Yn ôl Llywodraeth Cymru hon yw’r 'ddegawd dyngedfennol' i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio mai’r rhagamcan yw y bydd newid hinsawdd yn cynyddu amlder a dwyster cyfnodau o sychder, llifogydd afon ac arfordirol a chyfnodau o wres mawr - a disgwylir i hynny wanhau gwytnwch ecosystemau ymhellach. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynghori bod trawsnewid tir yn un o’r pedwar maes allweddol lle gall Cymru gymryd camau breision i gyrraedd sero net.
Mae'r tirweddau yr ydym yn eu hadnabod, y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt yn newid. Nid yw Eryri yn eithriad. Ond sut ddylem wynebu’r ffaith neu deimlo amdano? A ydym yn barod am newid?
Mae 'Newid Eryri' yn arddangosfa ryngweithiol sy’n taflu goleuni ar y newidiadau amrywiol y mae Eryri eisoes wedi bod trwyddynt, o’r prosesau cudd sy’n gynhenid i siapio ein dealltwriaeth o’i thirwedd, i’r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed yn hanesyddol gan Stad y Penrhyn.
Trwy gelf, sain, mapiau a deunyddiau archif eraill, bydd ymwelwyr yn darganfod sut mae Eryri a’n hymdeimlad o’r dirwedd wedi newid dros amser.
Y prif gwestiwn sy'n tywys yr arddangosfa chwilfrydig hon yw hyn:
Gall ddysgu bod tirweddau’n esblygu, yn ffisegol ond hefyd o ran sut y cânt eu hamgyffred, leihau dymuniadau i gadw’r dirwedd bresennol yn sefydlog ac yn ddigyfnewid?
Ewch i wefan y prosiect Project Website: reframing.wales i ddarganfod rhagor.
Mae'r arddangosfa yma'n rhan o broject ymchwil doethurol o'r enw 'Ail-fframio Cymru' a ariennir gan Gwmni'r Brethynwyr. Fe’i cefnogir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts, Yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio a Pontio.