe wnaeth fy arhosiad yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd gefnogi fy ngwaith i'r fath raddau fel ei bod anodd i mi gredu y byddwn wedi cael yr un gefnogaeth yn rhywle arall.
Wrth gwrs, ni wnaeth gweddill fy nghynllun cyfrwys weithio allan mor dda. Ychydig ddyddiau ar ôl i mi gyrraedd cafwyd eira annisgwyl, heb unrhyw ddŵr yn fy airbnb, a dim golwg o'r cennin pedr oherwydd y tywydd. Ar ôl i mi gyrraedd adref, gwelais fod y gaeaf yn Sweden wedi penderfynu parhau tan fis Ebrill, ac efallai fy mod i'n mynd ychydig yn rhy hen i ddringo dros fynydd o eira i gyrraedd y drws ffrynt. Serch hynny, llwyddais i gael gwybodaeth newydd, pennod orffenedig, a'r pleser o drafod â chydweithwyr yn fy maes. Yn sicr, mae ysgolheigion wedi dioddef mwy am lai.
Dr Kristina Hildebrand, Prifysgol Halmstad
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Sut wnes i ddewis gwneud MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor
Post blog gan y myfyriwr Sean Ferguson, MA in Arthurian Literature, 2017-18.
Ym Mhrifysgol Fflorida (Gainesville) y dechreuodd fy niddordeb yn chwedlau Arthur. Saesneg oedd fy mhrif bwnc anrhydedd gydag Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar yn ail bwnc, ac roedd rhan o'r gwaith hwnnw yn cynnwys modiwl o'r enw 'Tales of King Arthur' a ddysgwyd gan Dr Judy Shoaf. Er bod pob rhan o fodiwl Shoaf yn wych, ei sesiynau ar Malory a'r Ymchwil am y Seint Greal - sef cyfieithiad o gylch Greal Lawnslod - oedd fy ffefrynnau. Yn y sesiynau hyn, edrychom yn fanwl ar y testunau ac edrych ar eu gwleidyddiaeth a'u hysbrydolrwydd, ac ar esblygiad a dygnwch y chwedlau Arthuraidd.
Ers cyrraedd Prifysgol Bangor, rydw i wedi trochi fy hun nid yn unig mewn ysgolheictod Arthuraidd, ond hefyd ym maes Astudiaethau Canoloesol yn gyffredinol trwy seminarau'r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar a digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir gan yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg. Yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor mae casgliad heb ei ail o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd ar chwedlau Arthur, ac mae cael mynediad at y casgliad hwn fel rhan o'm hymchwil wedi bod yn werthfawr ar sawl lefel. Mae rhai uchafbwyntiau'r rhaglen MA yn cynnwys gweithio gyda darlithwyr blaenllaw Bangor, gan gynnwys yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws PJC Field, teithiau i lyfrgelloedd Manceinion ac Aberystwyth lle gall myfyrwyr weld rhai o'r testunau gwerthfawr sy'n cael eu hastudio yn y modiwlau drostynt eu hunain (yn fwyaf amlwg rhai Sieffre o Fynwy a Malory), a hyblygrwydd y cwrs o ran modiwlau detholiadol.
Mae'r MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mangor yn gwrs unigryw a chyffrous, ac edrychaf ymlaen at barhau ar y daith hon sy'n gyfle unwaith mewn oes.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Beardsley Malory
Wynebddalen Beardsley Malory yn Storfa. Lyfrau Prifysgol Bangor.
Teitl llyfr:
Sir Thomas Malory. Le Morte DArthur. J. M. Dent & Co: Llundain, 1893-4.
Gwaith darlunio gan Aubrey Beardsley.
Ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2016 fe wnaeth Dr Samantha Rayner (UCL) a mi ymweld â lle rhyfeddol; drwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol Bangor a Chanolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr: sef uned storio llyfrau. Yng nghornel ystâd ddiwydiannol yng Ngogledd Cymru, mae'r warws enfawr hwn yn gartref i filoedd o gyfrolau sy'n eiddo i Brifysgol Bangor. Mae'r rhain yn llyfrau nas cedwir bellach ym mhrif lyfrgell y brifysgol am nifer o resymau - boed oherwydd newidiadau mewn meysydd llafur, argraffiadau mwy modern yn disodli rhai hŷn, neu newidiadau o ran ffasiwn yn rhai meysydd astudio. Mae'r llyfrau a symudwyd i'r uned hon yn destun cryn bryder i lyfrgelloedd o ran storio deunyddiau i wneud lle i gyfrolau a chasgliadau mwy diweddar ond, ar y llaw arall, i lyfrgarwyr maent yn drysorfa o ddeunydd sydd bron wedi mynd yn angof - fel y gwnaethom ni ddarganfod.
Wrth bori ar hyd y silffoedd - sydd i gyd yn cynnwys deunydd heb ei gatalogio - fe wnaeth Dr Rayner a minnau ddarganfod sawl perl. Y gloywaf yn eu plith oedd argraffiad hynod gain o Le Morte DArthur gan Syr Thomas Malory, gyda'r gwaith arlunio gan Aubrey Beardsley (g. 1872, m. 1898). Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1893-4. Mae hwn yn waith eiconig i ysgolheigion sy'n ymddiddori yn y Chwedl Arthuraidd, cyhoeddi yn oes Victoria, a hanes celf.
Yn ôl y beirniad celf Haldane Macfall, cyfarfyddiad ar hap mewn siop lyfrau yn Cheapside rhwng yr arlunydd Aubrey Beardsley a'r cyhoeddwr John M. Dent a arweiniodd at gyhoeddi'r gwaith hwn. Mae'n un o'r argraffiadau mwyaf ysblennydd ac eiconig o Le Morte DArthur Syr Thomas Malory a gyhoeddwyd yn ystod yr Adfywiad Arthuraidd yn Oes Victoria ac, yn wir, yn y cyfnod modern hefyd.
Roedd Beardsley, a weithiai fel clerc yswiriant yn Llundain, yn mynd yn gyson i siop lyfrau Jones and Evans ar Queen Street. Daeth yn gyfeillgar ag un o'r perchenogion, Fredrick Evans, a byddai'n dangos ei ddarluniau iddo. Yn 1892 roedd y cyhoeddwr Dent hefyd yn y siop lyfrau, a dywedodd wrth Evans ei fod yn chwilio am arlunydd arloesol i ddarlunio menter gyhoeddi newydd.
Roedd Dent wedi penderfynu cyhoeddi argraffiad o glasur Arthuraidd Malory, Le Morte D'Arthur, a'i nod oedd cyhoeddi clasuron cain, ond fforddiadwy, a fyddai'n cystadlu â'r argraffiadau drudfawr a gynhyrchid gan Kelmscott Press William Morris. Yn ôl y stori roedd Dent yn sôn am hyn wrth Frederick Evans pan ddigwyddodd Beardsley ddod i mewn i'r siop lyfrau. "Dyna'ch dyn chi!" meddai Evans.
Ar ôl cynnig darlun enghreifftiol, yr ymatebodd Dent yn frwdfrydig iddo, cynhyrchodd Beardsley bron i 500 o ddarluniau du a gwyn ar gyfer y llyfr. Roedd rhai yn bur radical ac yn wahanol iawn i'r portreadau Arthuraidd a gafwyd o'r blaen:
…some of the full-page illustrations, such as “The Lady of the Lake Instructing Arthur About Excalibur” conform to standards typical
of the Arthurian Revival, others subvert that standard through
nudity, androgyny, and violence. More often than not, Beardsley
stripped the heroes of their strength and nobility, presenting them reclining, sleeping, or dominated by women.
(The Arthurian Handbook, tt. 241-42)
Nifer gyfyngedig o 1,800 o gopïau o'r llyfr a gyhoeddwyd. Roedd 300 ohonynt wedi'u hargraffu ar bapur o'r Iseldiroedd wedi'i wneud â llaw a 1,500 o gopïau cyffredin - un o'r rheini yw'r copi y daethom ni ar ei draws.
Hwn oedd gwaith comisiwn cyntaf Beardsley fel arlunydd. Fe'i galluogodd i adael ei swydd yswiriant i ddefnyddio ei ddoniau fel arlunydd a daeth yn ffigwr pwysig yn y mudiad Art Nouveau. Bu fawr o'r diciau yn 1898, dim ond pedair blynedd ar ôl cwblhau'r darluniadau ar gyfer Le Morte D'Arthur Dent, sy'n dal i fod yn un o argraffiadau mwyaf eiconig cyfrolau Arthuraidd y cyfnod modern.
Nodiadau a darllen pellach:
Mae'r wybodaeth yma wedi ei seilio ar lyfr cain arall a gedwir yng Nghasgliad Arthuraidd E.R. Harries:
Haldane Macfall. Aubrey Beardsley: The Man and His Work. John Lane and the Bodley Head Limited: London, 1928.
Gweler hefyd: The Arthurian Handbook, 2nd ed. Eds Norris J. Lacy, Geoffrey Ashe, Debra N. Mancoff (Routledge: New York and Abingdon, 2013), pp. 240-243.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt'
28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyond’. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac fe’i trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Angorwyd ffocws ymchwil y gynhadledd yn gadarn yn y traddodiadau Arthuraidd Cymreig, a thema’r gynhadledd yn caniatáu ymdrin â fframwaith eang iawn o ran cyfnodau, ieithoedd a thiriogaeth; adlewyrchwyd hyn hefyd yn mhroffil rhyngwladol y cyfranwyr.
Symudodd y diwrnod ymlaen yn fwy neu lai’n gronolegol, gan ddechrau â phanel a ganolbwyntiai ar y traddoddiad canoloesol yng Nghymru. Dr Owain Jones (Bangor) gyflwynodd y papur cyntaf, ‘Y Gorffennol Arthuraidd yng Ngwynedd y drydedd ganrif ar ddeg’, gan drafod pa oleuni y gall cronicl Cymraeg cynnar ei daflu ar y modd y deellid – ac y defnyddid – chwedloniaeth yn y cyfnod. Cyflwynwyd wedyn gan yr Athro Barry Lewis (DIAS) astudiaeth fanwl o amryw lenddulliau’r farddoniaeth ganoloesol, gan esbonio sut y câi elfennau ‘Arthuraidd’ eu defnyddio at ddibenion delweddaeth a thropoleg. Caewyd y sesiwn gan Dr Simon Rodway (Aberystwyth), a gyflwynodd fyfyrdodau ar gynhanes y ‘chwedl Arthuraidd hynaf’, gan ystyried ei pherthynas â llafaredd, mytholeg, llythrennedd a hanes. Yn ei ‘Golwg ar ddatblygiad Culhwch ac Olwen’, ceisiwyd gan Dr Rodway roi’r farwol i sawl camddealltwriaeth, gan gynnwys y ‘myth’ mai ‘myth’ yw’r chwedl hon.
Yn rhan gyntaf y symposiwm, daeth ynghyd nifer o’r cyfranwyr i’r gyfrol Arthur of the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru) a ddaw o’r wasg yn fuan. Golygwyd y gwaith pwysig hwn gan un sydd ers tro hir yn aelod o’r Ganolfan Ymchwil (ac yn gymrawd er anrhydedd o’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar), Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, ar y cyd â’r Athro Erich Poppe (Marburg). Yn ei phrif ddarlith, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan (cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drosolwg cynhwysfawr o’r modd y tyfodd ac y lledaenodd apêl Arthur yn yr ieithoedd Celtaidd: yn ‘Arthur yr Ynysoedd a'r Cyfandir: Edrych eto ar lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn yr ieithoedd Celtaidd’ fe’n harweinwyd ar daith eang a chyfoethog drwy fyd o destunau ag ysgolheictod Arthuraidd, gan amlygu cyd-destun allweddol i lawer o waith y dydd.
Cafwyd yn y prynhawn gyfle i agor llwybrau ymchwil i’r testun tra phoblogaidd hwnnw o’r ddeuddegfed ganrif, Historia regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle y cyflwynwyd Arthur fel brenin a ‘seren bydenwog’. Achau metafforaidd oedd testun cyflwyniad Audrey Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor: ‘The heroic family tree of the Historia Regum Britanniae’. Olrheinwyd wedyn hynt Arthur drwy’r canrifoedd mewn bestseller canoloesol arall, sef Le Morte Darthur gan Thomas Malory o’r bymthegfed ganrif; cyflwynwyd ‘Malory and The Book of St Albans’ gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field, sydd ers dros hanner canrif yn un o brif ysgolheigion Arthuraidd Prifysgol Bangor, a chynlywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (http://www.internationalarthuriansociety.com). Daeth yr ail banel hwn i ben â phapur gan fyfyriwr PhD arall o Fangor, Ashley Walchester-Bailes, un o’r myfyriwr cyntaf i astudio mewn perthynas ffurfiol â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac un yr ariennir ei astudiaethau gan Ysgoloriaeth Cwmni’r Brethynwyr); mae prosiect Ashley yn ymwneud ag adfywiad awduraeth yng nghyd-destun golygiadau modern o waith Malory, a chyflwynodd yma ‘Malory’s “great raft”: Edward Strachey and the Morte Darthur’.
Ymchwil ddiweddar i’r traddodiadau ôl-ganoloesol a fu dan y chwyddwydr yn y trydydd panel, a’r olaf. Bu Dr Kristina Hildebrand (Halmstad, Sweden) yn gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y Ganolfan yn ddiweddar, a chyflwynodd yma bapur yn trafod yr awdur Charles Bertram o’r ddeunawfed ganrif: ‘Bertram and Nennius: sources, editions, forgeries’. Gan yr Athro Sioned Davies (Caerdydd) cafwyd papur cyfoethog yn astudio ystyr ac arwyddocâd rhai o’r darluniau yn argraffiadau cynnar cyfieithiadau Charlotte Guest o’r Mabinogion: ‘“A most venerable ruin”: word, image and ideology in Guest’s Geraint’. Daeth y symposiwm i ben gyda Scott Lloyd (CBHC, ac aelod o’r Ganolfan), a drafodai’r berthynas rhwng agweddau academaidd a phoblogaidd at y chwedlau Arthuraidd: ‘Academic vs. popular: the relationship between two different views of King Arthur and Wales’
Roedd sawl papur a draddodwyd yn y symposiwm yn deillio o astudiaethau o ddeunyddiau prin yng nghasgliadau Arthuraidd y Ganolfan, ac o waith ar Archifau’r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol sydd erbyn hyn wedi eu cyflwyno i ofal y Ganolfan. Croesawyd cynulleidfa o bron i hanner cant o staff, myfyrwyr ac aelodau cysylltiedig o’r gymuned, a hyderir bod y symposiwm hwn wedi braenaru’r tir ar gyfer trafodaethau pwysig pellach ar faterion Arthuraidd a Cheltaidd.
Hoffai’r trefnwyr, yr Athro Raluca Radulescu (Cyfarwyddwr y Ganolfan) a’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Dr Aled Llion Jones, ddiolch i Shan Robinson (Gwasanaethau’r Llyfrgell a’r Archifau, a Chasgliadau Arbennig) am ei chymorth a chefnogaeth anhepgor; staff gweinyddol Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau; a Chris Drew, rheolwr y Gymghrair Strategol (SACMC), am gymorth i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadau’r Ganolfan sydd i ddod, cewch gofrestru ar ein tudalen gwe: http://arthur.bangor.ac.uk. Ewch at y ddolen ‘Ymunwch â’n rhestr bostio’.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt'
28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyond’. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac fe’i trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Angorwyd ffocws ymchwil y gynhadledd yn gadarn yn y traddodiadau Arthuraidd Cymreig, a thema’r gynhadledd yn caniatáu ymdrin â fframwaith eang iawn o ran cyfnodau, ieithoedd a thiriogaeth; adlewyrchwyd hyn hefyd yn mhroffil rhyngwladol y cyfranwyr.
Symudodd y diwrnod ymlaen yn fwy neu lai’n gronolegol, gan ddechrau â phanel a ganolbwyntiai ar y traddoddiad canoloesol yng Nghymru. Dr Owain Jones (Bangor) gyflwynodd y papur cyntaf, ‘Y Gorffennol Arthuraidd yng Ngwynedd y drydedd ganrif ar ddeg’, gan drafod pa oleuni y gall cronicl Cymraeg cynnar ei daflu ar y modd y deellid – ac y defnyddid – chwedloniaeth yn y cyfnod. Cyflwynwyd wedyn gan yr Athro Barry Lewis (DIAS) astudiaeth fanwl o amryw lenddulliau’r farddoniaeth ganoloesol, gan esbonio sut y câi elfennau ‘Arthuraidd’ eu defnyddio at ddibenion delweddaeth a thropoleg. Caewyd y sesiwn gan Dr Simon Rodway (Aberystwyth), a gyflwynodd fyfyrdodau ar gynhanes y ‘chwedl Arthuraidd hynaf’, gan ystyried ei pherthynas â llafaredd, mytholeg, llythrennedd a hanes. Yn ei ‘Golwg ar ddatblygiad Culhwch ac Olwen’, ceisiwyd gan Dr Rodway roi’r farwol i sawl camddealltwriaeth, gan gynnwys y ‘myth’ mai ‘myth’ yw’r chwedl hon.
Yn rhan gyntaf y symposiwm, daeth ynghyd nifer o’r cyfranwyr i’r gyfrol Arthur of the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru) a ddaw o’r wasg yn fuan. Golygwyd y gwaith pwysig hwn gan un sydd ers tro hir yn aelod o’r Ganolfan Ymchwil (ac yn gymrawd er anrhydedd o’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar), Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, ar y cyd â’r Athro Erich Poppe (Marburg). Yn ei phrif ddarlith, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan (cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drosolwg cynhwysfawr o’r modd y tyfodd ac y lledaenodd apêl Arthur yn yr ieithoedd Celtaidd: yn ‘Arthur yr Ynysoedd a'r Cyfandir: Edrych eto ar lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn yr ieithoedd Celtaidd’ fe’n harweinwyd ar daith eang a chyfoethog drwy fyd o destunau ag ysgolheictod Arthuraidd, gan amlygu cyd-destun allweddol i lawer o waith y dydd.
Cafwyd yn y prynhawn gyfle i agor llwybrau ymchwil i’r testun tra phoblogaidd hwnnw o’r ddeuddegfed ganrif, Historia regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle y cyflwynwyd Arthur fel brenin a ‘seren bydenwog’. Achau metafforaidd oedd testun cyflwyniad Audrey Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor: ‘The heroic family tree of the Historia Regum Britanniae’. Olrheinwyd wedyn hynt Arthur drwy’r canrifoedd mewn bestseller canoloesol arall, sef Le Morte Darthur gan Thomas Malory o’r bymthegfed ganrif; cyflwynwyd ‘Malory and The Book of St Albans’ gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field, sydd ers dros hanner canrif yn un o brif ysgolheigion Arthuraidd Prifysgol Bangor, a chynlywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (http://www.internationalarthuriansociety.com). Daeth yr ail banel hwn i ben â phapur gan fyfyriwr PhD arall o Fangor, Ashley Walchester-Bailes, un o’r myfyriwr cyntaf i astudio mewn perthynas ffurfiol â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac un yr ariennir ei astudiaethau gan Ysgoloriaeth Cwmni’r Brethynwyr); mae prosiect Ashley yn ymwneud ag adfywiad awduraeth yng nghyd-destun golygiadau modern o waith Malory, a chyflwynodd yma ‘Malory’s “great raft”: Edward Strachey and the Morte Darthur’.
Ymchwil ddiweddar i’r traddodiadau ôl-ganoloesol a fu dan y chwyddwydr yn y trydydd panel, a’r olaf. Bu Dr Kristina Hildebrand (Halmstad, Sweden) yn gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y Ganolfan yn ddiweddar, a chyflwynodd yma bapur yn trafod yr awdur Charles Bertram o’r ddeunawfed ganrif: ‘Bertram and Nennius: sources, editions, forgeries’. Gan yr Athro Sioned Davies (Caerdydd) cafwyd papur cyfoethog yn astudio ystyr ac arwyddocâd rhai o’r darluniau yn argraffiadau cynnar cyfieithiadau Charlotte Guest o’r Mabinogion: ‘“A most venerable ruin”: word, image and ideology in Guest’s Geraint’. Daeth y symposiwm i ben gyda Scott Lloyd (CBHC, ac aelod o’r Ganolfan), a drafodai’r berthynas rhwng agweddau academaidd a phoblogaidd at y chwedlau Arthuraidd: ‘Academic vs. popular: the relationship between two different views of King Arthur and Wales’
Roedd sawl papur a draddodwyd yn y symposiwm yn deillio o astudiaethau o ddeunyddiau prin yng nghasgliadau Arthuraidd y Ganolfan, ac o waith ar Archifau’r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol sydd erbyn hyn wedi eu cyflwyno i ofal y Ganolfan. Croesawyd cynulleidfa o bron i hanner cant o staff, myfyrwyr ac aelodau cysylltiedig o’r gymuned, a hyderir bod y symposiwm hwn wedi braenaru’r tir ar gyfer trafodaethau pwysig pellach ar faterion Arthuraidd a Cheltaidd.
Hoffai’r trefnwyr, yr Athro Raluca Radulescu (Cyfarwyddwr y Ganolfan) a’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Dr Aled Llion Jones, ddiolch i Shan Robinson (Gwasanaethau’r Llyfrgell a’r Archifau, a Chasgliadau Arbennig) am ei chymorth a chefnogaeth anhepgor; staff gweinyddol Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau; a Chris Drew, rheolwr y Gymghrair Strategol (SACMC), am gymorth i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadau’r Ganolfan sydd i ddod, cewch gofrestru ar ein tudalen gwe: http://arthur.bangor.ac.uk. Ewch at y ddolen ‘Ymunwch â’n rhestr bostio’.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Disgyblion yn mynd ar daith Arthuraidd
Gillian Brownson, Richard Burrows a'r Athro Raluca Radulescu gyda'r disgyblion a fu'n cymryd rhan.Mae disgyblion o Ysgol Aberconwy wedi bod ar daith ‘Arthuraidd’, i ymchwilio’r grefft o ddweud stori.
 hithau’n ‘Flwyddyn Chwedlau’ Cymru, gwahoddwyd nifer o ddisgyblion Ysgol Aberconwy i gymryd rhan ym mhroject Cwest gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, er mwyn datblygu anturiaethau digidol cyfoes.
Gweithiodd y grŵp dros gyfnod o wyth wythnos, mewn sesiynau yn eu hysgol ac yn ystod ymweliadau â’r Brifysgol. Y nod oedd ymchwilio i chwedlau a chwestiau drwy wahanol ffyrdd o adrodd straeon, a’r gwahanol gyfryngau y gellir eu defnyddio.
Wrth ymweld â’r Brifysgol, bu i’r disgyblion gyfarfod â’r Athro Raluca Radulescu o Ysgol Saesneg y Brifysgol. Mae’r Athro Radulescu yn arbenigwr ar lenyddiaeth Arthuraidd, a chyflwynodd i’r disgyblion i rai o chwedlau Arthur. Buont hefyd yn gweld rhai o’r llawysgrifau canoloesol a’r llyfrau prin ysblennydd sydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Bu Gillian Brownson yn arwain y Grŵp drwy weithgareddau amrywiol gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdy ysgrifennu a dyddiaduron ar ffurf fideo. Roedd y rhain i gyd yn herio’r pobol ifanc i feddwl am y syniad o gwest, fel y gwelir yn chwedloniaeth Arthuraidd a sut mae’r un strwythur i’w chael yn ein cyfryngau poblogaidd heddiw.
Bu Gillian Brownson, sy’n Ymarferydd Theatr yn y Gymuned ac yn ysgrifennydd a storïwr profiadol, yn arwain y grwpiau drwy amryfal weithgareddau creadigol – gan gynnwys gweithdai ysgrifennu a pherfformio, creu dyddiaduron fideo, ayyb – er mwyn herio’r disgyblion i feddwl am y dulliau gwahanol y gwelir elfennau o’r Chwedlau Arthuraidd ar waith heddiw. Cafwyd cymorth hefyd gan Kate Stuart, myfyrwraig Ymchwil yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, a fu’n helpu gyda defnydd appiau ar gyfer dweud stori ar ffurf ddigidol.
Cydadrodd y llw o gyfeillach am y tro olaf...Wedi iddynt greu baneri, tariannau a thyngu ‘llw o gyfeillach’ i’w gilydd, bu’r disgyblion yn ymgymryd â’r appiau digidol ac gweithio mewn grwpiau bychain er mwyn creu nifer o gwestiau gwreiddiol a oedd wedi eu hysbrydoli gan y chwedlau yn Archifau’r Brifysgol.
Meddai Gillian Brownson: “Gwelais hyder y plant a’u diddordeb mewn straeon yn cynyddu yn ystod yr wyth wythnos. Roedden nhw’n dechrau deall beth oedd hanfodion stori dda, ac roedd hyn yn amlwg yn y straeon a rannwyd ganddyn nhw ar ddiwedd y project. Roedd rhai storïwyr naturiol yn eu plith a chafwyd cwestiau anhygoel yn ymwneud ag arwyr mytholegol a modern.”
Dywedodd Richard Burrows, Prifathro Cynorthwyol yn Ysgol Aberconwy:
“Mae’r project yma wedi bod yn gyfle cyffrous i’n disgyblion. Maent wedi gweithio gydag artist sydd yn adrodd straeon, arbenigwr mewn cyfryngau digidol ac Athro llenyddiaeth Ganoloesol. Mae’r cyfuniad o arbenigeddau a chreadigrwydd yn gyffrous ynddo’i hun: mae wedi ymddiddori ac ysgogi’r grŵp ac maent yn ymchwilio eu straeon mewn sawl ffurf ddiddorol ac annisgwyl. Cefais y pleser o fynd gyda nhw ar eu hymweliad i Brifysgol Bangor. Cawsom groeso cynnes ac roeddwn yn synhwyro cynnydd yn eu disgwyliadau. Roedd yr ymweliad â’r Ganolfan Arthuraidd yn wych iddynt ac roedd cael eu cyflwyno i gymaint o lyfrau arbennig gan Lyfrgellydd y Brifysgol yn rhoi teimlad o werth iddynt, ac roedd yn cyfleu pwysigrwydd stori. Rwy’n edrych ymlaen at ail hanner y project.”
Meddai’r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd:
“Roedd chwedlau Arthuraidd yn boblogaidd ledled Ewrop am gannoedd o flynyddoedd, ac er ein bod efallai yn meddwl bod diddordeb yn y straeon wedi pylu, a dweud y gwir, mae’r straeon yn ddiamser ac yn parhau hyd heddiw. Mae nifer o’r un strwythurau stori, fel y cwest, i’w gael mewn sawl ffurf gyfoes ar ddweud stori, boed drwy ffilm, deledu neu gyfrwng digidol.
Y syniad tu cefn i broject Cwest oedd dangos i bobl ifanc bod straeon yn medru bod yn berthnasol i’w bywydau, a thrwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, i gynyddu eu diddordeb mewn darllen ac adrodd stori.”
“Ein bwriad yw dysgu o brofiad y project a chynnig mwy o brojectau fel hyn i ddisgyblion eraill, sydd yn datblygu sgiliau llythrennedd traddodiadol a hefyd y gallu i ‘ddarllen’ y straeon sydd o fewn cyfryngau eraill fel ffilm, teledu a chyfryngau cyfoes,” ychwanegodd.
Yn ogystal â bod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer cyfnewid ymchwil ym maes astudiaethau Arthuraidd, mae’r Ganolfan Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau cymunedol, gan gyflwyno i’r hen a’r ifanc y chwedlau Arthuraidd.
Mae gan y Ganolfan fynediad at gasgliad sydd heb ei ail ac sy’n cynnwys argraffiadau prin a astudiaethau Arthuraidd. Mae’r casgliad wedi ei ymestyn gyda rhoddion preifat a gychwynnodd hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac sydd wedi parhau i dyfu drwy waith ysgolheigion a gofal llyfrgellwyr Bangor o’r stoc.
Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018
Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821
Rydym yn darganfod ychydig o drysorau wrth gatalogio casgliad Aruthuraidd Harries Sir y Fflint. Y trysor diweddaraf yw fersiwn o Trystan gan Gottfried von Strassburg a argraffwyd ar bapur a wnaed â llaw, dyddiedig 1821.
Gottfried von Strassburg (a bu farw tua 1210) yw awdur Trystan y serch llysaidd mewn Almaeneg Uwch Canoloesol, sef addasiad o'r chwedl Tristan a'r Iseult o'r ddeuddegfed ganrif. Caiff gwaith Von Strassburg ei gydnabod yn gyffredinol fel yr addasiad gorau o'r chwedl hon am gariadon canoloesol, ac aeth ymlaen i ddylanwadu ar genedlaethau o awduron ac artistiaid. Dyma'r dylanwad a'r ysbrydoliaeth mwyaf i opera Richard Wagner, Tristan und Isolde.
Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821, y cyhoeddwr yw Reimer: Berlin
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Yr Athro Raluca Radulescu yn cyflwyno darlith gwadd i Gymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Cyflwynodd yr Athro Raluca Radulescu ddarlith wadd ar y pwnc 'Brenin Arthur yng Nghasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a Chasgliad Arthuraidd Prifysgol Bangor' ar wahoddiad Cymdeithas Hanes Sir y Fflint ar 24 Mawrth 2018. Roedd 100 o aelodau'r gymdeithas a'u gwesteion yn bresennol yn y ddarlith.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2018
'The Centre for Arthurian Studies in Current Archaeology'
Mae aelod o'r Ganolfan, Scott Lloyd (CBHC) yn ein hysbysu bod y Ganolfan yn cael sylw yn y rhifyn diweddaraf o Current Archaeology. Yn ei golofn fisol 'Odd Socks', mae Christopher Catling, Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, hefyd yn trafod cyhoeddiad gan un o'n haelodau, a lansiwyd gan y Ganolfan y llynedd.
Dogfennau cysylltiedig:
• current-archaeology-piece.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
Rhodd Arbennig i'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd: Platiau'r Brenin Arthur
Ar 13 Chwefror 2018 fe wnaeth y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd groesawu gwesteion eithriadol o hael. Fe wnaeth Mr a Mrs Rawlinson o Wilmslow yn garedig iawn roi set arbennig o blatiau'n rhodd i'r ganolfan er cof am dad Mrs Rawlinson, Yr Athro Roland C. Johnston. Cafodd y chwe phlât eu comisiynu'n breifat gan y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwldol i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 yn 1979. Cynhyrchwyd y platiau gan Royal Worcester a nifer gyfyngedig a wnaed, gyda gwaith gwreiddiol gan yr arlunydd James Marsh ar bob plât. Mae'r delweddau'n olygfeydd pwysig o'r rhamantau Arthuraidd. Fe'u haddurnwyd â llaw mewn aur 24 carat ar tsieni esgyrn, sef y porslen gorau ohonynt i gyd.
The lovers Tristan and Isolde resting in the forest glade, the naked sword of chastity between them
Bu perchennog gwreiddiol y platiau, Yr Athro Roland C. Johnston, yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrengig ym Mhrifysgol St Andrews o 1948 tan 1961. Gyda'r Athro Eugène Vinaver fe sefydlodd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn 1948.
Nifer gyfyngedig iawn o'r platiau a wnaed ac roeddent wedi'u neilltuo'n unig i aelodau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol. Roedd pris pob plât yn £33, ac i gyd-fynd â'r platiau cafwyd deunydd cyfeiriadol arbennig yn disgrifio pob golygfa a gafwyd ar y platiau, a'i lle yn chwedl y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron. Roedd y deunydd hwn yn waith Yr Athro Philippe Ménard, Prifysgol La Sorbonne, Ffrainc.
Rhoddwyd tystysgrif ddilysrwydd hefyd gyda phob un o'r platiau.
Yn y delwedd o'r pedwar plat:
Y ddelwedd gyntaf yw golygfa lle mae'r marchogion Peredur, Bohort a Galâth, ar ôl cyflawni'r Ymchwil am y Seint Greal, yn cyrraedd ar eu llog hud i'r ddinas chwedlonol ger Saras.
Cyflwyniad dramatig y Galâth ifanc i'r Ford Gron, gan eistedd am y tro cyntaf yn y sedd nad oedd neb ond ef yn deilwng o fod ynddi.
Portread o'r dewin Myrddin wrth iddo wylio'r hudoles Viviane yn bwrw arno'r hud a fyddai’n ei gaethiwo am dragwyddoldeb.
Marwolaeth ingol Arthur, gyda'i long frenhinol yn llithro o'r lan i Ynys Afallon ddirgel o'r lle y bydd yn dychwelyd un dydd yn ôl y chwedl.
Hoffai'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddiolch i Mr a Mrs Rawlinson am eu rhodd garedig.
A depiction of the struggle of Good and Evil between Lancelot and evil knight Meleagant, who has abducted Queen Guinevere
Bu gwerthu'r platiau'n fodd i sefydlu'r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Ymddiriedolaeth Vinaver, ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i gyhoeddi ysgolheictod Arthuraidd. Ers ei sefydlu bron i ddeugain mlynedd yn ôl yn 1981 mae Ymddiriedolaeth Vinaver wedi medru cefnogi gwaith ysgolheigion Arthuraidd yn fyd-eang, gyda bron i 90 o lyfrau'n deillio o gydweithio â chyhoeddwyr rhyngwladol.
Yn dilyn ymgynghori ymysg aelodau pwyllgor Ymddiriedolaeth Vinaver (y mae'r Athro Radulescu yn aelod ohono ar hyn o bryd yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol), ei Lywydd Yr Athro Jane Taylor (cyn Lywydd IAS) a'r Ysgrifennydd Dr Geoffrey Bromiley (Prifysgol Durham) bydd Archifau Ymddiriedolaeth Vinaver yn cael eu sefydlu yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn niwedd 2018. Bydd yr amodau y gellir eu defnyddio i ddibenion ymgynghori yn dilyn yr un canllawiau â'r rhai a luniwyd ar gyfer Archifau Cangen Prydain o'r IAS ac Archifau IAS, a gedwir hefyd yn Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor dan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Gan Shan Robinson a Raluca Radulescu
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
'The Mediaeval Courts of Love' - erthygl blog gan Shan Robinson
Ganed Vyvyan Holland yn Llundain yn 1886 dan yr enw Vyvyan Oscar Beresford Wilde. Roedd yn fab i'r awdur a'r dramodydd nodedig Oscar Wilde, a garcharwyd yn 1895 ar ôl ei gael yn euog o gyhuddiad o 'anwedduster difrifol' oherwydd ei wrywgydiaeth. Yn dilyn yr achos llys hynod gyhoeddus, ceisiodd mam Vyvyan amddiffyn ei bechgyn drwy eu symud dramor a newid eu henwau. Ar ôl symud yn gyntaf i'r Swistir, roedd Vyvyan yn codi ei bac eto'n fuan wedyn gan gofrestru mewn ysgol cyfrwng Saesneg yn yr Almaen. Fodd bynnag, roedd yn anhapus yno ac felly symudwyd ef i ysgol Jeswitaidd ym Monaco. Astudiodd Vyvyan y gyfraith yn Trinity Hall ym Mhrifysgol Caergrawnt o 1905-07. Ailafaelodd mewn astudio'r gyfraith pan oedd yn 22 oed a galwyd i Far Lloegr a Chymru gan yr Inner Temple yn 1912. Dechreuodd ysgrifennu cerddi a straeon byrion ar ôl hynny.
Argraffwyd y llyfr bach hwn yn breifat yn 1927 i aelodau o Ye Sette of Odd Volumes, sef clwb cinio Saesneg i lyfrgarwyr a sefydlwyd yn 1878 yn Llundain gan y llyfrwerthwr Quaritch. Mae 'The Sette' yn parhau hyd heddiw'n glwb cymdeithasol bychan preifat sy'n ymwneud â chasglu llyfrau, hanes argraffu, a llyfrgarwyr. Mae'r llyfr, a gynhyrchwyd ar bapur a wnaed â llaw, yn rhan o argraffiad cyfyngedig o ddim ond 13 chopi, a rhif 10 yw'r llyfr arbennig hwn. Mae'r teitl 'The Mediaeval Courts of Love' yn cyfeirio'n ôl at y dadleuon cariad a ddigwyddodd mewn serch lysoedd yn Ffrainc yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, y cyfnod sy'n enwog am ddatblygiad syniadau sifalraidd, cerddi cariad a ganwyd gan drwbadwriaid a trouvères (cerddorion), a'r cynnydd mewn rhamantau canoloesol. Cafwyd cydnabyddiaeth o’r diwedd, mewn materion serch a chariad, fod gan ferched beth rheolaeth dros wrthrychau eu serch a sut roeddent yn cael eu trin. Roedd y llysoedd yn cael eu cynnal gan ferched a oedd yn pasio barn ar faterion yn ymwneud â chariad, ffyddlondeb, sifalri, cwrteisi a moesgarwch.
Cyflwynwyd y llyfr i'r actores Joan Clement Scott ac mae wedi'i lofnodi gan yr awdur. O fewn ei dudalennau cafwyd hyd i lythyr at Joan Scott yn llawysgrifen yr awdur. Ymddiheuriad yw'r llythyr am fethu â dod i achlysur a drefnwyd, ac mae'n cynnig y llyfr iddi fel math o iawn am ei fethiant.
Ganed Joan Clement-Scott ar 23 Ebrill 1907 yn Marylebone, Llundain a'i henw bedydd oedd Joan Isabelle Footman. Roedd yn actores a ddaeth yn adnabyddus am ei rhannau yn Cæsar's Friend (1939) a Shall We Join the Ladies? (1939). Priododd â David John Footman a bu farw yn Chelsea, Llundain ar 13 Mai 1960.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd Vyvyan Holland fel Is-Lifftenant yn yr Interpreters Corps, ac yn ddiweddarach yn 114 Battery, XXV Bde Royal Field Artillery. Derbyniodd OBE ar ôl ei ryddhau o'r fyddin yn 1919. Cafodd yrfa lwyddiannus wedyn fel awdur a chyfieithydd. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cynigiodd y BBC swydd iddo fel cyfieithydd a golygydd. Bu farw Vyvyan yn Llundain yn 1967 yn 80 oed.
Mae'r llyfr yn rhan o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a ddaeth i Lyfrgell Prifysgol Bangor yn 2014 ac erbyn hyn mae'n rhan o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (Arthur.bangor.ac.uk). Cedwir y llyfr gyda'r llyfrau prin a chasgliadau arbennig yn Llyfrgell Prifysgol Bangor a gellir ei weld yn yr archifau o wneud cais amdano.
I wneud apwyntiad i weld y llyfr hwn ac eitemau cysylltiedig eraill o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, cysylltwch â Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2018
Newyddion ar gatalogio y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Un o brif lwyddiannau’r llyfrgell eleni yw catalogio Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint. Yn awr, caiff ei gynnwys yng nghasgliadau Arthuraidd sylweddol Llyfrgell Prifysgol Bangor, casgliadau sydd eisoes wedi ennill amlygrwydd rhyngwladol. Mae pob un llyfr (2579 i gyd) wedi ei brosesu a’i gatalogio, gan gynnwys rhoi rhifau a phlatiau newydd arnynt yn ofalus. Gwnaed y gwaith sylweddol hwn gan Alan Dawson a’i dîm: Geraint Gill ac Alan Hughes. Dyma sicrhau bod modd chwilio’r casgliad yn llawn, gan y gymuned leol a hefyd ddefnyddwyr o bell ar y system cyfrifiadurol. Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith caled.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Hydref 2017
Mae project cydweithredol newydd ar y testun 'The Arthurian Quest' wedi derbyn cyllid o Gronfa Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor. Bydd yr Athro Raluca Radulescu, y prif ymchwilydd, yn gweithio gyda Gillian Brownson, ymarferwr creadigol lleol, a Kate Stuart, myfyriwr MPhil yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, ar raglen i hybu cyfranogiad a llythrennedd ymysg disgyblion ysgolion uwchradd yn yr ardal leol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017
Bu'r mis a dreuliais fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol werthfawr i mi o ran gosod y seiliau ar gyfer y traethawd hir MA. Rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Villanova, ac mae fy nhraethawd hir yn ymwneud â hanes Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy, a syniadau newydd am ryfeloedd cyfiawn yn ystod y ddeuddegfed ganrif: Golygodd casgliad eang Prifysgol Bangor o waith awduron canoloesol, ynghyd â chasgliad helaeth y brifysgol o weithiau ysgolheigaidd modern ar bynciau canoloesol, fod modd i mi archwilio'r pwnc, cael gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun, ac archwilio nifer o ffynonellau o'r ddeuddegfed ganrif mewn mwy o fanylder. Yr elfen fwyaf gwerthfawr, fodd bynnag, oedd casgliad helaeth Bangor o lenyddiaeth Arthuraidd, a dyna oedd prif reswm fy arhosiad ym Mangor. Fe wnaeth y casgliad hwn fy ngalluogi i gymharu nifer o ffynonellau Arthuraidd ochr yn ochr, rhywbeth a oedd wedi bod anodd i mi ei wneud cyn dod i Fangor.
Roedd llawer o'r cynnydd a wnes yn fy ymchwil yn ganlyniad i’r arweiniad a gefais gan staff Bangor: yn ystod fy nghymrodoriaeth ymchwil, gwnaeth yr Athro Raluca Radulescu sylwadau ar sawl agwedd o'm gwaith a darparu mentora academaidd i mi. Hefyd, trwy'r Athro Radulescu deuthum i gysylltiad â sawl aelod arall o'r brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr presennol a staff y llyfrgell. Fe wnaeth y cysylltiadau hyn fy ngalluogi i ddarganfod a gwneud gwell defnydd o gyfleusterau’r brifysgol a’r adnoddau ymchwil hynny a oedd ar gael i mi fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad, a manteisio ar ddiwylliant ymchwil Bangor. Un sy'n haeddu sylw arbennig yw Shan Robinson, y Cydlynydd Casgliadau Arbennig, a roddodd fynediad i mi at nifer o lawysgrifau prin o'r Historia Regum Brittaniae; fy nghyflwyno i adnoddau a systemau'r llyfrgell; a chefais fanylion ganddi am ffynonellau Arthuraidd arbenigol Bangor, gan gynnwys Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017
Gyngres Arthuraidd Ryngwladol 2017
Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).
Traddodwyd papurau yn y gynhadledd gan yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws P.J.C. Field o Fangor, ac o blith aelodau bwrdd allanol y Ganolfan, siaradai yr Athro Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia), a etholwyd hefyd yn y gyngres yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol); yr Athro Carolyne Larrington (Prifysgol Rhydychen), Dr Alan Lupack (Prifysgol Rochester), a Dr Samantha Rayner (Coleg y Brifysgol Llundain).
Yn cyflwyno hefyd roedd myfyrwyr PhD ac MA Prifysgol Bangor (Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek), ac un o gymrodyr presennol y ganolfan, Dr Rebecca Lyons (Prifysgol Bryste). Mewn trafodaeth arbennig a drefnwyd gan Dr Samantha Rayner, aelod o'r bwrdd allanol, a'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, archwiliwyd testunau Arthuraidd o'r cyfnod wedi'r oesoedd canol, a’u trafod yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Yn y digwyddiad hwn rhoddodd yr Athro Radulescu sylw i'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen digideiddio'r casgliadau Arthuraidd yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn arbennig yr arddangosfa ar-lein 'Malory ym Mangor ac yn y Byd' sy'n parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017
Arbenigwyr Arthuraidd o Fangor yng Ngŵyl Lenyddol Bradford fis Gorffennaf
Bydd Yr Athro Raluca Radulescu, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a'r Athro Emeritws P.J.C. Field, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg, yn rhoi sgyrsiau i'r cyhoedd ar bwnc Y Brenin Arthur drwy'r Oesau ac Arthur Malory ym myd Tennyson (Radulescu, 1 Gorffennaf, 11:30am a 5:15pm) a Camelod (Field, siarad am ei ddarganfyddiad diweddar o leoliad posibl y Camelod hanesyddol, 1 Gorffennaf, 2:30pm).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017
Cyhoeddi golygiad awdurdodol newydd o Morte Darthur Malory
Le Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif, yw’r stori Saesneg fwyaf poblogaidd am y Brenin Arthur chwedlonol. Mae'r golygiad newydd hwn yn cyflwyno testun awdurdodol i fyfyrwyr ar bob lefel yn ogystal ag i’r darllenydd cyffredin. Er hwylustod, hepgorwyd o’r gwaith newydd nodiadau testunol helaeth yr argraffiad ysgolheigaidd a gyhoeddir gan y wasg academaidd flaenllaw, Boydell & Brewer. Lansiwyd y gwaith mawr hwnnw yng nghynhadledd cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a drefnwyd ym Mhrifysgol Bangor gan gyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Raluca Radulescu, yn 2013.
Mae'r digwyddiad cyhoeddi hwn yn dilyn presenoldeb diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Lenyddol Bradford. Yma, bu aelodau o’r Ganolfan yn amlwg mewn tri o'r pedwar digwyddiad a ganolbwyntiodd ar y chwedlau Arthuraidd a'u hailadrodd: roedd yr Athro Raluca Radulescu yn aelod arbenigol o’r paneli 'The Arthurian Legend and Its Enduring Appeal' a 'The Lady of Shalott: Tennyson's Camelot', a bu’r Athro Field yn trafod 'Camelot Through the Ages'. Derbyniwyd y gwahoddiadau i'r ŵyl fawreddog hon yn fuan wedi'r sylw helaeth yn y newyddion a gafodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ar ôl ei lansio ym mis Ionawr 2017, i ddathlu traddodiad hirsefydlog y brifysgol yn y maes hwn, a Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. Roedd y trefnwyr hefyd yn awyddus i roi sylw i ddarganfyddiad yr Athro Field ynghylch lleoliad posib y Camelot hanesyddol, a gyflwynwyd mewn darlith arloesol wrth lansio Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor, ym mis Rhagfyr 2016.
Bydd aelodau staff ac ôl-raddedigion Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyflwyno eu hymchwil yn y 25ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhelir yn Würzburg, yr Almaen (24-29 Gorffennaf), lle bydd cyflwyniad i’n harddangosfa ar-lein yn rhoi cipolwg i ysgolheigion o bob cwr ar lyfrau Arthuraidd prin y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd a Llyfrgell a Chasgliad Archifau Prifysgol Bangor. Caiff yr arddangosfa hon ei churadu gan yr Athro Radulescu mewn cydweithrediad â Shan Robinson, dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan, bwrdd ymgynghorol rhyngwladol y ganolfan, aelodau o’r staff, a myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y cwrs MA ar Lenyddiaeth Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Gorffennaf 2017
Yn ystod seremonïau graddio'r brifysgol yng Ngorffennaf derbyniodd yr Athro Raluca Radulescu Gymrodoriaeth Rhagoriaeth Dysgu ar sail ei gwaith addysgu a goruchwylio ymchwil ym meysydd astudiaethau canoloesol ac Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Gorffennaf 2017
Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).
Traddodwyd papurau yn y gynhadledd gan yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws P.J.C. Field o Fangor, ac o blith aelodau bwrdd allanol y Ganolfan, siaradai yr Athro Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia), a etholwyd hefyd yn y gyngres yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol); yr Athro Carolyne Larrington (Prifysgol Rhydychen), Dr Alan Lupack (Prifysgol Rochester), a Dr Samantha Rayner (Coleg y Brifysgol Llundain).
Yn cyflwyno hefyd roedd myfyrwyr PhD ac MA Prifysgol Bangor (Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek), ac un o gymrodyr presennol y ganolfan, Dr Rebecca Lyons (Prifysgol Bryste). Mewn trafodaeth arbennig a drefnwyd gan Dr Samantha Rayner, aelod o'r bwrdd allanol, a'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, archwiliwyd testunau Arthuraidd o'r cyfnod wedi'r oesoedd canol, a’u trafod yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Yn y digwyddiad hwn rhoddodd yr Athro Radulescu sylw i'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen digideiddio'r casgliadau Arthuraidd yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn arbennig yr arddangosfa ar-lein 'Malory ym Mangor ac yn y Byd' sy'n parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017
Gwobr THELMA
Mae Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am wobr fawreddog yn y Times Higher Education Leadership and Management Awards (THELMA), a hynny am ei gwaith o estyn allan ac ymwneud â’r gymuned. Ymysg y prosiectau y tynnwyd sylw atynt yn y gystadleuaeth oedd ‘Diwrnod o Hwyl y Brenin Arthur’ a’r ‘Diwrnod o Hwyl Ganoloesol’ ym Mehefin 2015 a Mehefin 2016. Bwriad y prosiectau oedd tynnu sylw at Gasgliadau Arbennig Arthuraidd y Llyfrgell a dathlu lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol.
Anelwyd y digwyddiad cyntaf at deuluoedd, ac fe’i cynhaliwyd yn y Brif Lyfrgell ym mis Mehefin 2015. Cafwyd cymaint o lwyddiant nes penderfynu gwahodd 500 o blant ysgol lleol gyda’i athrawon i Gastell Caernarfon ar gyfer diwrnod yn llawn hanes, addysg, creadigrwydd a hwyl. Roedd gweithgareddau’r ddau ddigwyddiad yn cynnwys gweithdai ar greu llyfrau canoloesol, creu cestyll digidol, llawysgrifen ganoloesol a thaith drysor ar lun yr Ymchwil am y Greal Sanctaidd. Trefnwyd y ddau ddigwyddiad ar y cyd â Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chawsant eu hariannu gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
Cyhoeddir yr enillwyr ddydd Iau 22 Mehefin mewn dathliad yng Ngwesty'r Grosvenor House yn Llundain.
Hoffai’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddymuno pob lwc i dîm y Llyfrgell.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2017
Arthurian Place Names in Wales: Lansio Llyfr
Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ddigwyddiad i ddathlu cyhoeddi Arthurian Place Names in Wales gan Scott Lloyd.
Trwy archwilio cyfoeth o ffynonellau ysgrifenedig o'r canol oesoedd hyd at astudiaethau diweddar, mae'r llyfr newydd hwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, yn ystyried amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy'n cysylltu'r Brenin Arthur â safleoedd yng Nghymru. Gosodir honiadau am hunaniaeth Arthur a'i deyrnas mewn cyd-destun ehangach, gan roi ystyriaeth briodol i faterion sy'n ymwneud â dyddiadau, awduraeth, effaith a dylanwad. Mae hwn yn ychwanegiad cyffrous at y corff o waith am Arthur, mae hefyd yn cynnwys mynegai daearyddol y safleoedd - gan gynnwys y rhai nad yw eu lleoliad wedi eu nodi eto.
Mae Scott Lloyd wedi bod yn cydweithio ers cyfnod hir â'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n gweithio i'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgor cangen Prydain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol, sy'n parhau i sefydlu ei hun fel canolfan ryngwladol ymchwil a thrafodaeth, ac yn dod ag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd ym mhob agwedd ar astudiaethau Arthuraidd. Mae Scott Lloyd hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o brojectau cydweithredol a drefnir gan y ganolfan, y mae'n aelod ohoni.
Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu (cyfarwyddwr y ganolfan) a Dr Aled Llion Jones (dirprwy gyfarwyddwr). Dilynwyd hynny gan gyflwyniad rhagarweiniol gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) ac yna rhoddodd yr awdur anerchiad difyr a oedd yn procio'r meddwl am y canfyddiadau yn ei lyfr.
Arddangoswyd llyfrau Arthuraidd, yn cynnwys gweithiau ysgolheigaidd gan staff Bangor yn ogystal ag eitemau prin o'r casgliadau arbennig yn llyfrgell Prifysgol Bangor yn ystod y digwyddiad - gan barhau â chyfranogiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mlwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.
Meddai'r Athro Raluca Radulescu: "Mae'n bleser cynnal y digwyddiad hwn, yn enwedig gan ei fod yn digwydd yn ystod Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, a chyn i ragolwg arbennig o'r ffilm newydd a drefnwyd gan BAFTA Cymru am Frenin Arthur, a gyfarwyddwyd gan Guy Ritchie ac a ffilmiwyd yn Eryri, gael ei ddangos yn Pontio. Trafodir lleoliadau'r ffilm yn llyfr Scott, ac mae astudiaeth o'r chwedlau a'u hamrywiol ymddangosiadau yn niwylliant Cymru a thu hwnt yn sail i'n cwrs MA unigryw mewn Llenyddiaeth Arthuraidd. Edrychwn ymlaen at ragor o gydweithio yn y dyfodol, ac at ragor o ddiddordeb yng ngogledd Cymru.
Cyhoeddir podlediad o ddarlith Scott Lloyd ar y wefan yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017
BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword
© 2017 Warner Bros. Entertainment, Inc. All rights reserved
Mae'n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig o’r ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm.
Gyda ffilmio ar leoliad yn Nyffryn Ogwen yn rhan helaeth o ffilm newydd Guy Ritchie, dyma gyfle gwych i weld y golygfeydd godidog a’r hud yn dod yn fyw ar y sgrîn fawr CYN iddo gael ei ryddhau drwy’r DU ar ddydd gwener 19 Mai gan Warner Bros. Pictures.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, “Mae’r cyfle i gynnig rhagddangosiad o’r ffilm hir-ddisgwyliedig yma ac i ddathlu’r defnydd o leoliadau epig yng Nghymru yn allweddol i rôl BAFTA o ran dathlu hyd a lled y criw talentog sy’n gweithio ar brojectau ffilm yng Nghymru. Bydd yn noson arbennig i’r diwydiant lleol, i’n aelodau a’r cyhoedd.”
Yn serennu yn y ffilm mae Charlie Hunnam, Jude Law, Astrid Bergès-Frisbey, Djimon Hounsou, Aidan Gillen a Eric Bana, ac mae’r ffilm yn cymryd gogwydd iconoclastig ar chwedl Excalibur, gan ddilyn taith Arthur o’r strydoedd i’r orsedd.
Wedi i dad y plentyn Arthur gael ei lofruddio, mae ewythr Arthur Vortigern (Jude Law) yn dal gafael ar y goron. Gyda’i genedigaeth-fraint wedi ei ddwyn oddi arno, a chyda dim syniad o’i hawl drost y goron, mae Arthur yn cael ei fagu ar strydoedd y ddinas. Ond unwaith y mae’n tynnu’r cleddyf o’r garreg, mae ei fywyd yn cael ei wyrdroi ac mae’n gorfod wynebu ei etifeddiaeth…er gwell neu er gwaeth.
Meddai Ysgrifenydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, “Rwy’n falch iawn fod BAFTA Cymru a Pontio wedi sicrhau’r dangosiad arbennig yma yn yr ardal ble cafodd y ffilm ei saethu – sy’n arddangos tirlun epig Cymru a’n potensial fel lleoliad ffilm. Mae rhyddhau’r ffilm yma yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau yn amseru perffaith wrth i ni archwilio’r llu o chwedlau sydd yma yng Nghymru a dod â’r gorffennol yn fyw eleni. Mae Croeso Cymru hefyd yn partnerio gyda VisitBritain ar ymgyrch ddigidol ‘Where Stories Become Legends’ sy’n arddangos y lleoliadau chwedlonol rheiny ym Mhrydain y Brenin Arthur i gynulleidfaoedd rhyngwladol.”
Mae tocynnau ar gyfer y rhagddangosiad arbennig yma ar gael ar www.pontio.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau 01248 38 28 28.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017
Y Tŵr Hud: Wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Yn y rhamant, caiff Lawnslot ei ddal yn gaeth mewn tŵr gan Morgan Le Fay, ac mae’n difyrru’r amser trwy dynnu lluniau ar y waliau. Ym mis Gorffennaf 2016, cefais innau’r profiad pleserus o gael fy 'nal yn gaeth' mewn tŵr hud, lle nad oedd peryg i mi ddiflasu, oherwydd mai tŵr llawn llyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Bangor oedd fy ‘ngharchar’ i.
Gwobr oedd yr wythnos o astudio a ddyfarnwyd i mi am erthygl [https://academicbookfuture.org/2016/02/17/iasbb-competition-winner] a ysgrifennwyd ar gyfer y blog Academic Book of the Future, ac roedd yn well nag unrhyw wobr a enillwyd erioed gan farchog mewn twrnameint; wythnos yng Nghanolfan newydd Astudiaethau Arthuraidd Bangor, gyda’i chasgliad anhygoel o destunau, argraffiadau ac astudiaethau beirniadol Arthuraidd.
Roedd y telerau’n syml: ar ôl wythnos o astudio, ar unrhyw thema Arthuraidd a fyddai'n dal fy ffansi, byddai’n rhaid cyflwyno adroddiad ar unrhyw ffurf. Roedd y telerau hyblyg yn rhoi rhyddid ac yn codi ofn ar yr un pryd. Wyddwn i ddim beth fyddwn i’n dod o hyd iddo yn y casgliad, ac nid oeddwn yn siwr a oedd disgwyl i mi wneud 'darganfyddiad' - neu beth i'w adrodd os oeddwn i’n methu â gwneud hynny.
Yn y pen draw, fe wnes i ddarganfyddiad bach. Deuthum o hyd i lyfr rhyfeddol, cerdd ar gwest Parsifal am y Greal, a ysbrydolwyd gan Richard Wagner, y cyfansoddwr adnabyddus, ac, yn ol yr honiad, gan ffynonellau Celtaidd anhysbys. Llyfr gan T. W. Rolleston ydoedd, Parsifal or the Legend of the Holy Grail retold from Ancient Sources with acknowledgement to the ‘Parsifal’ of Richard Wagner, gyda rhagarweiniad gan Willy Pogany (Llundain: Harrap, 1912). Cyflwynwyd y gerdd mewn fersiwn argraffiad cyfyngedig, gydag addurniadau art nouveau unlliw a phlatiau lliw, gan ei gwneud bron mor drawiadol yn weledol â 'copi arddangos' canoloesol o ramant Arthuraidd. Yn dilyn fy 'narganfyddiad' cafodd y llyfr ei gynnwys yn yr arddangosfa rithwir 'Malory a'i Ddilynwyr' [ http://arthurian-studies.bangor.ac.uk/exhibition/bangor/21.php], ac roeddwn wrth fy modd, flwyddyn yn ddiweddarach, pan gafodd fy ymchwil ar y testun hwn a'r gwaith darlunio ei derbyn a’i chyhoeddi yn y Journal of the International Arthurian Society(JIAS) (JIAS) [https://www.degruyter.com/view/j/jias.2017.5.issue-1/jias-2017-0007/jias-2017-0007.xml].
Yn y cyfamser, pan gyrhaeddais ym Mangor, doedd gen i ddim cynllun gweithredu, ac ni fuasai modd yn y byd i mi fod wedi paratoi un. Roedd y casgliad yn y ‘tŵr’, Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a ddelid o’r blaen yn Llyfrgell Sir y Fflint, yn newydd, nid yn unig i mi, gan mai dim yn ddiweddar roedd wedi dod i'r Ganolfan, ac fe’m rhybuddiwyd y gallai rhai manylion yn y catalog papur fod yn anghywi.
Dechreuais gyda'r catalog a nodais rai gweithiau yr oeddwn i am edrych arnynt. Yna euthum o amgylch yr ystafell a phori drwy’r silffoedd am unrhyw lyfrau a fyddai'n dal fy llygad, yn seiliedig ar y teitl, yr awdur neu hyd yn oed y meingefn. Yn fuan iawn, daeth pentwr o lyfrau yn dŵr arall ar fy mwrdd: roedd gweithiau mewn meysydd yr oeddwn i bob amser wedi bod yn awyddus i wybod mwy amdanynt, ond erioed wedi cael yr amser, neu ar y themâu yr oeddwn i wedi dechrau gweithio arnynt ac yna eu rhoi heibio yn ystod fy ymchwil ddoethurol, yn ogystal â rhai ffynonellau primaidd dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn atyniadol. Wrth reswm dewisais lawer mwy o lyfrau nag y gallwn i eu darllen mewn cyfnod mor fyr o amser, heb sôn am eu hastudio mewn dyfnder mewn cwta wythnos, ond hyd yn oed wedyn daliais ati i ychwanegu mwy o lyfrau at y pentwr dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Pe bawn wedi bod yn sefyllfa Lawnslot, byddwn wedi cydsynio’n llawen i gael fy nghloi yn y tŵr; ond roedd Llyfrgell y Brifysgol yn dilyn amserlen yr haf. Er gwaethaf yr anfantais fach hon, edrychais drwy’r holl lyfrau, a gwneud nodiadau ar bob un. Hefyd cedwais ryw fath o ddyddiadur, lle nodais y gwaith yr oeddwn wedi ei wneud yn ystod y diwrnod ynghyd ag unrhyw syniadau diddorol oedd gen i, i gadw cofnod o’m cynnydd.
Yn wir, roedd fy nghynnydd yn bell o fod yn unionsyth: fel marchog crwydrad, bûm yn crwydro trwy'r goedwig o lyfrau, ac roedd rhai llwybrau nad oeddent yn arwain i unman. Dim ond tua diwedd yr wythnos y dechreuais ddarllen Parsifal Rolleston, ac ar unwaith yr oeddwn wedi fy nghyfareddu: roedd rhythm araf y farddoniaeth, a’r addurniadau a’r darluniau unlliw a ddisgleiriai ar bob tudalen yn wahanol iawn i’r math o lenyddiaeth Arthuraidd roeddwn i wedi arfer â hi: naill ai rhamantau canoloesol mewn llawysgrifau ac argraffiadau ysgolheigaidd modern, neu ffuglen fodern mewn llyfrau clawr papur. Llefarodd llyfr Rolleston am le gwahanol, a set wahanol o werthoedd diwylliannol: os nad oedd yn gampwaith, roedd yn hardd yn ddi-os.
Mae’r casgliad a gynigir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn unigryw yn gymaint a’i fod yn cynnwys llawer o weithiau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a ysbrydolwyd gan Arthuriana, yn ogystal ag argraffiadau ac addasiadau o ddeunydd Arthuraidd a Cheltaidd canoloesol a gweithiau ysgolheigaidd a gynhyrchwyd yn y un cyfnod.
Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, cafodd deunydd Arthuraidd ei addasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol a’i ddarllen ganddynt, er enghraifft, y 'darllenydd cyffredin', hynafiaethwyr ac ysgolheigion llenyddiaeth a llên gwerin. Mae'r Ganolfan Arthuraidd yn cynnwys enghreifftiau o’r gwahanol ffyrdd hyn o ddefnyddio Arthuriana canoloesol. I enwi un enghraifft yn unig, mae Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cadw nifer o gyfieithiadau ac argraffiadau cynnar o'r Mabinogi: cyfieithiad William Owen Pughe, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Cambrian Register yn 1795, yr argraffiad cyntaf a'r ail argraffiad o gyfieithiad y Fonesig Guest (1838-1849 a 1877), llyfrynnau poced diweddarach wedi eu golygu gan Alfred Nutt, yn ogystal â addasiadau Sidney Lanier yn The Boy’s Mabinogion (1881) [https://archive.org/details/knightlylegendso00lani]. Bu’r ffynonellau hyn a ffynonellau Celtaidd eraill yn ysbrydoliaeth i awduron dechrau’r ugeinfed ganrif, llawer ohonynt yn weddol hysbys heddiw:.. TW Rolleston, ond hefyd Thomas Evelyn Ellis, a ysgrifennodd The Cauldron of Annwn (1922).
Mae'r argraffiadau a’r addasiadau hyn o ffynonellau Arthuraidd, yn ogystal â gweithiau ffuglen a chelf a ysbrydolwyd ganddynt, wedi dylanwadu ar genedlaethau dilynol o ddarllenwyr ac ysgolheigion a'u hymatebion i Arthuriana a thestunau Arthuraidd canoloesol gwreiddiol. Yn ystod fy wythnos yn y Ganolfan, dilynais y llwybr ymchwil hynod dddiddorol hwn trwy blethwaith o'r gweithiau creadigol ac ysgolheictod cynharach hyn a luniwyd rhwng y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif: bydd ymchwil bellach gan ysgolheigion, a gyflawnwyd yng Nghanolfan Bangor , yn taflu goleuni newydd ar orffennol – a dyfodol - llenyddiaeth Arthuraidd.
Dr Anastasija Ropa, Prifysgol Latfia
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2017
Catalogio’r Casgliad Arthuraidd
Cyrhaeddwyd carreg filltir yn hanes catalogio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yr wythnos hon, pan gatalogiwyd y 1,000fed llyfr.
Rydym erbyn hyn hanner o’r ffordd drwy gatalogio’r casgliad, ac mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyson.
Diolch i ymdrechion diflino’r tîm rydym yn hyderus y caiff y gwaith ei gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Cewch chwilio'r casgliad drwy deipio “Flintshire Harries Collection” yn y blwch chwilio a dewis “Chwiliad Bangor” ar y catalog ar-lein.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
How King Arthur became one of the most pervasive legends of all time
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu o’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 3 Chwefror 2017
Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor
Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad.
Gan adeiladu ar enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil, addysgu a chyfraniad ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n dyddio yn ôl at sefydlu'r brifysgol a llyfrgell y brifysgol yn 1884, mae'r ganolfan newydd hon yn ffurfioli'r maes astudio pwysig hwn ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ôl yr Athro Raluca Radulescu, ‘Mae'r ganolfan newydd yn dathlu dros gan mlynedd o weithgarwch ysgolheigaidd parhaus ym meysydd astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd, gydag uchafbwyntiau arbennig fel cyfraniad ysgolheigion Arthuraidd yn arwain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (bu'r Athro Emeritws P.J.C. Field yn llywydd ohoni) a golygyddiaeth cyfnodolyn y gymdeithas.’
Aeth yr Athro Radulescu yn ei blaen i ddweud: ‘Prifysgol Bangor yw'r unig le yn y byd sy'n cynnig MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, ac mae cyn-fyfyrwyr Bangor wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd rhyngwladol mewn addysg uwch, cyhoeddi a llyfrgellyddiaeth. Mae casgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor wedi elwa o dderbyn casgliad Harries o ddeunyddiau Arthuraidd o Sir y Fflint yn 2015, ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad mewn nifer o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar y chwedlau Arthuraidd - fel y dangoswyd gan ddarlith yr Athro Field ar leoliad Camelot yn ddiweddar.
Mae'r chwedlau Arthuraidd wedi eu gwreiddio mor ddwfn mewn bywyd, diwylliant a gwleidyddiaeth modern fel bod cyfeiriadau at y cleddyf yn y garreg yn ymgyrch farchnata Guinness neu hyd yn oed Camelot fel treftadaeth yr Arlywydd J.F. Kennedy yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn gallu eistedd ochr yn ochr â'n defnydd o ymadroddion fel 'bwrdd crwn' a'r 'Greal Sanctaidd' yn ein hiaith bob dydd. Ffynhonnell nifer o ffantasïau modern yw'r atgyfodiad ac ailddehongliad o'r chwedlau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r ffynonellau canoloesol yn parhau i fod yn ffocws llawer o ymchwil a diddordeb ymhlith cynulleidfaoedd ysgolheigaidd a'r cyhoedd fel ei gilydd. Bydd ffilm Hollywood newydd am chwedl y cleddyf a ffilmiwyd yn Eryri, yn cael ei rhyddhau’n ddiweddarach eleni, felly rydym mewn sefyllfa dda i ddangos gwreiddiau'r hanesion yng Nghymru'r Oesoedd Canol.'
Cynhelir y digwyddiad lansio am 4pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prifysgol Bangor.
Yn dilyn sylwadau rhagarweiniol gan Dr Aled Llion Jones (Ysgol y Gymraeg), ar y pwnc 'Arthur yng Nghymru - Arthur ym Mangor', bydd yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yn rhoi anerchiad byr ar 'Malory's Round Table'.
Traddodir y brif ddarlith, 'Portable Arthur: Why medieval legends are still relevant to us' gan yr Athro Raluca Radulescu. Yr Athro Radulescu (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yw cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac mae hefyd yn Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a golygydd Journal of the International Arthurian Society.
Ar ôl y darlithoedd, bydd lluniaeth ar gael yn Narllenfa Shankland yn y Brif Lyfrgell a chyfle i weld arddangosfa o lyfrau Arthuraidd prin yng Nghoridor Ystafell y Cyngor, ynghyd â'r arddangosfa ryngwladol newydd ar-lein o ddeunyddiau Arthuraidd.
Cewch fwy o wybodaeth am y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017
Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ym Mangor er sefydlu’r Brifysgol: mae nifer o weithiau safonol sy’n ganolog i waith yn y maes wedi eu cyhoeddi gan ysgolheigion fu – ac sydd – yn darlithio yma. Wele isod ychydig o wybodaeth am rai o brif ffigyrau’r hanes hwn.
Yr Athro William Lewis Jones (1866–1922)
Athro mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a hefyd Llyfrgellydd. Yn 1891 fe’i hapwyntiwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, a daeth yn Athro yn 1897. Bu iddo ran bwysig yn y gwaith o gasglu arian tuag at adeilad newydd y coleg. Cyhoeddodd King Arthur in History and Legend yn 1914.
Syr John Morris-Jones (1864–1929)
Gramadegydd, academydd a bardd oedd Syr John Morris-Jones. Ganed ef yn Llandrygarn, Sir Fôn, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn Mathemateg yn 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 fe’i penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd – rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Chwaraeodd ran flaenllaw yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, pryd enillwyd y Gadair gan T. Gwynn Jones am ei awdl ‘Ymadawiad Arthur’, a’r Goron gan R. Silyn Roberts am y Bryddest ‘Trystan ac Esyllt’
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1933–1992)
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones oedd Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1974 a 1992. Bu’n lladmerydd cryf dros yr iaith yn holl weithgareddau’r Brifysgol. Bu hefyd yn darlithio’n gyson i gymdeithasau llenyddol a chymdeithasau eraill ledled Cymru.
Yr Athro Gwyn Thomas (1936–2016)
Bardd, academydd, a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru oedd yr Athro Gwyn Thomas. Fe’i ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936 a chafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog; Coleg yr Iesu, Rhydychen; ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu’n darlithio yn Ysgol y Gymraeg hyd ei ymddeoliad fel Athro’r Gymraeg yn 2000. Bu Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2006–2008, a hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Enillodd dair gwobr Tir na n-Óg gan Gyngor Llyfrau Cymru – ar y cyd â Margaret Jones – am lyfrau i blant (Culhwch ac Olwen yn 1989, Chwedl Taliesin yn 1993, a Stori Dafydd ap Gwilym yn 2004).
Dafydd Glyn Jones
Mae Dafydd Glyn Jones yn ysgolhaig a geiriadurwr. Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch Ddarlithydd (Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg) ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd o’r brifysgol yn 2000.
Yr Athro P.J.C. Field
Darlithydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg oedd yr Athro P. J. C. Field rhwng 1964 a’i ymddeoliad yn 2004. Roedd yr Athro Field yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002–2005). Cyhoeddwyd ganddo yn 1990 ddiweddariad o olygiad E. Vinaver, The Works of Thomas Malory, ac yn 2013 cafwyd ganddo’r golygiad cyntaf o destun Malory o lawysgrif Winchester ac argraffiad cyntaf Caxton.
Yr Athro Peredur Lynch
Mae’r Athro Lynch yn arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a golygodd weithiau beirdd fel Einion Wan, Llygad Gŵr a Meilyr Brydydd. Y mae ganddo gyhoeddiadau lluosog ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991–96), sef y golygiad arloesol cyntaf o waith Beirdd y Tywysogion.
Yr Athro Jerry Hunter
Ac yntau’n frodor o Cincinnati, Ohio, yn ninas ei febyd yr enillodd ei radd gyntaf. Cyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 2000 Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid a roddwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.
Yr Athro Raluca Radulescu
Mae’r Athro Radulescu yn gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth). Hi yw golygydd cyffredinol cyfnodolyn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Journal of the International Arthurian Society a’r Annual Bibliography of the International Arthurian Society.
Dr Aled Llion Jones
Mae monograff diweddar Dr Jones yn ymwneud â thraddodiad proffwydol ehangach y canol oesoedd yng Nghymru, gan gynnwys testunau Arthuraidd. Darogan: prophecy, lament and absent heroes in medieval Welsh literature (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).
Symposia a Chynadleddau
Bydd aelodau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, yn staff a myfyrwyr ôl-radd, yn cyflwyno yn y gynhadledd hon, a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Medi 2018. Mae'r Ganolfan yn noddi un o'r sesiynau, ac fe fydd aelod allanol o'r bwrdd, Dr Samantha Rayner (UCL) yn cyflwyno rhywfaint o ganfyddiadau ei hymchwil i Archifau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, sydd bellach ym meddiant y Ganolfan.
Ddydd Iau 28 Mehefin 2018 cynhaliwyd symposiwm undydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd dan y teitl 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and Beyond' dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd y symposiwm yn adeiladu ar bortffolio hirsefydlog o waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol.
Darllenwch y blog yn llawn.
Gweld yr oriel.
Fe’i cynhelir bob pedair blynedd ac mae’n cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd – sy’n cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf – i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.
Ewch i wefan y gynhadledd.
Sesiwn Arthuraidd yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds, Gorffennaf 2019
Bydd sesiwn ar anifeiliaid a diwylliant materol mewn astudiaethau Arthuraidd yn cael ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan a Dr Renée Ward (Prifysgol Lincoln, y DU) a Dr Melissa Ridley-Elmes (Prifysgol Lindenwood, UDA)
Gweler yr Alwad Lawn am Bapurau.