Mae Ysgol Busnes Bangor yn grymuso busnesau a myfyrwyr trwy lawnsio rhaglen newydd ym maes dadansoddeg data a gynlluniwyd i ddarparu graddedigion ar gyfer y diwydiant sy'n deall sut i ddadansoddi a chyflwyno'r data y mae’r sefydliadau hynny yn ei gasglu.
Mewn adroddiad ynglŷn â dyfodol swyddi a gyhoeddwyd yn 2023 gan Fforwm Economaidd y Byd, dadansoddwyr data oedd y chweched math o swydd sy’n gweld y twf cyflymaf, ac roedd adroddiad gan Y Gymdeithas Frenhinol yn cyfeirio at brinder sgiliau yn y maes hwn, gan alw am weithredu i arfogi pobl ifanc â gwybodaeth a sgiliau ym maes gwyddor data a mynd ati i ddatblygu sgiliau proffesiynol a meithrin talent.
Yn 2021, cyfeiriodd gwefan gyrfaoedd CareerCast.com at ‘Wyddonwyr Data’ fel y proffesiwn pwysicaf ohonynt i gyd, a hynny diolch i’r ffordd y gwnaeth pandemig COVID-19 gyflymu symudiad defnyddwyr o siopau brics a morter i opsiynau ar y we ac apiau: “Gyda miliynau o gwsmeriaid yn defnyddio'r cynhyrchion hyn, mae galw cynyddol am Ystadegwyr, Mathemategwyr a Gwyddonwyr Data sydd â'r wybodaeth i ddehongli tueddiadau siopwyr.”. Adroddodd CareerCast.com hefyd fod “lledaeniad esbonyddol technoleg blockchain wedi creu sector newydd ffyniannus o fewn y proffesiwn dadansoddi data yn ei gyfanrwydd.”
Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn trafod y twf esbonyddol yn y maes hwn mewn digwyddiad i lawnsio rhaglenni newydd Prifysgol Bangor mewn dadansoddeg data ddydd Mercher 27 Medi rhwng 3-5pm ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch gofrestru am ddim yma.
Dywedodd Mike Hawkes o’r cwmni dadansoddi Capventis, a fydd yn aelod o’r panel yn y digwyddiad:
Mae pob clic, trafodyn, mesur a rhyngweithiad yn cynhyrchu swm digynsail o ddata. Mae ffabrig ein tirwedd busnes yn cael ei drawsnewid yn sylweddol: data bellach yw anadl einioes mentrau modern, ac mae bwlch amlwg ac annifyr wedi dod i'r amlwg - sef prinder unigolion sydd wedi eu harfogi i ddadansoddi data busnes.
"Mae'r bwlch hwn yn her amlwg ar bob lefel mewn menter fodern. Mae prinder gweithwyr proffesiynol sy’n hyfedr mewn harneisio pŵer data er mwyn cael mewnwelediadau strategol a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn taflu cysgod dros botensial nifer fawr o sefydliadau. Wrth i gystadleuaeth ddwysau, ac wrth i farchnadoedd ddatblygu ar gyfradd na welwyd ei thebyg o'r blaen, daw arwyddocâd sgiliau dadansoddi data yn fwyfwy amlwg. Mae'r sgiliau hyn yn galluogi busnesau i sylwi ar batrymau ystyrlon o ffrydiau data sy'n ymddangos yn anhrefnus, i nodi tueddiadau sy'n llywio dewisiadau cwsmeriaid, ac i optimeiddio gweithrediadau gyda thrachywiredd (nad oedd modd ei ddirnad cyn hyn).
Dywedodd Dr Adrian Gepp, Athro Dadansoddeg Data sydd wedi ymuno ag Ysgol Busnes Bangor yn ddiweddar:
“Mewn busnes modern, nid yw 'crensio’r rhifau' yn ddigon. Mae angen i chi ddeall sut mae busnesau'n gweithio, sut i fodelu data gan ddefnyddio'r offer datblygedig a'r ieithoedd rhaglennu diweddaraf, a sut i gyfleu eich mewnwelediad yn ôl i'r busnes i wella'r broses o wneud penderfyniadau a gwneud newid ystyrlon. Trwy astudio dadansoddeg data yma, bydd myfyrwyr yn caffael sgiliau dadansoddi data technegol a chraffter busnes. Byddant hefyd yn datblygu gallu i gymhwyso eu sgiliau uwch-fodelu a chyfathrebu eu canfyddiadau i ddatrys ystod eang o broblemau busnes ar draws sectorau o gyllid, marchnata i iechyd a llywodraeth.”
Dywedodd Amanda Yee, cyn-fyfyrwraig i Dr Adrian Gepp yn Awstralia sydd bellach yn gweithio ym maes dadansoddeg data yn Efrog Newydd:
“Pan o’n i eisiau newid swydd, doedd dim prinder swyddi yn y maes dadansoddi data a gwyddor data, a dwi'n meddwl mai’r rheswm am hynny ydy oherwydd bod cwmnïau wedi sylweddoli'n ddiweddar eu bod nhw’n eistedd ar swm aruthrol o ddata ac mae yna werth mawr iddo fo ar gyfer gwneud penderfyniadau busnes pwysig a ni ydy'r bobl a all ysgogi llawer o'r penderfyniadau hynny drwy’r dadansoddiadau y byddwn ni’n eu gwneud.
Pan o’n i’n astudio, roeddwn ychydig yn ansicr ynglŷn â beth ro’n i eisiau ei astudio, ond pe gallwn fynd yn ôl mewn amser byddwn yn dal i ddewis dadansoddeg data busnes oherwydd dwi ddim yn siŵr a fyddwn i wedi cael y cyfleoedd gyrfa yma a chael y cyfle i fyw mewn dinas fel Efrog Newydd taswn i heb ddewis y radd yma.”
Ychwanegodd Mujahid Rasul, a raddiodd yn 2022 gydag MBA mewn Bancio a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor ac sydd bellach yn ddadansoddwr buddsoddi yn Llundain:
“Y fenter hon yw’r cam cywir o ran dod yn nes at anghenion cyflogwyr yn yr oes hon o chwyldro technoleg. Mae Dadansoddeg Data yn dod yn sgil ddymunol iawn i raddedigion busnes a chyllid. Mae cwmnïau sy'n canolbwyntio ar dechnegau busnes dan arweiniad data ar flaen y gad ac mae angen graddedigion arnynt sy'n fedrus mewn dadansoddeg data. O eiliad gyntaf eich gyrfa, mae cyflogwyr yn dechrau profi gweithwyr i ddarganfod pa mor dda ydyn nhw wrth ddadansoddi data.”