‘Holding time in your hands: a medieval best-seller and its audiences’
Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Darlithoedd 2024
Crynodeb
Dyma sgwrs sy’n defnyddio damcaniaethau Eelco Runia ynghylch cysyniadau amser hanesyddol. Mae’n archwilio’r modd y cynigiai’r 'Brut' (y traddodiad hynod boblogaidd o ysgrifennu sy'n canolbwyntio ar hanes y wlad a'i thrigolion ym Mhrydain yr Oesoedd Canol) gyfleoedd i adfyfyrio a mynd i’r afael â phrofiadau personol a chyd brofiadau o amser. Dyma naratif sy’n mynd y tu hwnt i hanes neu lenyddiaeth trwy ymgorffori chwedlau, gwyrthiau, proffwydoliaeth, myth a mwy. Mae'r fformatau ffisegol y goroesodd y testun ynddynt yn ymwneud ag awydd i 'becynnu' amser mewn fformatau a oedd yn gweddu i wahanol ddosbarthiadau cymdeithasol, rhywiau a grwpiau oedran. Cyfrannodd ei pherchnogaeth a'i chylchrediad ymhellach, a hynny’n hirhoedlog, at ddatblygiad yr iaith Saesneg, arddull lenyddol y Saesneg, hanesyddiaeth a hanes llyfrau mewn ffyrdd nad oes modd eu hanwybyddu mwyach.