Cronfa Bangor yn talu am ail-greu peiriant rhagfynegi tonnau hanesyddol
Mae grant gan Gronfa Bangor, sy’n seiliedig ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, wedi cefnogi Ysgol Gwyddorau’r Eigion i ail-greu peiriant rhagfynegi tonnau arloesol Jack Derbyshire.
Chwaraeodd Jack Derbyshire, a oedd yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, ran hollbwysig yn natblygiad rhagfynegi tonnau yn Labordy Ymchwil y Morlys, lle greodd beiriant i ragweld amodau tonnau – gwaith arloesol a osododd y sylfaen i eigioneg ffisegol fodern. Ym 1963, gwnaed yn Athro Eigioneg Ffisegol, y cyntaf yn y brifysgol, a chaiff ei gofio am ei waith arloesol ar ymddygiad tonnau.
Nod y project hwn oedd tynnu sylw at gyfraniad pwysig Derbyshire at ddatblygu technegau rhagweld tonnau i gynorthwyo cerbydau amffibiaidd i lanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y project hwn yn arbennig o amserol gan ei fod yn cyd-daro â 80 mlynedd ers glaniadau D-day fis Mehefin diwethaf. I nodi'r achlysur, crëwyd fersiwn symlach o'i beiriant dadansoddi tonnau, a gynlluniwyd i fod yn hygyrch i fyfyrwyr a'r cyhoedd. Mae posteri dwyieithog wedi eu llunio a’u gosod ger y peiriant i egluro'r gwaith.
Ers ei ddatblygu, mae'r peiriant wedi ymddangos mewn darllediadau newyddion i nodi 80 mlynedd ers D-Day, gan gynnwys erthyglau ar-lein a chyfweliadau teledu. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr yr ysgol a’r brifysgol. Mae'r peiriant yn arf addysgol i helpu myfyrwyr i ddeall dadansoddiad Fourier - y dull a ddefnyddiwyd i wahanu gwahanol gyfnodau tonnau, a oedd yn hanfodol wrth ragfynegi tonnau ar gyfer glaniadau D-day. Mae'r peiriant a'r posteri cysylltiedig bellach yn cael eu harddangos yn barhaol y tu allan i ystafell seminar Ysgol Gwyddorau’r Eigion.
Diolch i Gronfa Bangor, rydym wedi gallu adeiladu ein fersiwn ein hunain o’r peiriant dadansoddi tonnau sy’n cael ei ddefnyddio i arddangos egwyddorion eigioneg yn ystod diwrnodau agored. Mae rhyngwyneb electronig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a fydd yn ei wneud yn well byth i ddysgu eigioneg i israddedigion.
Yr Arthro Tom Rippeth, Athro Eigioneg Ffisegol






