Baner ARFer

Arfer

Effaith ARFer hyd yma

Ers 2019, rydyn  ni wedi bod yn mesur defnydd iaith mewn gweithleoedd ledled Cymru. O roi ARFer ar waith, fe welon fod y defnydd o’r Gymraeg fwy neu lai wedi dyblu ymhlith y timau sydd wedi cymryd rhan.

Ap ARFer

Y cam nesaf yw trosi ARFer i weithio ar ffurf ap er mwyn sicrhau mynediad hwylus at fframwaith sydd wedi profi i fod yn hynod effeithiol, a hynny ar flaenau eich bysedd. Bydd yr ap arloesol a chynhwysol hwn, sydd wedi’i wreiddio ar sail tystiolaeth, yn cynnwys elfennau gêmeiddio ac yn galluogi defnyddwyr i bersonoli eu taith ARFer. Byddwn yn cynnal cyfnod treialu ap ARFer rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, 2024, cyn lansio’n swyddogol yn 2025.

Am ragor o wybodaeth:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag ARFer, e-bostiwch arfer@bangor.ac.uk

  • Dr Lowri Angharad Hughes (Cyfarwyddwr ARFer)
  • Dr Arwel Tomos Williams (Ymchwilydd ARFer)
  • Dr Shân Pritchard (Swyddog Hyrwyddo a Hwyluso ARFer)

Cymerwch gam at weithle dwyieithog heddiw!

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?