Byddai o gymorth mawr i Brifysgol Bangor pe gallech gwblhau’r ffurflen “Datganiad o Fwriad” a’i dychwelyd i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, lle caiff ei chadw’n gyfrinachol. Bydd ei dychwelyd yn ein helpu i ddiolch i chi a sicrhau ein bod yn deall eich dymuniadau’n iawn.
Os mai dyna’ch dymuniad, gall aelod o’n tîm drafod eich bwriadau gyda chi er mwyn sicrhau bod eich cymynrodd yn ymarferol bosibl. Ni fydd hyn yn eich rhoi dan unrhyw rwymedigaeth i Brifysgol Bangor nac yn eich ymrwymo i unrhyw gamau neilltuol, ac ni fydd yn cyfyngu ar eich rhyddid i newid eich ewyllys.
Trwy eich cefnogaeth chi gallwn siapio’r dyfodol. Diolch yn fawr.