Egwyddorion Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn mabwysiadu’r egwyddorion sy’n sail i waith Comisiynydd y Gymraeg, sef:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny

Mae hyn yn golygu::

  1. Bydd y Brifysgol yn annog ac yn cefnogi myfyrwyr, staff ac eraill i ddefnyddio’r Gymraeg.
  2. Bydd cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hyrwyddo’n rhagweithiol.
  3. Bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd i astudio eu meysydd pwnc drwy’r Gymraeg ac yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny.
  4. Bydd ein gwasanaethau o’r un ansawdd yn Gymraeg a Saesneg drwy fod yr un mor weledol â’i gilydd, yr un mor hawdd eu defnyddio a’r un mor effeithiol.
  5. Bydd y Brifysgol yn cofnodi dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ac yn darparu gwasanaethau yn unol â’r dewis iaith hwnnw.
  6. Bydd ein polisïau a systemau recriwtio staff yn sicrhau bod capasiti dwyieithog y Brifysgol yn cael ei gynnal ar draws ystod a graddfeydd swyddi.
  7. Bydd ein staff yn cael eu hannog ac yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gyda’r nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng ngweithleoedd y Brifysgol. Bydd rhai o weithleoedd y Brifysgol (e.e. Pontio) yn rhai dynodedig o safbwynt sicrhau mai’r Gymraeg yw’r brif iaith gwaith.
  8. Bydd ein polisïau, ein cynlluniau a’n prosiectau yn ystyried yn llawn sut i roi lle canolog a naturiol i’r Gymraeg heb danseilio statws na defnydd o’r Gymraeg.
  9. Byddwn yn cynllunio’n rhagweithiol a blaengar er lles y Gymraeg gan ddefnyddio arbenigedd ymchwil ac arbenigedd cymhwysol er budd y defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn ehangach.
  10. Byddwn yn cofnodi penderfyniadau, prosesau a chwynion sy’n berthnasol i’r Gymraeg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?