GWEITHIO YN SAFLE TREFTADAETH Y BYD UNESCO
Mae staff a myfyrwyr yn gwneud gwaith cadwraeth ar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Yn ystod yr hydref, bu staff a myfyrwyr, mewn cydweithrediad â Dorothea Pumped Hydro, yn gwneud gwaith cadwraeth a chofnodi yn ardal Tirweddau Llechi Treftadaeth y Byd UNESCO yng Ngogledd Cymru. Pwyslais yr astudiaeth oedd pont o’r enw Pont Sarn Wyth-dŵr Ger Chwarel Lechi Dorothea. Roedd y bont wedi'i cham-briodoli yn wreiddiol fel sarn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddefnyddiwyd i gludo llechi o'r chwarel. Yn ôl ymchwil a wnaed gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, canfuwyd fod y bont yn llawer hŷn, ac yn dyddio o gyfnod cyn sefydlu'r chwareli.
Cynhaliwyd arolwg archeolegol manwl, a oedd yn fodd o asesu cyflwr presennol y safle. Er mwyn cynnal yr arolwg hwn, tynnwyd llystyfiant ymwthiol oddi ar y bont. Gwnaed hynny’n ofalus â llaw, er mwyn lleihau unrhyw ddifrod i'r safle. Mae gwaith eleni yn blaenoriaethu'r ochr ogleddol a brig y bont, a bwriedir dychwelyd adeg y Pasg i arolygu'r ochr ddeheuol.
Cynhaliwyd arolwg o’r bont gan ddefnyddio sawl techneg gan gynnwys sganwyr digidol 3D, arolwg gorsaf gyfan ac arolwg dronau. Mae'r cyfuniad hyn o dechnegau yn darparu cofnod cydraniad uchel o'r bont a'i chyffiniau agos.
Mae’r project wedi galluogi ein myfyrwyr i weithio yn ardal Treftadaeth y Byd a gwneud cyfraniad sylweddol i reolaeth barhaus y safle hanesyddol pwysig hwn. Mae sgiliau a ddatblygwyd trwy gymryd rhan wedi amlygu myfyrwyr i ystod eang o offer recordio digidol sydd â rhan gynyddol bwysig yn y sector treftadaeth gyfoes.
Gallwch weld rhai o'r sganiau digidol 3D yma.