Darganfod Economeg gydag Ysgol Busnes Bangor
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd Economeg gyntaf i bobl ifanc gogledd Cymru, a gynhelir yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, ar y cyd â Darganfod Economeg a Llywodraeth Cymru.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o weithgareddau dan arweiniad siaradwyr o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr economeg presennol. Wedi'i gynllunio i roi gwell dealltwriaeth o economeg i bobl ifanc trwy gyflwyno cymwysiadau enghreifftiol mewn ystod o gyd-destunau, a chyflwyno gwahanol yrfaoedd economegwyr proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG. Nod y gystadleuaeth yw annog myfyrwyr i gynhyrchu eu syniadau eu hunain wrth ddadansoddi’r problemau economaidd cyfoes y mae’r Deyrnas Unedig, a'r byd, yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Hoffem wahodd blynyddoedd 11,12 a 13 i ymuno â ni ar y campws yn y digwyddiad unigryw hwn ar 24 Hydref. Bydd cinio a lluniaeth ar gael.
Gall pob ysgol ddod ag uchafswm o 10 disgybl. Os oes galw cynyddol o fewn yr ysgol a hoffech ddod â mwy na 10 disgybl, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy e-bostio busnes@bangor.ac.uk.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.