Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi profiadau dysgu plant oed ysgol gyda gwybodaeth a gweithgareddau ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) yn sefydliad dwyieithog, amlddisgyblaethol, sy'n gweithio gyda’r asiantaeth gwella ysgolion (GwE) i greu tystiolaeth ymchwil. Y prif nod yw cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a lles plant trwy ysgolion.
Ein cefnogaeth i'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) yn y Cwricwlwm i Gymru
- Datblygwyd y rhaglen Food Dudes ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n defnyddio Modelu Rôl a Gwobrau i annog plant i flasu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, a'u blasu sawl gwaith. Gyda mwy na miliwn o blant bellach wedi cymryd rhan yn y rhaglen, mae Food Dudes wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys: Gwobr Aur Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig am Ymladd Gordewdra, Gwobr Rhagoriaeth Iechyd Cyhoeddus, a Gwobr Arfer Gorau Sefydliad Iechyd y Byd am gynnal y rhaglen mewn ysgolion cynradd ledled Iwerddon.
-
Mae trefoli, dulliau goddefol o deithio i'r ysgol ac yn ôl adref, diffyg mannau chwarae diogel, a themtasiynau cryf i dreulio amser o flaen sgrin, yn golygu bod plant yn byw bywydau cynyddol eisteddog yn y cartref a thu allan i'r cartref. Mae Dynamic Dudes, chwaer-raglen i Food Dudes, yn rhaglen newydd dielw sy’n newid ymddygiad, wedi'i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer plant ac athrawon mewn ysgolion cynradd, sy'n cynnwys yr un cymeriadau arwrol - Charlie, Rocco, Razz a Tom. Mae'r fideos ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r Dudes yn ymarfer er mwyn perffeithio'r sgiliau symud ysblennydd yr ydym wedi'u gweld yn eu perfformio yn y Dude Den - sgiliau sydd wedi helpu'r Dudes i rwystro cynlluniau dieflig General Junk a'r Junk Punks.
- Mae gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth (CEBEI), dan arweiniad yr Athro Judy Hutchings, dros 25 mlynedd o brofiad mewn ymchwilio a darparu rhaglenni sy'n ceisio gwella iechyd a lles plant, gan gynnwys y gyfres Blynyddoedd Rhyfeddol/ Incredible Years®, sydd â sylfaen dystiolaeth gref sy'n dangos ei effeithiolrwydd wrth ddarparu newid effeithiol a pharhaus o ran ymddygiad rhieni, athrawon a phlant, a rhaglenni gwrth-fwlio KiVa
-
Y Gyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) yw’r adnodd cyntaf i fod ar gael ar y we, sy'n cynnig cyfres o brofion mewn pum iaith i asesu iaith rhywun uniaith, dwyieithog ac ail iaith. Mae ymarferwyr a oedd yn flaenorol heb asesiadau gwrthrychol o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth i ganfod risg cynnar o fethiant llythrennedd plant wedi cael budd. Ers mis Medi 2019, mae dros 600 o ymarferwyr mewn 22 o wledydd wedi dod yn ddefnyddwyr MABEL.
-
Mae Darllen Cynnar Headsprout yn rhaglen ar-lein ar gyfrifiaduron a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym maes cymhwyso gwyddorau dysgu i fyd addysg. Cafodd y rhaglenni eu cynllunio i gynnwys yr elfennau hynny y mae'r ymchwil yn dangos sy'n bwysig o ran llwyddo gyda darllen, ac maen nhw'n darparu addysgu unigol y mae'n bosib ei darparu gyda'r chymorth lleiaf posibl gan y staff a hyfforddwyd i ddefnyddio Headsprout.
-
Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn ganolfan arbenigol hunan-gyllido, o fri cenedlaethol a rhyngwladol yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Mae tîm Canolfan Dyslecsia Miles o aseswyr arbenigol a seicolegwyr addysg cymwys dros ben yn darparu amrywiaeth eang o asesiadau ar gyfer oedolion a phlant.
-
Mae CEIREI, sefydliad cydweithredol, dwyieithog, amlddisgyblaethol, sy'n gweithio gyda’r asiantaeth gwella ysgolion (GwE) yn cynnal ymchwil i Ddatblygu Llythrennedd, gan gynnwys addasu a gwerthuso adnodd wedi'i seilio ar lafaredd sy'n cynnig strategaethau addysgu i gefnogi datblygiad llafaredd yn Gymraeg, yn seiliedig ar Ein Llais Ni.
-
Nod Sôn am Lyfra yw darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Crëwyd y wefan gan un o'n myfyrwyr PhD a oedd, fel athro, yn ymwybodol o'r anawsterau y mae plant, rhieni ac athrawon yn eu cael wrth ddewis llyfrau ar y lefel iaith briodol i’r rhai sy'n L2 yn Gymraeg.
SAFMEDS
Mae Dr Kaydee Owen wedi bod yn gweithio gyda GwE dros y cyfnod COVID-19 i greu ychydig o adnoddau ar gyfer eu sgiliau cyflymu/ ail-danio pecyn dysgu.
Mae SAFMEDS-GwE yn becyn cymorth cynhwysfawr sy'n ceisio cefnogi datblygiad sgiliau mathemateg a rhifedd rhugl ar draws y continwwm 4-16. Gall disgyblion ddefnyddio'r strategaeth ‘Say-All-Fast-Minute-Every-Day-Shuffled’ (SAFMEDS) yn yr ysgol neu gartref, a'i defnyddio naill ai gyda chardiau fflach llaw neu rithiol. Mae'r pecyn yn cynnwys adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm cenedlaethol, fideos hyfforddi ar-lein, a chymorth rhithiol trwy e-bost / Microsoft Teams.
Gall ysgolion gael hyfforddiant ac adnoddau y gellir eu hargraffu trwy ganolfan gymorth GwE (mae'r rhain ar gael yn Saesneg a Chymraeg). Ym mis Medi 2021 byddwn hefyd yn lansio ein gwefannau newydd, er mwyn caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio'r strategaeth cardiau fflach rhithiol.
-
Mae Creu ar Draws Ieithoedd yn gydweithrediad â GwE y gogledd. Fel rhan o gymrodoriaeth arweinyddiaeth AHRC, mae'r Athro Zoë Skoulding wedi creu set o fideos ar ddysgu barddoniaeth wrth gyfieithu i Flynyddoedd 8 a 9 fel rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r 11 fideo, sydd tua 20 munud o hyd yr un, yn cynnwys gweithdai a chyfweliadau â beirdd. Mae Zoë wedi gweithio gydag ymgynghorwyr addysg yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg i ddatblygu’r adnoddau, ac o fis Medi 2021 bydd athrawon yn rhoi sylwadau ar y deunyddiau cysylltiedig, yn barod i’w treialu gyda disgyblion ddechrau 2022.
-
Bydd project tair blynedd newydd, dan arweiniad Dr Lucy Huskison yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol yn casglu ac yn datblygu deunyddiau addysgu newydd i'w defnyddio gan athrawon a myfyrwyr, ac yn annog mwy o fyfyrwyr prifysgol presennol i ddod yn athrawon pwnc.
-
Mae 'Cyflwyniad i Gymdeithaseg' yn rhan o becyn adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi dysgu Cymdeithaseg yn y Gymraeg, ac fe'i hysgrifennwyd gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges, y ddau yn aelodau o'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor. Mewn cydweithrediad â'r cartwnydd, Huw Aaron, cyflwynir gwerslyfrau adolygu ar gyfer Cymdeithaseg mewn ffordd hwyliog a chofiadwy yn Gymraeg, gan obeithio y bydd yn arwain mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried gyrfa yn y maes.
Fel prifysgol flaenllaw gydag enw da'n rhyngwladol am addysgu ac ymchwil, yn ogystal ag ymrwymiad cryf i gefnogi ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, mae Prifysgol bangor yn falch o fod wrth wraidd Parc Gwyddoniaeth Menai, neu Msparc.
Ydych chi'n hoffi dysgu am wyddoniaeth yn yr ysgol? Efallai eich bod wedi bod yn ystyried dewis pwnc gwyddoniaeth ar gyfer eich Safon Uwch, neu hyd yn oed yn y brifysgol. Neu efallai eich bod wedi bod yn ystyried cychwyn eich cwmni eich hun gyda syniad newydd ac arloesol. Mae M-SParc eisiau helpu gyda'r holl bethau hyn. Efallai y gallwn ni fod y man lle rydych chi'n cychwyn eich cwmni, neu efallai bod cwmni eisoes yn M-SParc sy'n chwilio am staff ac sy'n gallu cynnig gwaith i chi, fel nad oes raid i chi symud ymhell o gartref i'r gwaith!
Bydd M-SParc hefyd yn gweithio gydag ysgolion. Fel rhan o hyn, mae gennym ni ychydig o gemau, fideos a gwybodaeth ar y dudalen hon i'ch helpu chi. Efallai y byddwch chi'n dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb! Mewn cydweithrediad â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, mae M-Sparc yn cefnogi ac yn ysbrydoli gwyddonwyr ifanc gydag ystod o weithgareddau o ddeall enfys i ddefnyddio rhaglennu JavaScript.
Mae Technocamps ym Mhrifysgol Bangor wedi’i leoli yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Mae Technocamps yn bartneriaeth ddigidol eang ei chwmpas, i gefnogi uwchsgilio digidol ledled Cymru. Caiff ein rhaglenni am ddim eu cyllido drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).
Arweiniodd yr Athro Enlli Thomas astudiaeth archwiliadol i'r ddarpariaeth ar gyfer pynciau STEM cyfrwng Cymraeg. Gellir darllen y Pdf yma.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn darparu cefnogaeth lefel pwnc i ddysgwyr ar lefel TGAU a Safon Uwch.