Aduniad Cyn-fyfyrwyr i ddathlu 140 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Bangor
Yn 2024 dethlir 140 mlynedd ers sefydlu ein Prifysgol. Pleser o’r mwyaf yw gwahodd ein cyn-fyfyrwyr yn ôl i Fangor i ddathlu!
Mae pris y tocyn yn cynnwys yr holl weithgareddau isod. Mae croeso i chi brynu tocynnau ar gyfer gwesteion sydd ddim yn gyn-fyfyrwyr.
Bydd yr aduniad yn dechrau gyda chwis tafarn ym Mar Uno ar safle neuaddau preswyl Pentref Myfyrwyr Ffriddoedd am 7 o’r gloch nos Wener, 13 Medi. Bydd y tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn eich croesawu i’r parti. Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu.
Ar ddydd Sadwrn, 14 Medi, bydd y rhaglen yn cynnwys:
10:00 Sgyrsiau ar y Brifysgol heddiw:
Croeso ac adroddiad gan yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor
Cyflwyniad i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Undeb Bangor heddiw gan Llywydd Undeb Myfyrwyr
gyda te a choffi a brownies enwog Prifysgol Bangor i ddilyn!
11:30 Gweld dadorchuddio'r portread o fotanegwyr Yr Athro David Thoday a Gladys Thoday yn Siambr y Cyngor
O 11:30 - 14:00 cyfle i ymweld â'ch hen ysgolion ac adrannau a chwrdd â staff a myfyrwyr presennol a gweld ein harddangosfeydd o atgofion cyn-fyfyrwyr ac Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ar gyfer y dathliadau cant a deugain.
11:45 Ymweld â Gerddi Botaneg Treborth - trafnidiaeth o Brif Adeilad y Brifysgol ar gael (cyfraniad o £4 i ddiwrnod agored y National Garden Scheme yn daladwy wrth gyrraedd). Trafnidiaeth i ddychwelyd i'r Brifysgol am 13:30pm
14:00 Cyflwyniad ar hanes y Brifysgol, dan arweiniad Gari Wyn, alumnus, hanesydd a gŵr busnes lleol
15:00 Taith hanes o gwmpas Brif Adeilad y Brifysgol
19:00 Diodydd croesawu ym Mhrif Adeilad y Brifysgol cyn y cinio aduniad
19:30 Cinio aduniad ac adloniant, Neuadd Prichard-Jones ac Ystafell Ddarllen Shankland
Cynhelir cinio aduniad tri chwrs yn Neuadd hardd Prichard-Jones neu, i nifer cyfyngedig iawn, yn Ystafell Ddarllen odidog Shankland ym Mhrif lyfrgell y Brifysgol.
Tocynnau £70 y pen (Rhaglen llawn gyda chinio'r aduniad yn Neuadd Prichard-Jones)
Tocynnau £85 y pen (Rhaglen llawn gyda chinio'r aduniad yn Ystafell Ddarllen Shankland, Prif Lyfrgell y Brifysgol)
Mae pob gweithgaredd yn ddewisol, ond byddem yn ddiolchgar pe gallech nodir ar y ffurflen archebu a ydych yn bwriadu dod. Sylwch y gall yr amseroedd uchod newid.
LLETY
Mae llety wedi ei gadw i’r rhai hoffai ddod i’r aduniad yn neuaddau preswyl y Brifysgol ar safle Ffriddoedd ac yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor.
Y Ganolfan Rheolaeth
Mae Canolfan Rheolaeth y brifysgol yn llety 4 Seren ar Ffordd y Coleg, gyferbyn â Phrif Adeilad y Brifysgol.
Mae amrywiaeth o ystafelloedd ar gael, gan gynnwys ystafelloedd dwbl, sengl a dau wely, pob un yn en-suite gyda Wi-Fi am ddim, cyfleusterau gwneud paned, setiau teledu sgrin fflat digidol, a digon o leoedd parcio ar gael.
I gadw ystafell, cysylltwch â'r Canolfan Rheolaeth yn uniongyrchol ar 01248 365900, gan roi'r cyfeirnod GA01965.
Neuaddau Preswyl
Mae llety ystafell sengl, en-suite hefyd ar gael yn neuaddau preswyl Idwal y Brifysgol ar Ffordd Ffriddoedd.
Mae ystafelloedd ar gael i'w harchebu yma: https://conference-bookaccommodation.bangor.ac.uk/ Rhowch y cod ALUMNI1.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog Cysylltiadau Alumni, ar b.w.perkins@bangor.ac.uk neu 01248 388332