Mae grant o Gronfa Bangor, a gynhelir gan roddion gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi galluogi myfyrwyr israddedig ac ôl-radd mewn llenyddiaeth Saesneg fynd ar daith i Lyfrgell John Rylands ym Manceinion, i weld llawysgrifau canoloesol prin, argraffiadau cynnar prin o destunau, yn ogystal ag enghreifftiau o argraffiadau printiedig prin o’r unfed ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain. Fe wnaeth myfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n astudio’r modiwl ‘Chwedlau ac Archarwyr’, yn ogystal â myfyrwyr MA mewn Saesneg, MA mewn Astudiaethau Canoloesol ac MA mewn Astudiaethau Arthuraidd elwa o’r cyfle arbennig hwn i ddyfnhau eu dealltwriaeth o lenyddiaeth yn ei chyflwyniad materol a’i chyd-destunau, yn ogystal ag ehangu eu gorwelion.
Dan arweiniad yr Athro Raluca Radulescu, cafodd y grŵp daith unigryw o amgylch adeilad hanesyddol John Rylands, a chyflwyniad i'r deunyddiau prin. Dywedodd Raluca, “Mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i'n myfyrwyr osod y wybodaeth maent wedi’i dysgu ar ein modiwlau, dan arweiniad arbenigol, mewn cyd-destun ehangach. Mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn (myfyrwyr y flwyddyn olaf) yr un mor eiddgar â’n myfyrwyr MA, ac mae eu brwdfrydedd am y cyfle hwn yn amlwg. Rwyf wedi bod yn arwain teithiau o'r fath i lyfrgelloedd pwysig dros yr ugain mlynedd diwethaf, a gallaf ddweud ein bod eu hangen yn fwy nag erioed. Mae'r cydbwysedd rhwng astudio yn ein llyfrgell a'n casgliadau, a gallu gweld a deall sut maent yn ffitio mewn cyd-destun llawer ehangach, yn hanfodol i dwf a dysg ein myfyrwyr.”
Mae creu cysylltiadau rhwng y gymuned leol a’i diwylliant cyfoethog, Cymru, Ewrop a’r byd, yn allweddol i’r modd y mae ein myfyrwyr yn ymgysylltu â threftadaeth yn eu hastudiaeth. Ychwanegodd Hadeel, myfyriwr MA Llenyddiaeth Saesneg, “Roedd camu i fyd y llawysgrifau prin a’r llyfrau hynafol ym Manceinion fel teithio trwy amser. Cefais fy syfrdanu a'm gwefreiddio'n llwyr, fel pe bai hanes ei hun wedi datblygu o'm blaen, a datgelu ei gyfrinachau. Roedd yn brofiad bythgofiadwy a ddyfnhaodd fy ngwerthfawrogiad o’r gorffennol a’i drysorau.”
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am gefnogi gweithgarwch y fenter ‘Dod â Chymunedau Ynghyd’ ar draws yr ysgol gyfan, sy'n creu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol rhwng ein myfyrwyr a chymunedau o weithwyr proffesiynol, ymarferwyr ac arbenigwyr.
Dr Elena Hristova, Cyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau



