Cyfres awduron gwadd Y Llechan: Manon Steffan Ros
Gan ddathlu’r ieithoedd niferus a siaredir yng Nghymru, bydd yr awdur gwadd Manon Steffan Ros yn darllen o’i nofel arobryn Llyfr Glas Nebo yn Gymraeg, ac o’i chyfieithiad ei hun i’r Saesneg.
Dilynir hyn gan drafodaeth am y llyfr (yn Saesneg) a'i deithiau i wahanol ieithoedd, sy'n cynnwys Sbaeneg, Arabeg, Malayalam a Tsieinëeg.
Cyflwynir y digwyddiad gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a’i gynnal gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.