Mae myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol a phroffesiynol am ddim i'r cyhoedd trwy Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, sydd newydd ei sefydlu. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael yn ystod y tymor, yn cynnig cymorth cyfreithiol hygyrch i'r gymuned ac yn rhoi profiad ymarferol defnyddiol dros ben i’r myfyrwyr.
Dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys ac uwch ddarlithwyr profiadol, bydd y clinig yn cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cynlluniwyd y gwasanaeth i ddarparu cyngor o ansawdd uchel, gyda'r holl argymhellion yn cael eu hadolygu'n drylwyr gan oruchwylwyr arbenigol cyn eu cyflwyno i’r cleientiaid.
Bydd y clinig yn dilyn proses strwythuredig i sicrhau y rhoddir cyngor cywir ac ystyriol i’r cleientiaid. Yn ystod y cyfarfod cyntaf, bydd myfyrwyr yn gwrando ar y cleientiaid ac yn casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol. Yna byddant yn gwneud ymchwil trylwyr i ddarparu arweiniad pwrpasol a phenodol. Cyn pen 14 diwrnod, bydd y cleientiaid yn cael llythyr gyda chyngor manwl, yn cynnig atebion ymarferol i'w pryderon cyfreithiol. Gan fod y clinig yn gweithredu fel gwasanaeth 'llythyr cyngor yn unig', ni fydd yn ymdrin â gwaith achos, yn cysylltu â thrydydd parti, nac yn cynrychioli cleientiaid yn y llys.
Bydd y clinig yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion sifil, gan gynnwys materion teuluol, cyflogaeth, tai a phroblemau gyda nwyddau a gwasanaethau. Ni fydd y clinig yn cynnig unrhyw gyngor ar gyfraith droseddol, mewnfudo na budd-daliadau lles.
Meddai Tracey Horton, cyfreithiwr a chyfarwyddwr y clinig, “Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ac i’r gymuned. Mae'n caniatáu i'n myfyrwyr gael profiad ymarferol a rhoi cymorth cyfreithiol defnyddiol i bobl mewn angen ar yr un pryd. Mae mynediad at gyfiawnder yn broblem enfawr ledled y Deyrnas Unedig ac yn enwedig yng ngogledd Cymru. Ein nod yw cydweithio â’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes yn yr ardal (gan gynnwys cyfreithwyr a sefydliadau trydydd sector) i helpu i lenwi’r bwlch hwn. Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon cyfraith sifil i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, sy’n rhad ac am ddim.”
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu Dinesig, “Mae’r Clinig Cyngor Cyfreithiol yn ychwanegiad ardderchog at ddarpariaeth y gyfraith, sydd eisoes yn rhagorol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n rhoi profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn i’n myfyrwyr wrth iddynt ystyried gyrfa yn y gyfraith, ac mae hefyd yn cynnig cefnogaeth werth chweil i’r gymuned leol. Mae'r fenter hon yn cyfoethogi dysgu’r myfyrwyr ond mae ganddi hefyd y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau'r clinig."
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388411.