Darganfod Data
Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw dadansoddeg data mewn gwirionedd? Sut y defnyddir data? Pam ei fod mor bwysig a pham mae'r swyddi mor dda?
Ydych chi wedi meddwl sut y cafodd data ynghylch COVID-19 ei gasglu, ei ddehongli, a’i ddefnyddio i wneud penderfyniadau a oedd yn newid bywydau yn ystod pandemig byd-eang? Neu sut mae masnachwyr Wall Street yn gwneud penderfyniadau mewn mater o eiliadau sy'n costio miliynau? A beth am fusnesau yn rhagweld y duedd firaol nesaf - cyn iddo ddigwydd hyd yn oed?
Croeso i'r Gynhadledd "Darganfod Data" yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor - profiad unigryw a chyffrous a fydd yn codi cwr y llen i chi ar fyd cyflym dadansoddeg data busnes! Hoffwn wahodd blynyddoedd 11- 13 i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn ar y 3ydd o Fawrth. Bydd cinio a lluniaeth ar gael.
Dyma beth sydd ar y gweill i chi:
- Dirnadaeth ryfeddol gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig:
- Mae arbenigwyr a oedd yn rhan o grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru wrth ymateb i’r pandemig yn rhannu sut y bu i ddata helpu i ymdopi ag argyfwng byd-eang.
- Bydd siaradwr o Google yn datgelu sut mae “data wrth galon popeth” mewn arloesi technolegol.
- Masnachu fel Arbenigwr: Profwch y wefr o ddefnyddio terfynellau Bloomberg go iawn, y dechnoleg flaengar y mae gweithwyr proffesiynol ariannol gorau’r byd yn ymddiried ynddi.
- Heriau Rhyngweithiol: Profwch eich sgiliau datrys problemau mewn sioe gêm hwyliog, gyflym sydd wedi'i chynllunio i danio'ch meddwl dadansoddol.
- Meistroli'r grefft o ragweld: Dysgwch gan arbenigwyr yn y diwydiant ynghylch sut mae busnesau'n rhagweld y dyfodol - a sut y gallwch chi hefyd!
- Meistroli'r grefft o ragweld: Dysgwch gan arbenigwyr yn y diwydiant sut mae busnesau'n rhagweld y dyfodol!
- Gweithdai ymarferol: Gweithiwch ochr yn ochr â gweithwyr data proffesiynol, academyddion blaenllaw, a myfyrwyr dadansoddeg data. Archwiliwch sut mae data yn llywio penderfyniadau ym mhob diwydiant mewn sesiynau ymarferol, diddorol.
Nid dim ond cyfle dysgu yw hwn - dyma'ch cyfle i archwilio dyfodol dadansoddeg data busnes, cyllid a mwy. Byddwch yn darganfod sut y defnyddir data yn y byd go iawn, yn cael cip ar gyfleoedd gyrfa nad ydych chi efallai erioed wedi eu hystyried, ac yn dysgu sgiliau a fydd yn rhoi mantais ichi ym myd heddiw sydd mor ddibynnol ar ddata.
P'un a oes gennych chi gynlluniau gyrfa mawr yn barod neu'n chwilfrydig am rym data, mae'r digwyddiad hwn yn sicr o'ch ysbrydoli. Mae'n brofiad bythgofiadwy a allai danio'ch antur fawr nesaf.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â llaesu dwylo - sicrhewch eich lle heddiw a chymerwch y cam cyntaf i fyd dadansoddeg data. Dyma'ch cyfle i weld lle gall data fynd â chi!