Cronfa Bangor yn cefnogi arddagosfa ar-lein o lyfrau Arthuriadd prin
Mae Cronfa Bangor, cyfraniadau gan cyn-fyfyrwyr, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr wedi galluogi myfyrwyr meistr ôl-radd a PhD astudiaethau Arthuraidd canoloesol i lansio'r arddangosfa ar-lein 'Cartref y Chwedlau'. Mae’r arddangosfa hon yn arddangos detholiad o lyfrau Arthuraidd eiconig prin o gasgliadau’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Mae'r arddangosfa yn rhan o broject mwy o'r un teitl, sy'n dathlu casgliadau Prifysgol Bangor yn y flwyddyn mae’r brifysgol yn dathlu 140 o flynyddoedd ers ei sefydlu. Mae hefyd yn nodi deng mlynedd ers rhodd casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint i'r brifysgol. Cynhyrchodd y myfyrwyr PhD Claire Lober ac Aude Martin, ynghyd â’r myfyriwr MA Joel Meredith yr arddangosfa dan arweiniad Shan Robinson, y Rheolwr Casgliadau Arbennig. Cawsant gyngor arbenigol ar y Mabinogion gan yr Athro Emeritws Sioned Davies, aelod o fwrdd allanol y ganolfan, a gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr Athro Raluca Radulescu a Dr Aled Llion Jones, cyd-gyfarwyddwyr y ganolfan.
Meddai Raluca, “Mae’r arddangosfa hon yn gam arwyddocaol tuag at ddod â chasgliadau’r ganolfan at sylw’r gymuned ryngwladol, yn enwedig gan iddi gael ei chreu ar wahoddiad ein partner rhyngwladol, Llyfrgell Rossell Hope Robbins ym Mhrifysgol Rochester, y gadwrfa fwyaf yng Ngogledd America o weithiau Arthuraidd modern.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa hon, ynghyd â’r project ehangach sy’n cynnwys cyflwyno’r chwedlau hyn i ddosbarthiadau a gweithdai lles ar gyfer y gymuned, yn ysbrydoli ymchwil pellach a diddordeb mewn astudiaethau Arthuraidd. Mae arddangosfeydd digidol ac ar-lein yn borth delfrydol i arddangos casgliadau lleol fel ein rhai ni, ac yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ymchwil academaidd ac ymgysylltu â’r cyhoedd.”
Dywedodd Aude Martin, myfyriwr ôl-radd yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant, a’r Celfyddydau: “Roedd cymryd rhan yn y project arddangosfa 'Cartref y Chwedlau' yn brofiad academaidd gwych mewn nifer o ffyrdd. Bu gweithio ar y project yn fodd imi feddwl am ffyrdd newydd o sicrhau bod llenyddiaeth ganoloesol ac Arthuraidd ar gael yn hwylus ac yn rhwydd i’r cyhoedd. Bu’r project cydweithredol hefyd yn gyfle gwych i gydweithio fel tîm gyda myfyrwyr PhD eraill, ac roedd ein dulliau o ymdrin â’r deunydd yn ategu ei gilydd yn dda iawn.”
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu, “Rydym yn falch iawn o helpu mentrau fel y rhain, a hoffem ddiolch i'n cyn-fyfyrwyr am eu haelioni. Diolch yn fawr! Gyda’ch rhoddion chi, gall Cronfa Bangor gefnogi ein myfyrwyr yn barhaus i wella eu profiad fel myfyrwyr.”
Roedd y digwyddiad lansio yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr MA a PhD Astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd, a rannodd wybodaeth o'u projectau ymchwil cyfredol, a chyfoethogi'r dathliad o'r naratifau chwedlonol hyn ymhellach. Bydd carreg filltir nesaf y project yn cael ei dathlu mewn digwyddiad gan y brifysgol yn adeilad Pontio ddydd Mercher, 23 Hydref.