Myfyrwyr Bangor yn cydweithio'n lleol ac yn rhyngwladol ar brosiect grymuso ieuenctid
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â phartneriaid o bob cwr o Ewrop i ddatblygu cwrs gwe o arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus, yn y gobaith o sicrhau bod rhaglenni ieuenctid y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hyder a dyheadau pobl ifanc.
Nod prosiect Erasmus EMPYRE (‘Empowering youth – successful youth work practices in Europe) yw mapio, gwerthuso a datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus, yn enwedig ym maes grymuso cymdeithasol a chyflogadwyedd ieuenctid.
Bu myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cydweithio â myfyrwyr o sefydliadau yng Ngwlad Pwyl, y Ffindir ac Awstria ar y prosiect, arweiniodd at greu cwrs gwe ‘grymuso ieuenctid’. Bydd y cwrs ar gael i fyfyrwyr a phobl sy’n gweithio mewn sefydliadau ieuenctid ar draws Ewrop, ac yn archwilio elfennau allweddol o waith ieuenctid llwyddiannus ac enghreifftiau ymarferol o arfer da.
Dywedodd Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn polisi cymdeithasol, “Roedd hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr Prifysgol Bangor weithio ar y prosiect gyda sefydliadau gwaith ieuenctid lleol, cyfweld â chyfranogwyr, ac ymweld â’r Ffindir am weithdy dwys 10 diwrnod o hyd.”
Roedd Lakeisha Evans, myfyrwraig ail flwyddyn sy’n dilyn gradd mewn Astudiaethau Plant a Phobl Ifanc a Pholisi Cymdeithasol, yn un o’r myfyrwyr gymerodd rhan ym mhrosiect EMPYRE gan deithio i’r Ffindir, sydd wedi ei enwi’n wlad hapusaf y byd am y pumed flwyddyn yn olynol gan indecs y Cenhedloedd Unedig er mwyn darganfod sut y mae gwahanol wledydd yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau ieuenctid.
“Rwy’n angerddol am eirioli dros bobl ifanc, yn enwedig rhai sydd wedi bod trwy’r system ofal neu’n mynd drwyddi, fel rhywun gafodd fy mabwysiadu fy hun.
“Cyn dod i’r brifysgol, roeddwn i’n gweithio mewn sefydliadau amrywiol o nyrsio i’r system ofal, ym maes iechyd meddwl ac yna mewn coleg fel mentor cymorth dysgu, felly rydw i wedi gweld y da a’r drwg o ran fy mhrofiad fy hun a phobl ifanc rydw i wedi dod ar eu traws, boed yn ffrindiau neu wrth arsylwi pobl ifanc yn ystod fy ngyrfa hyd yn hyn.
“Roedd ymweld â phrosiect gwasanaethau cyflogaeth Lahti yn y Ffindir yn agoriad llygad go iawn. Un o’r prif bethau darodd fi oedd bod pobl yn cael eu cyfrif fel person ifanc yn y Ffindir nes eu bod yn 30 oed, sy’n golygu bod gennych fwy o gyfle i oresgyn rhwystrau gyda chefnogaeth y sector gyhoeddus os nad yw pethau’n mynd ar y trywydd cywir ichi fel person ifanc. Roedd hefyd yn braf gweld sut yr oeddent yn darparu mannau diogel ar gyfer pobl ifanc mewn lleoedd fel canolfannau siopa, a’r modd yr oeddent yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc feithrin cysylltiadau go iawn a thrwy hynny, yn ennill ymddiriedaeth pobl ifanc. Roedd y ffordd roedden nhw’n defnyddio’r celfyddydau i ddatblygu hyder pobl ifanc a sut roedden nhw’n darparu cyfleoedd am swyddi a threialon gwaith hefyd yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio.
“Yn bendant mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu o'r pethau da sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd, ond hefyd y pethau drwg. Mae pobl ifanc yn aml yn cael gormod o sylw negyddol yn y wasg, ac mae angen i ni leihau stigma ynghylch methiant, parchu pobl ifanc, rhoi cyllid yn y meysydd cywir a gweld pobl ifanc am yr hyn ydyn nhw - y dyfodol.”
Yn ogystal ag ymweld â’r Ffindir, bu myfyrwyr o Fangor yn gweithio gyda dau bartner lleol, Wild Elements sydd wedi’u lleoli ym Mangor a Gisda, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli, gan gael cipolwg gwerthfawr ar sut mae’r ddau sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc.
Dywedodd Sian Tomos, Prif Weithredwr Gisda, “Roedd yn bleser mawr i ni fel elusen pobl ifanc i weithio gyda Phrifysgol Bangor ar y prosiect cyffrous hwn. Rydyn ni wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd, ac wedi cael ein cyfoethogi gan brofiadau cydweithwyr Ewropeaidd. Roedd yn anrhydedd cynrychioli Cymru ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor a chwarae ein rhan i ddatblygu’r modiwlau e-ddysgu a fydd ar gael i fyfyrwyr ledled Ewrop yn fuan.”
I gael rhagor o wybodaeth am astudio yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, cliciwch yma. Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs Grymuso Ieuenctid ar gael yma