Roedd Iddewon De Affrica yn rheng flaen y frwydr yn erbyn Apartheid rhwng 1948 a 1990/1992. Roedd yr wrthblaid gyfreithiol yn dibynnu arnynt yn ogystal ag ar sefydliadau radical a milwriaethus er mwyn herio’r gorthrwm hiliol. Tra mai Helen Suzman am nifer o flynyddoedd oedd yr unig un i leisio ei hanfodlonrwydd mewn senedd o wleidyddion gwyn yn unig, cynllwyniodd Ruth First a Joe Slovo gyda'u cymrodyr ym Mhlaid Gomiwnyddol De Affrica i ddod â democratiaeth i'w gwlad. Beth oedd effaith ymgyrchwyr Iddewig ar y frwydr dros ryddid mewn cymdeithas aml-ethnig fel De Affrica? Beth oedd eu cymhellion? Beth oedd eu profiadau mewn gwladwriaeth heddlu hynod hiliol? Beth am eu Hiddewiaeth – neu ai Iddew-iaeth ydoedd? A oes gwersi y gallem eu dysgu o frwydr rhyddid De Affrica ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu heddiw?