Cyhoeddodd Advance HE enillwyr y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol (NTFS) ar gyfer 2023, ac mae'r Athro Graham Bird o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol newydd.
Mae hanner cant a phump o Gymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd, a 1143 yw’r cyfanswm ers lansio’r cynllun yn 2000. Caiff yr holl enillwyr eu cydnabod am eu cyfraniad rhagorol i addysgu rhagorol ac ysbrydoli cydweithwyr mewn addysg uwch.
Gweler rhestr lawn Enillwyr y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol 2023 yma
Dyfarnodd Advance HE hefyd 15 Gwobr Gydweithredol ar gyfer timau Rhagoriaeth Addysgu. Cewch weld y rheini yma: Enillwyr y Wobr Gydweithredol am Ragoriaeth mewn Addysgu 2023
Dywedodd Alison Johns, Prif Weithredwr, Advance HE,
“Llongyfarchiadau i’r holl Gymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd a thimau CATE ar ennill y fath glod sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo eu hymrwymiad i addysgu a dysgu a’r effaith ar lwyddiant y myfyrwyr.
“Rydym yn falch iawn o gynnal y gwobrau i sector addysg uwch y Deyrnas Unedig a dathlu’r bobl frwd hynny sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i addysg y myfyrwyr ac i ymarfer eu cydweithwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol newydd ac enillwyr CATE a rhannu eu harferion rhagorol gyda chydweithwyr ledled y sector.”
Ymunodd Yr Athro Graham Bird â Phrifysgol Bangor yn 2010, a gwnaeth gyfraniad arwyddocaol at ragoriaeth addysgu a dysgu dros y 13 mlynedd diwethaf. Daeth yn Gyfarwyddwr Cwrs Daearyddiaeth (2011), ac ers hynny bu’n ymgymryd â rolau â chyfrifoldebau cynyddol: Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu’r Ysgol yn 2012; Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu’r Coleg yn 2014; Dirprwy Bennaeth yr Ysgol yn 2016, ac yn 2020 daeth yn Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Addysgu a Dysgu.
Mae Graham yn Uwch Fentor yn y Brifysgol, fel adolygydd ar geisiadau Cymrodoriaethau AAU o bob categori yn y Sefydliad. Cafodd ei gydnabod yn Brif Gymrawd AAU yn 2021.
Mae parch mawr i Graham yn genedlaethol. Mae’n aelod o Bwyllgor Cyfle a Chyflawniad Myfyrwyr HEFCW, ac mae’n cadeirio Adolygiad Datganiadau Meincnodi Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Daearyddiaeth (2021). O ran y gweithgaredd olaf yma, penododd Graham Banel Adolygu cynhwysol, ac ymhlith y prif flaenoriaethau roedd ffocws ar dadgoloneiddio'r cwricwla, ac mae hyn yn symudiad effeithiol sy’n treiddio drwy’r ddisgyblaeth yn genedlaethol.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg, Yr Athro Nichola Callow,
“Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn bod yr Athro Graham Bird wedi ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NTF) eleni. Mae Graham yn arweinydd uchel ei barch am addysgu a dysgu ac mae wedi dylanwadu’n ddirfawr ar y polisi a’r ddarpariaeth sefydliadol o ran ein ymateb i'r pandemig, cadw gafael ar fyfyrwyr a dilyniant, technoleg ac ehangu mynediad. Mae Graham yn deilwng iawn o ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, ac edrychwn ymlaen at weld effaith ei brojectau nesaf.”
Rwyf wrth fy modd ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Mae'n anrhydedd fawr ‘cyrraedd y nod' mewn cynllun gwobrau cystadleuol iawn. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n arbennig o bleserus yw bod y dyfarniad yn cael ei wneud yn seiliedig ar farn aseswyr o'r Sector Addysg Uwch yn ehangach yn y Deyrnas Unedig, sydd, yn fy marn i, yn gymeradwyaeth wych o'm gwaith innau a’r hyn rydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Bangor.
“Wrth lunio’r cais bu’n rhaid imi feddwl am yr hyn rydw i’n ei wneud a’r hyn a’i gwnaeth yn wych. Nid yw'n broses hawdd imi! Roedd fy nghais yn cynnwys fy ymarfer addysgu a fy ngweithgareddau yn arwain addysgu a dysgu ym Mangor. Yn enwedig o ran yr olaf, yr hyn sy’n amlwg yw na fyddwn i wedi llwyddo heb imi weithio gyda rhai cydweithwyr gwych yn y Brifysgol.”
Mae panel annibynnol o uwch arweinwyr addysg uwch, sy’n cynrychioli pedair gwlad y DU, yn sicrhau ansawdd y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol a’r Wobr Gydweithredol am Ragoriaeth mewn Addysgu ac yn argymell enillwyr.
Dywedodd yr Athro Becky Huxley-Binns (NTF, PFHEA), Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg ym Mhrifysgol Hull, a Chadeirydd Panel Cynghori Gwobrau Rhagoriaeth Addysgu y DU 2023,
“Bob blwyddyn wrth i ni ddewis enillwyr NTFS a CATE, rydyn ni’n syfrdanu o glywed am y bobl hynod a dawnus hyn sy’n addysgu gyda’r fath broffesiynoldeb, angerdd ac ymrwymiad at addysg uwch. Doedd eleni ddim gwahanol.
“Mae’r gwobrau hyn yn hynod bwysig o ran cydnabod a dathlu’r bobl hyn a rhannu‘r 'hyn sy’n gweithio' fel bod cydweithwyr yn gallu adeiladu ar eu harbenigedd a bod myfyrwyr yn medru manteisio ar ymarfer gwych o ran addysgu a dysgu.”