Cyfle i wirfoddoli i helpu ‘ailddarganfod cerflun ‘Map of Wales’ gan yr artist Cymreig Paul Davies
Helpwch i ddarganfod cerflun enfawr ar 2 Rhagfyr 2024 rhwng 10:00am - 2:00pm
Gwahoddir pobl ar Ynys Môn a'r cyffiniau i ymuno â digwyddiadau gwirfoddoli wrth gronfa ddŵr Llyn Alaw (Ynys Môn) i helpu i ailddarganfod cerflun anferth (tua 11x6 llath) gan yr artist Beca, Paul Davies (sy'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad ‘Welsh Not’ yn Eisteddfod 1977).
Mae’r digwyddiadau’n deillio o gydweithrediad parhaus rhwng Dŵr Cymru, Uned Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn, a’r ymchwilydd, Dr Sarah Pogoda o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor. Mae Sarah yn edrych ar waith Paul Davies a safle Llyn Alaw yn enwedig, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a theulu'r artist.
Mae Sarah yn esbonio, “Sefydlodd Paul y comisiwn gan Dŵr Cymru ym 1987 yng nghyd-destun ‘Blwyddyn yr Amgylchedd’ y Comisiwn Ewropeaidd ar y pryd. Ymunodd Paul, gyda myfyrwyr Celf a Dylunio Coleg Llandrillo Menai (Coleg Technegol Gwynedd gynt) ar y pryd a gwirfoddolwyr lleol dros gyfnod o fisoedd i adeiladu’r cerflun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn unig. Mae’n un o’r gweithiau mawr cyntaf o’r hyn a elwir yn ‘gelfyddyd tir yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.”
Mae'r cerflun wedi bod yn gordyfu gan fieri, eithin, ac isdyfiant am dros ddegawd. Ond gyda dau ddigwyddiad gwirfoddoli yn 2023, mae'r cerflun wedi'i glirio ac mae bellach yn weladwy.
Esboniodd Alwyn Roberts o Dŵr Cymru, “Rydym yn falch iawn o chwarae ein rhan i ddod â’r darn hwn o dreftadaeth ddiwylliannol yn ôl yn fyw. Roedd yr ardal - a chyda hynny'r cerflun - ychydig o olwg cyhoeddus ers i Bysgodfa Alaw gau nifer o flynyddoedd yn ôl, ond gobeithiwn trwy ein hymdrechion cydweithredol y byddwn yn dod â’r cerflun yn ôl i’w fwynhau gan ymwelwyr â’r safle, gan ei fod yn ddarn pwysig o dreftadaeth leol.”
Mae Owen Davies (Warden Cymunedol AHNE Cyngor Sir Ynys Môn) wedi bod yn arwain y gwaith o glirio’r gordyfiant o amgylch y cerflun a threfnu’r digwyddiadau gwirfoddoli. Eglura Owen, “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r cymunedau lleol i helpu i adfywio’r gwaith celf hanesyddol hwn ger Llyn Alaw gan ddefnyddio offer llaw fel tocwyr gardd a llifiau bwa. Mae wedi bod yn waith heriol a gwerth chweil, ac yr ydym yn ddiolchgar i’r rheini a helpodd yn ystod y digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf. Mae angen i ni nawr sicrhau ein bod yn cynnal cerflun clir, felly os gwelwch yn dda, mae angen llawer mwy o barau o ddwylo arnom ni!"
Bydd y digwyddiad gwirfoddoli yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr, 10:00am - 2:00pm. Gall gwirfoddolwyr gael ad-daliad am gostau tanwydd, ond byddwn hefyd yn trefnu lifftiau i'r safle ac yn ôl. Bydd toiled symudol a chyfleusterau golchi dwylo ar gael. Dewch â'ch cinio eich hun.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau gwirfoddoli, cysylltwch ag Owen Davies.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yn ymwneud â’r cerflun, cysylltwch â Sarah Pogoda neu 01248 382521.