Cronfa Bangor yn cefnogi hyfforddiant gwaith maes blaengar yn y gwyddorau naturiol
Mae Cronfa Bangor wedi galluogi’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i brynu offer i’w ddefnyddio mewn modiwlau sy’n seiliedig ar ymchwil. Defnyddir yr offer mewn sesiynau ymarferol a gwaith maes neu fel rhan o brojectau ymchwil traethawd hir ar gyrsiau gradd BSc ac MZool.
Mae'r offer a brynwyd yn cynnwys trawsyrrydd radio, telemetreg radio, dyfeisiau Song Meter Mini ac offer ffotograffiaeth ac mae myfyrwyr wedi elwa o'u defnydd ar amrywiaeth o deithiau maes.
Defnyddiwyd y trawsyryddion radio yn ystod cwrs maes herpetoleg yn Arizona lle'r oedd myfyrwyr yn gallu olrhain nadroedd mewn gwahanol gynefinoedd a thirweddau, a dod o hyd i nadroedd anodd eu gweld a nadroedd yn cysgodi mewn tyllau. Defnyddiwyd yr offer hefyd yn ystod cwrs gwaith maes yng ngwarchodfa natur Gwaith Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth, lle bu myfyrwyr yn defnyddio telemetreg i ddod o hyd i nadroedd. Bu'r gwaith hwn yn ychwanegiad poblogaidd iawn at hyfforddiant gwaith maes yn ymwneud ag ymlusgiaid sy'n rhan o'r modiwl.
Ar y cwrs maes ym Madagascar ym mis Medi, defnyddiodd fyfyrwyr fonitro acwstig goddefol i astudio synau lemwr trwy'r dyfeisiau Song Meter Mini. Mae hyn yn dod yn fwyfwy pwysig mewn ymchwil maes ac mewn cynllunio cadwraeth gan fod modd casglu llawer iawn o ddata heb fawr o ymdrech gan ymchwilwyr ar sawl safle ar yr un pryd. Bydd y ddyfais hon yn parhau i gael ei defnyddio ar gyrsiau maes a bydd hefyd yn gymorth i israddedigion wneud ymchwil i’w traethodau hir.
Mae cael camera uwchfioled (UV) wedi ei addasu, trybedd a rigiau goleuo wedi bod o gymorth i fyfyrwyr dynnu lluniau madfallod yn y sbectrwm UV. Bydd y delweddau UV digidol o ansawdd uchel yn hynod fanteisiol ar gyfer eu hymchwil, yn ogystal â chaniatáu i fyfyrwyr ymchwil ddatblygu sgiliau prosesu delweddau a dadansoddi newydd. Bydd y pecyn ffotograffiaeth UV hefyd yn hwyluso projectau myfyrwyr israddedig ar liw madfall y muriau a rhywogaethau eraill, a nifer o brojectau cydweithredol sydd ar y gweill gyda chydweithwyr.
Meddai Dr Alexander Georgiev, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu'r ysgol, “Diolch i Gronfa Bangor, eleni mae ein hysgol wedi gallu ehangu’n sylweddol ar yr amrywiaeth o sgiliau maes ymarferol rydym yn eu dysgu i’n myfyrwyr ar ein cyrsiau maes. Mae gallu hyfforddi ein graddedigion yn y maes gan ddefnyddio offer ymchwil blaengar yn gryfder gwirioneddol yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r offer a brynwyd ar lawer o deithiau yn y blynyddoedd i ddod.”
Meddai Persida Chung, Swyddog Datblygu, “Diolch i’n cyn-fyfyrwyr hael, gallwn helpu myfyrwyr i gael rhywbeth ychwanegol ac ymchwilio i’w maes astudio mewn mwy o fanylder.”