Mae Academïau Sgrin Cymru wedi’u sefydlu i wella’n uniongyrchol y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cydweithio’n agos gydag Stiwdios Ffilm Aria ar Ynys Môn, Prifysgol De Cymru a Chynghrair Sgrin Cymru er mwyn adeiladu ffrwd gynaliadwy a chynhwysol ar gyfer diwydiant sgrin ffyniannus Cymru. Mae datblygu’r dalent gorau gyda’r sgiliau proffesiynol priodol a darparu cyfleoedd yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn greiddiol i’n cenhadaeth fel prifysgol, ac mae creu cynnwys bellach yn ddiwydiant byd-eang sy’n cynnig cyfleoedd enfawr i’n myfyrwyr yma yng Nghymru a thu hwnt.